Symud ymlaen o'r llywio

Ymgyrch 2032 YesCymru: Y Rhesymeg

Yr haf yma, dechreuodd sticeri newydd YesCymru ymddangos ledled y wlad, gyda logo YesCymru arnynt, yn ogystal â 2032. Doedd dim esboniad, dim datganiad i’r wasg, dim ond tua 15,000 o sticeri o’r fath ar arwyddion a lampau o Fôn i Fynwy ac o Aberystwyth i’r Fenni.

Yn ystod Eisteddfod y Garreg Las yng ngogledd Sir Benfro eleni, cawsom yr esboniad wrth i YesCymru lansio ein hymgyrch 2032. Cred YesCymru y bydd Cymru mewn sefyllfa dda i ennill refferendwm ar annibyniaeth erbyn 2032. Ond pam lansio’r ymgyrch nawr, a pham rydyn ni o’r farn y byddwn ni’n medru cynnal ac ennill refferendwm yn y chwe blynedd nesaf? Ai taflu saethau yn y tywyllwch ydyn ni? Ai caniatáu i ffug obaith ennill y dydd yn hytrach nag wynebu realiti y mae YesCymru? Ydyn ni'n gadael i’n calonnau reoli ein pennau?

Mae’r syniad o 2032 wedi bod ar y gweill ers tipyn erbyn hyn yn y sgyrsiau rydyn ni, fel bwrdd, wedi’u cynnal ar strategaeth a chyfeiriad YesCymru. Mae sawl ffactor wedi bod yn ganolog i’r trafodaethau hyn, a byddaf yn ceisio rhoi crynodeb ohonynt yma. Felly, i’n haelodau ac i bawb arall sy’n ymddiddori yng ngwaith, dyheadau a dyfodol ein mudiad a’n gwlad, dyma’r rhesymeg y tu ôl i’n hymgyrch 2032.

Arolygon barn

Yn ddiweddar, rydyn ni wedi bod yn canolbwyntio ar gomisiynu arolygon barn er mwyn sefydlu sylfaen ar gyfer ein cynlluniau strategol. Fel rheol, mae pawb yn edrych ar y penawdau, gan gynnwys llawer iawn o gefnogwyr ac aelodau YesCymru. Bydd y rheini’n hollol ymwybodol bod y ffigurau wedi aros yn eu hunfan dros y blynyddoedd diweddar. Ar ôl eithrio’r rhai sydd ddim yn gwybod, mae tua un o bob tri o’r rhai a fyddai’n pleidleisio yn dweud y bydden nhw’n cefnogi annibyniaeth. Mae hynny’n llawer uwch na’r gefnogaeth ddegawd neu fwy yn ôl, ond y gwirionedd yw ei fod yn dal i olygu y byddai tua dau o bob tri yn pleidleisio yn erbyn. 

Ond, drwy anwybyddu’r rhai sydd ddim yn gwybod, rydyn ni’n colli gwybodaeth hynod bwysig. Os nad ydyn nhw’n gwybod, mae’n deg tybio y gallan nhw fod yn agored i’r syniad, ond heb gael eu darbwyllo eto. Pe baen ni’n gwybod beth sy’n codi amheuon am annibyniaeth, gallen ni newid ein ffocws strategol i leddfu eu hofnau a chodi cefnogaeth i annibyniaeth. Dyma pam rydyn ni wedi rhoi arian, amser ac adnoddau i wneud yr ymchwil ac ennill eu cefnogaeth.

Yn ein harolwg barn diweddaraf gyda Survation, dywedodd 32% o’r pleidleiswyr tebygol oedd wedi penderfynu sut i bleidleisio y bydden nhw’n pleidleisio dros annibyniaeth pe bai refferendwm yn cael ei gynnal yfory. Ond wrth ofyn i bawb nodi eu cefnogaeth i annibyniaeth ar raddfa o 0 i 10, lle roedd 0 yn golygu bod yn gryf yn erbyn a 10 yn gryf o blaid, gosododd 34% eu hunain rhwng 6 a 10. Gosododd 20% arall eu hunain reit yng nghanol y raddfa, ar 5. Mae hyn yn cynrychioli grŵp sylweddol o bleidleiswyr y gellid eu perswadio i gefnogi annibyniaeth. Os gallwn ni ennill eu cefnogaeth, mae digon o bleidleisiau posibl i ennill refferendwm.

Yn hollbwysig, mae gennym ni hefyd well dealltwriaeth o'r pryderon sydd angen i ni fynd i'r afael â nhw, gyda 46% yn nodi pryderon am yr economi fel y rhwystr mwyaf i annibyniaeth Cymru. Mae YesCymru yn gweithio gydag economegwyr ar hyn o bryd i sicrhau ein bod ni’n cyflwyno gwybodaeth o’r safon uchaf am ddyfodol economaidd Cymru, ac rydyn ni am ddechrau trafodaeth genedlaethol ar y pwnc.

Hawdd fyddai awgrymu mai ennill y ddadl economaidd yn unig fyddai’n ddigon i sicrhau buddugoliaeth, ond mae’r realiti’n fwy cymhleth na hynny. Mae pryderon eraill hefyd yn dal pobl yn ôl, ac mae’r cyfnod rhwng nawr a 2032 yn rhoi digonedd o amser i ni fynd i’r afael â’r materion hyn a magu rhagor o gefnogaeth i annibyniaeth.

Er enghraifft, mae pryderon am lywodraethu yn arwyddocaol yn ein harolygon barn ac yn cyfrif am tua 20%. Drwy sicrhau bod y strwythurau yn eu lle i hwyluso’r broses o drosglwyddo pwerau o San Steffan i Fae Caerdydd, byddwn ni, unwaith eto, yn gallu codi cefnogaeth i Gymru annibynnol.

Mae llawer iawn o ddynion eisoes wedi penderfynu sut y byddan nhw’n pleidleisio, tra bod menywod yn fwy parod i newid eu meddwl. Rydyn ni hefyd yn gwybod nad oes cymaint o debygolrwydd y bydd barn na bwriadau pleidleisio yn newid yn sylweddol ymhlith y rhai dros 65 oed, yn enwedig dynion. Ar y llaw arall, mae llawer mwy o botensial i weld twf yn y gefnogaeth ymhlith menywod rhwng 18 a 24 oed.

Yn gyffredinol, mae pobl iau yn llawer mwy tebygol o gefnogi annibyniaeth. Mae’r mwyafrif wedi tyfu i fyny gyda hunaniaeth Gymreig llawer cryfach na’r cenedlaethau cynt, ac maen nhw’n gweld eu hunain yn gyfartal â phobl ym mhob gwlad annibynnol arall yn y byd. Dyw cymhlethdodau israddoldeb ddim yn eu gwaed, ond mae hyder a chwant am ryddid yn eu heneidiau.

Gan ddefnyddio’r data, rydyn ni’n gwybod pwy yw’r rhai sydd ar y ffens, pwy yw ein grwpiau targed, beth sy’n bwysig iddyn nhw a’r ffordd orau o ennill eu cefnogaeth.

O’r data, rydyn ni’n gallu gweld bod posibilrwydd gwirioneddol y gallwn ni ennill refferendwm drwy berswadio’r rhai sydd eto i benderfynu. Ond os oes un wers rydyn ni wedi’i dysgu o brofiad yr Alban yn 2014, honno yw bod yn rhaid i ni ennill pan ddaw’r cyfle.

Y sefyllfa yng ngwledydd Celtaidd eraill

Mae dadl wedi bod ers tro y bydd refferenda yn y gwledydd Celtaidd eraill yn cael effaith ar y ffordd mae pobl Cymru yn pleidleisio mewn refferendwm dros annibyniaeth. Ond mae grŵp strategaeth YesCymru o’r farn bod y sefyllfa’n fwy cymhleth na hynny, ac mae data’r arolygon barn yn cefnogi’r safbwynt hwn. Tasai’r Alban yn pleidleisio dros annibyniaeth, neu Iwerddon yn ailuno, byddai’r gefnogaeth i annibyniaeth i Gymru yn aros fwy neu lai’r un fath, gydag unrhyw wahaniaethau o fewn ffin gwall yr arolygon barn. Yr hyn sy’n drawiadol, fodd bynnag, yw y byddai’r gefnogaeth i aros yn y Deyrnas Unedig yn cwympo’n sylweddol yn y ddwy sefyllfa, tra byddai canran y bobl sydd heb benderfynu yn cynyddu’n sylweddol i oddeutu 30%.

Mae hyn yn awgrymu y gallai newidiadau cyfansoddiadol mewn gwledydd eraill wanhau’r gefnogaeth i’r Undeb yng Nghymru, ond na fyddai hynny o reidrwydd yn arwain at fwy o gefnogaeth i annibyniaeth. Ni ddaw ein hachubiaeth drwy ddwylo eraill, mae hynny’n sicr.

Mae’r syniad y bydd Cymru yn dilyn gwledydd eraill yn ddirmygus i bobl Cymru. Mae’r hyn rydyn ni wedi’i weld yng Nghymru yn ddiweddar yn gwrth-ddweud hynny hefyd, gyda rhagor o bobl yn pleidleisio mewn etholiadau Cymreig ac, am y tro cyntaf yn hanes datganoli, plaid heblaw Llafur yn dod i’r brig yn y Senedd. Mae safon y wasg wleidyddol Gymreig yn llawer gwell nag oedd o’r blaen, gyda sefydliadau ac unigolion fel Nation.Cymru a Will Hayward yn canolbwyntio ar wleidyddiaeth Cymru mewn ffyrdd na welwyd gynt. Rydyn ni, bobl Cymru, wedi magu mwy o ddiddordeb yn y materion sy’n effeithio arnon ni, ac rydyn ni’n deall llawer mwy am ein system wleidyddol. Mae Cymru wedi deffro, ac mae hynny’n argoeli’n dda i ni ac i’r dyfodol.

Hefyd, er nad oes llwybr glir at refferendwm dros annibyniaeth heb ganiatad San Steffan, mae cynseiliau wedi’u gosod. Cynhaliwyd refferendwm yn yr Alban yn 2014, ac mae Cytundeb Gwener y Groglith yn darparu ar gyfer refferendwm ar ailuno Iwerddon yng Ngogledd Iwerddon. Byddai gwadu’r cyfle i Gymru gynnal ei refferendwm ei hun dros annibyniaeth yn debygol o wneud un peth, sef arwain at dwf yn y gefnogaeth i annibyniaeth.

Yn ddiweddar, mae grwpiau dros annibyniaeth o bob rhan o’r gwledydd Celtaidd wedi cwrdd yng Nghaerdydd o dan drefniant YesCymru. Mae rhaglen uchelgeisiol ac arloesol o gydweithio ar y gweill. Unwaith eto, mae YesCymru yn arwain. Dyw e ddim yn ein natur ni i ddilyn yn unig.

Y Senedd

Mae’r newid yn ein Llywodraeth yn amlwg yn bositif hefyd. Mae Plaid Cymru yn blaid sydd â’i gwreiddiau mewn annibyniaeth, ac mae hynny wedi arwain at berthynas bositif rhyngddi hi a YesCymru. Rydyn ni wedi cael cyfarfod â’r Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros faterion cyfansoddiadol, Dr Dafydd Trystan Davies, ac mae yntau wedi ymddangos fel gwestai ar ein stondin yn yr Eisteddfod. Ond mae gwahaniaethau rhwng safbwynt Plaid Cymru a dull YesCymru o fynd ati i sicrhau annibyniaeth. Mae’r Blaid yn glir y bydd yn blaenoriaethu datganoli pwerau ychwanegol yn hytrach nag annibyniaeth.

Fel mae profiad Cymru gyda materion megis Ystâd y Goron a’r rheilffyrdd yn dangos, does gan YesCymru ddim llawer o ffydd ym mharodrwydd San Steffan i drosglwyddo pwerau a fyddai o fudd i ni wrth adeiladu cenedl annibynnol.

Nid ydyn ni am aros llawer hirach, ac rydyn ni’n credu bod pobl Cymru yn barod i gofleidio ein gweledigaeth. O ystyried bod Plaid Cymru wedi mynnu na fydd yn cyflwyno newidiadau cyfansoddiadol yn ystod ei thymor cyntaf, rydyn ni’n credu bod rhaid i dri pheth ddigwydd os ydyn ni am sicrhau refferendwm erbyn 2032: rhaid i Blaid Cymru a/neu bleidiau eraill sy’n cefnogi annibyniaeth ennill eto yn y Senedd yn 2030; rhaid i fwyafrif o Aelodau’r Senedd gefnogi cynnal refferendwm (ond nid o reidrwydd annibyniaeth ei hun); ac mae’n rhaid i YesCymru berswadio Llywodraeth Cymru i ofyn yn ffurfiol am y pwerau i gynnal refferendwm ar annibyniaeth drwy Orchymyn o dan Adran 109 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Bydd ein gallu i berswadio Plaid Cymru i roi blaenoriaeth i annibyniaeth yn dibynnu arnom ni’n codi cefnogaeth i annibyniaeth ymhlith pobl Cymru. Os ydyn ni’n gallu codi’r gefnogaeth i annibyniaeth yn uwch na’r 33% oedd yn bwriadu pleidleisio dros Blaid Cymru yn ein harolwg barn diweddaraf gyda Survation, ac yn nes at y gefnogaeth gyfunol o bron i 40% i Blaid Cymru a’r Blaid Werdd, sydd ill dwy yn cefnogi annibyniaeth, bydd gennym ni gardiau llawer cryfach i’w chwarae.

Ond y gwirionedd yw bod angen i’r gefnogaeth i annibyniaeth gyrraedd dros 50% erbyn diwrnod y refferendwm. Nid yw hynny’n golygu bod rhaid i ni gyrraedd y lefel honno cyn dechrau ymgyrch refferendwm. Pan lansiwyd ymgyrch swyddogol Yes Scotland ym mis Mai 2012, roedd y gefnogaeth i annibyniaeth tua 33%. Erbyn y refferendwm ym mis Medi 2014, roedd y ffigur hwnnw wedi codi i 44.7%. Er i’r refferendwm gael ei golli yn y pen draw, dangosodd yr ymgyrch gymaint y gall barn y cyhoedd newid pan fydd annibyniaeth yn dod yn ddewis gwirioneddol, a’r dadleuon yn cael eu trafod ledled y wlad.

Ffactorau eraill

Bydd ffactorau eraill yn chwarae rhan wrth i ni droedio’r llwybr at annibyniaeth. Yn wleidyddol, mae pobl Cymru yn symud i ffwrdd o wleidyddiaeth Lloegr. Rydyn ni’n credu mewn pethau gwahanol, mae gennym hunaniaeth wahanol a gweledigaeth o ddyfodol gwahanol. Nid ‘For Wales, See England’ mwyach, ond am Gymru, yng Nghymru, dros Gymru.

Mae mudiadau eraill ar draws Ewrop yn edrych arnom ni, a gallai llwyddiannau YesCymru helpu mudiadau mewn llefydd fel Llydaw, lle mae ymgyrchwyr yn anelu at sicrhau rhyw fath o ddatganoli erbyn 2032.

Mae gan y wasg yng Nghymru lawer mwy o ddiddordeb mewn annibyniaeth nawr, ac mae’r cyfryngau cymdeithasol yn rhoi llwyfan i ni dyfu cefnogaeth. Hefyd, mae gwendidau trychinebus (iddyn nhw, nid i ni) yn y mudiadau o blaid y status quo ac ymhlith y rhai sy’n gweld Cymru fel rhan annatod o Brydain. Pan welwyd 8,000 o gefnogwyr ar strydoedd Aberystwyth ym mis Medi eleni, roedd yn hen bryd i’r Undebwyr ymateb. Mae eu methiant llwyr i wneud hynny’n awgrymu nad ydyn nhw’n barod am y frwydr. Un peth sy’n sicr: rydyn ni’n barod.

Cyd-ddigwyddiad llwyr yw y bydd 2032 yn nodi union 750 o flynyddoedd ers lladd Llywelyn ap Gruffudd, ein Tywysog brodorol olaf. Er bod llawer ohonom ni’n edrych ar hanes Cymru mewn ffordd ramantus, mae 2032 yn ymwneud â dyfodol Cymru, â Chymru newydd. Nid gadael pethau i siawns na rhamantu’r gorffennol ydyn ni. Rydyn ni am greu Cymru decach, gyfoethocach, fwy hyderus a mwy llewyrchus.

Felly, yng ngeiriau Dafydd Iwan, ‘I’r Gad!’ Nawr yw’r amser i gefnogi Cymru, cefnogi ein dyfodol a chefnogi annibyniaeth. Os nad ydych yn aelod o YesCymru, ymunwch. Mae pob ceiniog yn gam yn nes at annibyniaeth. Os ydych yn aelod, diolch am eich cefnogaeth. Dewch mas. Ymunwch â grŵp lleol a byddwch yn weithgar yn eich cymuned, eich gweithle neu eich clwb lleol. Gwnewch eich gorau glas i berswadio eraill i ymuno â YesCymru > www.yes.cymru/ymuno.

Mae llawer o waith gyda ni i’w wneud, a dim ond chwe blynedd i’w gwblhau.

Rob Hughes

Cadeirydd YesCymru


Cynhaliwyd arolwg ar-lein gan Survation, o 1,023 o oedolion oed 16+ yng Nghymru ar ran YesCymru. Roedd hwn ar eu bwriadau pleidleisio ac agweddau tuag at annibyniaeth i Gymru. Mae tablau ar gael yma.

Ymgyrch Refferendwm 2032 - 3 Awst 2026


Gwyliwch ar Radio YesCymru

"Mae Cadeirydd newydd YesCymru, Rob Hughes, yn sgwrsio gyda Siôn Jobbins am lansiad yr ymgyrch newydd ‘2032’ dros refferendwm annibyniaeth, a’r posibilrwydd o ymgyrch ar y cyd dros annibyniaeth i Gymru a’r Alban ac Iwerddon unedig."

Parhau i Ddarllen

Darllen Mwy

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Gwiriwch eich e-bost am ddolen i actifadu eich cyfrif.