Symud ymlaen o'r llywio

Etholiad Cyfarwyddwr - Naomi Hughes

Ymgeisydd ar gyfer Dwyrain De Cymru

Dros y flwyddyn ddiwethaf rwyf wedi bod yn gadeirydd Yes Cymru Merthyr, un o ganghennau YesCymru amlycaf y wlad.

Ers i mi gael f’ethol, mae’r gangen wedi bod yn hynod o weithredol, gan gynnwys cynnal stondinau mewn sawl achlysur, cynnal baneri ar bontydd, nosweithiau ymgyrchu, nosweithiau cymdeithasol, codi arian a chael ein hachredu gan Yes Cymru.

Ar ben hynny rwyf wedi bod yn ganolog wrth sefydlu grŵp rhanbarthol y de ddwyrain ac rwyf yn cadeirio’n cyfarfodydd yn aml. Rydym wedi datblygu rhwydwaith o grwpiau ac unigolion sy’n dod ynghyd yn aml i hyrwyddo annibyniaeth dros de Cymru ac yn hybu ardaloedd lle nad oes grŵp Yes Cymru gyda’r nod o sefydlu grwpiau newydd.

Rwyf hefyd yn angerddol dros yr iaith Gymraeg a dwi'n weithredol iawn yn helpu hyrwyddo’r Gymraeg ym mhentre’ Beddllwynog, lle rwy’n byw.

Yn bersonol rwyf yn athrawes ddylunio a dylunydd gyda’m cwmni fy hun sydd yn allforio cynnyrch ledled y byd, felly mae gennyf ddealltwriaeth a phrofiad rhedeg busnes. Mae hyn yn cynnwys cyfrifoldeb dros farchnata, hysbysebu, a gwerthu yn ogystal â’r dylunio ei hun. Hoffwn gynnig fy mhrofiad yn y meysydd hyn i gynorthwyo’n mudiad i hyrwyddo annibyniaeth i Gymru, gan ddarbwyllo ac argyhoeddi eraill i brynu mewn i ddyfodol gwell i bobl Cymru.

A dyna pam yr wyf i mor angerddol dros annibyniaeth Cymru. Fel menyw o dras gymysg yr wyf fi wedi ffeindio YesCymru i fod yn fudiad sy’n agored, cynhwysol a chroesawgar ac rwyf am hel y neges hon ar draws y wlad.

Hefyd fel mam a llysfam rwyf am weld Cymru yn y dyfodol sy’n cynnig cyfleoedd i’n bobl ifainc mewn gwlad oddefgar a theg.