Ar 10 Hydref bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn pleidleisio ar gynnig i atal y drwydded sy'n caniatáu i fwd o adweithydd niwclear yn Somerset gael ei ollwng yn nyfroedd Cymru.
Mae YesCymru wedi arwain ar yr ymgyrch hon ar ôl i gannoedd ohonom ni gasglu i brotestio'r dympio ym mis Awst.
Mae'r pwysau rydyn ni wedi'i roi ar y pleidiau gwleidyddol yn y Cynulliad wedi arwain at y bleidlais hon.
Disgwylir i'r bleidlais ddigwydd am 5:30yh ar y 10fed o Hydref. Bydd protestwyr yn casglu y tu allan i'r Cynulliad Cenedlaethol yng Nghaerdydd o 4:30yh i adael i bob Aelod o'r Cynulliad wybod nad ydym am eisiau’r mwd hwn. Dewch â'ch baneri YesCymru.