Symud ymlaen o'r llywio

Newid Byd, Newid Cymru - Tudur Owen

‘MAE YNA DEIMLAD PENDANT O DDEFFROAD AC MAE YNA AWYDD AM NEWID’.

Pan nes i gamu oddi ar lwyfan mewn clwb comedi ym Manceinion ym Mis Mawrth 2020, ychydig feddyliais na dyna’r tro olaf, hyd yma, y byddwn i’n wynebu cynulleidfa. Ond bellach, wrth i’r byd feddwl am ail ddechra, mae comediwyr hefyd yn edrych ymlaen mentro i’r golau unwaith eto.

Un pryder sydd gan nifer o gomedïwyr ydi’r ffaith fod y byd wedi newid gymaint fel bod ambell i hen stori a jôc ddim yn berthnasol bellach, ac felly ddim am daro’r nod, (Dyna fydd fy esgus i pryn bynnag) fe gawn ni weld. Yn sicr bydd rhaid ceisio uniaethu o’r newydd gyda’r gynulleidfa, a’r ffordd ora i wneud hynny, dwi’n credu, ydi ail feddwl ac ail sgwennu deunydd sydd nid yn unig yn ddoniol, ond yn berthnasol i’r ‘normal newydd’ fel y gelwir.

Dyma hefyd, dwi’n credu, ydi’r her sy’n wynebu’r nifer ohonom sydd o blaid annibyniaeth i Gymru.

Nid i chwilio am y laffs, ond gan ystyried yr hyn mae’r wlad wedi profi yn ddiweddar, i ail feddwl ein neges a chysylltu o’r newydd a’r ‘gynulleidfa’.

Fe newidiodd curiad arferol ein bywydau yn ystod 2020 ac yn sgil hynny fe gafwyd cyfle gwerthfawr i edrych yn wrthrychol ar ein blaenoriaethau, ein cymunedau ac i ystyried ein dyfodol.

Yn yr un modd fe ddatgelwyd blaenoriaethau nifer o’n sefydliadau gwleidyddol yn ystod yr argyfwng yma, ac mae hynny wedi profi i fod yn ddadlennol iawn er falle ddim yn gwbl annisgwyl.

Heb os mae blaenoriaethau Llywodraeth Lloegr wedi bod yn wahanol iawn i’r rhai gweddill gwledydd yr undeb.

Mae cymhariaethau wedi’u gwneud rhwng diwedd y pandemic a golygfa olaf ffilm drychineb, gyda phobol yn camu allan i’r goleuni yn benderfynol o adeiladu byd a chymdeithas

well. Yn anffodus os ydan ni’n mynd i barhau a’r gymhariaeth sinematic yma, mae’n anorfod ein bod yn wynebu’r ffaith bod ‘sequel’ o’r enw Brecsit am ein taro. Ond mae’r gymhariaeth yn cyfleu’r hyn sydd wedi digwydd i ni yma yng Nghymru. Mae yna deimlad pendant o ddeffroad ac mae yna awydd am newid.

Mae effaith y pandemic ynghyd â’r niwed economaidd fydd yn cael ei achosi gan Brecsit yn gwneud diwedd y Deyrnas Unedig fel ‘dani’n ei adnabod yn anochel, ac felly mae annibyniaeth I Gymru yn mynd i fod yn bwnc fydd yn cael llwyfan amlwg yn y dyfodol agos.

Dyma’r rheswm pam mae’n rhaid i ni fod yn barod. Yn yr un ffordd ac mae’n rhaid i mi baratoi fy neunydd comedi newydd ar gyfer y misoedd nesa, mae’n rhaid i mi fel cefnogwr annibyniaeth hefyd, baratoi i gysylltu ac i uniaethu gyda chymaint o fy nghyd Gymry a phosib, o bob cefndir a phob iaith.

Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi gosod sawl her o’n blaenau ond mae o hefyd wedi cynnig cyfle. Mae ein dyfodol yn ein dwylo ni, ac mae’r momentwm dros annibyniaeth yn tyfu bob dydd. Gan fod y cwestiwn bellach wedi newid o fod yn “sut gall Cymru fod yn annibynnol?” i “Sut gall Cymru beidio bod yn annibynnol?” mae’r deunydd gennym ni i gamu yn hyderus ar unrhyw lwyfan, i ennill y ddadl ac i sicrhau y bydd Cymru am byth.

 

Parhau i Ddarllen

Darllen Mwy

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Gwiriwch eich e-bost am ddolen i actifadu eich cyfrif.