Symud ymlaen o'r llywio

Canllaw Cyfryngau Cymdeithasol

Gall agweddau'r cyhoedd tuag at YesCymru gael eu dylanwadu'n sylweddol, boed yn dda neu'n ddrwg, gan ein presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol, felly mae'n bwysig ein bod ni'n ei wneud yn iawn.

Rydym yn byw mewn oes lle gall sylwadau ar y we dderbyn llawer o sylw negyddol yn gyflym, ac weithiau gall hyd yn oed rhannu, hoffi neu ail-drydar deunydd rhywun arall ddenu beirniadaeth. Felly mae'n bwysig ein bod yn ceisio ein gorau i lynu mor agos â phosibl at yr isod - mae'n berthnasol i'r hyn rydych chi'n ei bostio'ch hun ac rhannu deunydd pobl eraill.

Cofiwch eich bod yn siarad ar ran YesCymru - y sefydliad - nid fel unigolyn. Ar y nodyn yma, defnyddiwch 'Ni' yn hytrach na 'Dwi/Fi'.

Un o'r pethau pwysicaf i'w gofio yw, peidiwch â dweud unrhyw beth ar-lein na fyddech chi'n ei ddweud wyneb yn wyneb.

 

YesCymru

Grwpiau Eraill YesCymru a Chyfrifon Canolog

Mae'n hynod bwysig nad yw cyfrifon grwpiau swyddogol YesCymru, rhai cyfansoddiadol neu anghyfansoddiadol, yn anghytuno'n gyhoeddus neu'n ymosod ar gyfrifon grwpiau eraill YesCymru na'r cyfrif canolog ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae gwneud hynny yn hynod niweidiol i'r mudiad a gallai arwain at gamau disgyblu. Os ydych chi'n anhapus â phostiad benodol gan grŵp arall neu gan gyfrif canolog YesCymru, cysylltwch â nhw'n uniongyrchol i drafod y mater. Gellir gwneud hyn trwy anfon neges uniongyrchol neu drwy e-bostio'r grŵp. Mae cyfeiriadau e-bost grwpiau YesCymru ar gael trwy glicio ar y grŵp perthnasol yma

Ymgysylltu ag aelodau YesCymru ac aelodau'r cyhoedd

Pan yn ymgysylltu ag aelodau YesCymru neu aelodau o'r cyhoedd, gwnewch hynny mewn ffordd gadarnhaol a chwrtais hyd yn oed os ydych chi'n anghytuno'n gryf â nhw. Nid yw byth yn dderbyniol i gyfrifon grwpiau YesCymru ymosod yn gyhoeddus ar aelodau YesCymru neu aelodau o'r cyhoedd. Os ydych chi'n teimlo bod aelod YesCymru wedi gweithredu'n amhriodol ar y cyfryngau cymdeithasol, dilynwch y weithdrefn cwynion sydd ar gael yma.


Pynciau

Materion allanol

Cadwch yn glir o unrhyw faterion nad ydynt yn uniongyrchol gysylltiedig â'r ymgyrch dros annibyniaeth, materion a allai achosi anghytundeb rhwng cefnogwyr annibyniaeth. Gan fod YesCymru yn sefydliad amhleidiol, nid oes gennym safbwynt/polisi ar faterion penodol fel arfer, heblaw'r gred y bydd Cymru yn wlad well o reoli ei materion ei hun. Efallai y bydd rhai pobl yn ceisio defnyddio YesCymru fel platfform ar gyfer eu credoau/ideoleg eu hunain, a gofyn i YesCymru fynegi safbwynt neu roi sylwadau ar faterion penodol. Bydd cael ein llusgo i faterion allanol ond yn gwanhau ein neges graidd, ac yn rhoi rheswm i rai pobl beidio â'n cefnogi. Felly dylech anwybyddu unrhyw gais o'r fath oni bai ei fod yn ymwneud yn uniongyrchol ag annibyniaeth, neu oni bai bod YesCymru wedi penderfynu cefnogi'r achos. Yn y rhan fwyaf o achosion bydd yn bosibl ateb y cais trwy eu hatgoffa y bydd pobl Cymru yn penderfynu ar hyn ar ôl annibyniaeth. Dyma rai enghreifftiau o faterion a allai achosi dadleuon rhwng cefnogwyr annibyniaeth:

  • Aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd - o'r rhai a bleidleisiodd yn refferendwm 2016, pleidleisiodd dros hanner i adael yr UE. Mae arolygon YouGov diweddar yn dangos cefnogaeth gref i annibyniaeth ymhlith y rhai a bleidleisiodd i adael yr UE. Felly peidiwch â rhoi barn ynghylch a ddylai Cymru fod yn aelod o'r UE - dim ond dweud y bydd gan Gymru'r hawl i benderfynu ar hynny ar ôl annibyniaeth. Byddai bod yn feirniadol o'r ffordd y mae Llywodraeth San Steffan wedi rheoli'r broses o adael yr UE yn dderbyniol, gan mai mater o gymhwysedd yw hwn, nid ideoleg.
  • Mewnfudo - mae hwn yn bwnc dadleuol ar y gorau, ac yn sicr nid yw'n un y dylai YesCymru fod yn mynegi barn arno. Eto, mae polisi mewnfudo yn rhywbeth a gaiff ei benderfynu gan Lywodraeth Cymru annibynnol.
  • Y frenhiniaeth - nid yw pawb yn credu y dylai Cymru annibynnol fod yn Weriniaeth, felly nid ydym am ddieithrio'r bobl hyn o'r syniad o annibyniaeth. Gallwn ymweld â'r mater hwn ar ôl annibyniaeth, fel y gwnaeth Iwerddon.
  • Eraill - y fyddin, sosialaeth/cyfalafiaeth, ynni niwclear.

Pleidiau gwleidyddol a sefydliadau eraill

Rydym yn sefydliad amhleidiol. Ni ddylem ddangos gogwydd i un blaid am gefnogi annibyniaeth. Yn yr un modd, peidiwch ag ymosod ar un arall am beidio. Mae ennill cefnogaeth prif bleidiau Cymru yn hanfodol os ydym am gyflawni ein nod. Efallai bod gan rhywun farn ar ba mor gyflym y mae Llywodraeth Cymru yn dod yn ei blaen gyda datganoli, ond os ydym yn feirniadol o sut maent yn rhedeg ein gwlad gyda'r pwerau sydd ganddynt ar hyn o bryd, gallai rhywun yn hawdd ofyn "Pam ydych chi eisiau annibyniaeth a rhoi mwy o bwerau iddynt?", a thanseilio'r achos dros annibyniaeth felly.

Yn yr un modd, peidiwch ag ymosod ar sefydliadau, grwpiau nac ymgyrchoedd eraill. Rydym yn debygol o fod angen eu cefnogaeth yn y dyfodol.

Peidiwch â chythruddo dilynwyr sefydliadau yr ochr arall i'r ddadl trwy wrthdystio yn eu digwyddiadau. Dim ond tynnu sylw negyddol at ein hachos y bydd hyn, a gallai arwain at ddial yn y pen draw, ble mae gwrthwynebwyr annibyniaeth yn mynychu ein digwyddiadau ni'n hunain. Gallai hyn beri i ddigwyddiadau YesCymru wyro oddi wrth y digwyddiadau hapus a chadarnhaol yr ydym am iddynt fod.

Rydym am gadw'r sgwrs annibyniaeth yn rhydd o elyniaeth er mwyn ennyn diddordeb pawb. Am yr un rheswm, peidiwch â defnyddio deunyddiau ymgyrch YesCymru i orchuddio deunyddiau sefydliadau eraill. Mae YesCymru yn gweithio oherwydd ei fod yn cael ei ystyried fel gwir ddewis amgen, yn hytrach nag yn bodoli ddim ond i wrthwynebu pethau eraill.

Tor-cyfraith

Peidiwch â hyrwyddo na mawrygu gweithrediadau anghyfreithlon, yn y gorfennol na'r presennol, hyd oed yng nghyd-destun ymgyrchu dros annibyniaeth. Byddai hynny ond yn tanselio'n hachos.

Addysg

Peidiwch â bod yn nawddoglyd nac yn goeglyd tuag at eraill - mae'n bwysig ein bod ni'n parhau i fod yn broffesiynol ac yn gwrtais, beth bynnag fo'u credoau. Peidiwch ag ymosod ar unigolion sydd â barn wahanol, nac ymuno ag eraill sy'n gwneud hynny. Mae'n bwysig bod cyfrifon YesCymru yn aros yn uwch na hynny, ac i beidio â chael eu gweld yn hyrwyddo ymddygiad negyddol. Yn hytrach nag ystyried y bobl hyn fel gelynion, dylem geisio newid eu meddyliau yn bwyllog gyda'r wybodaeth gywir. Ni ddylid beio neb am fod â barn 'Brydeinig' - mae llawer o bobl wedi bod yn derbyn gwybodaeth wrth-Gymreig trwy gydol eu hoes. Ein her yw eu haddysgu.


Ffurfio'r neges

Tôn

Peidiwch â bod yn negyddol. Mae ymateb gwell i negeseuon cadarnhaol.

Ieithoedd

Defnyddiwch yr ieithoedd rydych chi'n gyffyrddus â nhw. Os gallwch chi siarad y ddwy iaith, yna defnyddiwch y ddwy iaith. Rydym yn cydnabod y gall rhywfaint o ddeunydd fod yn fwy addas weithiau mewn un iaith dros y llall. Rydym yn hapus i gyfathrebu’r grwpiau lleol gyd-fynd ag arferion ieithyddol y gymuned leol.

Steilio

Defnyddiwch y ffurf YesCymru ym mhob achlysur, yn hytrach na Yes Cymru. Os yn defnyddio fersiwn byr o enw eich grŵp, defnyddiwch y ffurf YesCaerfyrddin yn hytrach na Yes Caerfyrddin.

Pwyll

Peidiwch â gyrru eich neges ar frys - mae'n werth cymryd munud i sicrhau nad oes unrhyw wallau teipio/sillafu cyn ei anfon.

Dolenni

Oherwydd y ffordd y mae Facebook a Twitter yn trin dolenni mewn negeseuon, argymhellir peidio â rhannu mwy nag un dolen mewn un neges.

Lluniau

Os nad ydych chi'n rhannu dolen, mae'n syniad da rhannu llun gyda neges i ddenu sylw. Ar Twitter, mae cymhareb delwedd o 2:1 yn gweithio'n dda. Mae canllaw sy'n cael ei ddiweddaru'n rheolaidd ar gael yma. Wrth ychwanegu delwedd gallwch gysylltu hyd at 10 o gyfrifon Twitter eraill o dan y botwm who is in this image?. Mae hon yn ffordd dda o sicrhau bod y neges hefyd yn cael ei gweld gan grwpiau YesCymru eraill, neu grwpiau sydd â diddordeb.

Hashnodau

Mae'n arfer da defnyddio'r hashnodau #annibyniaeth neu #indyWales o bryd i'w gilydd. Ond peidiwch â defnyddio gormod o hashnodau mewn un trydariad neu gall ymddangos yn rhy brysur.


Defnydd pellach

Gweithgarwch y grwpiau

Mae gennym restr Twitter o'r holl grwpiau YesCymru https://twitter.com/YesCymru/lists/grwpiau-yescymru-groups. Mae'r rhestr yn cyfuno popeth y mae'r grwpiau hyn wedi'i drydar. Mae'n ffordd dda o rannu gweithgareddau'r grwpiau, ond hefyd i rannu'r holl ddeunydd ar y we y mae'r grwpiau wedi'i ddarganfod - erthyglau, straeon, darnau barn - felly rhannwch gymaint ag y gallwch.

DM Twitter neu Facebook Messenger

Weithiau bydd aelod o'r cyhoedd yn cysylltu'n breifat trwy Twitter neu Facebook. Dylai'r negeseuon hyn gael eu trin fel e-byst, felly dylem ateb popeth sy'n berthnasol. Os ydych chi'n ansicr sut i ymateb i unrhyw beth, gofynnwch am gymorth. Yn Facebook Messenger, defnyddiwch y botwm 'Mark as done' (top ochr dde) i gwblhau sgwrs a chadw trefn ar ein blwch derbyn.


I gloi...

Os oes gennych unrhyw amheuaeth a ddylech anfon rhywbeth oherwydd y gallai fod yn mynd yn erbyn yr uchod, yna gwell peidio â'i anfon, rhag ofn. Neu cysylltwch ag aelodau eraill i gael eu barn.

Ond, yn bwysig, mwynhewch y broses - rydyn ni am i'r profiad fod yn hwyl i chi a'r gynulleidfa.