Symud ymlaen o'r llywio

Mae 38% o bobl eisiau i Gymru ddod yn genedl annibynnol

Yn ôl arolwg diweddaraf Redfield & Winton Strategies - Welsh San Steffan, Senedd & Bwriad Pleidleisio Refferendwm Annibyniaeth, mae 38% o bobl eisiau i Gymru ddod yn genedl annibynnol.

Dangosodd yr arolwg barn hefyd y byddai 41% o bobl rhwng 18 a 24 oed a mwyafrif y rhai rhwng 25 a 34 oed (51%) yn pleidleisio o blaid annibyniaeth.

Yn ol yr arolwg  a gynhleir yn fisol,  mae'r nifer a fyddai’n pleidleisio NA  yn mewn refferendwm ar Gymru annibynol wedi gostwng 5% i 53%. Cynyddodd y canran byddai yn pleidleisio dros annibyniaeth o un pwynt i 33%. Tra bod y rhai a ddywedodd nad oeddent yn gwybod sut y byddent yn pleidleisio, wedi codi 4 pwynt i 14%.

Os eithrir y grŵp sydd heb benderfynu, mae’r ganran sy’n cefnogi annibyniaeth yn codi i 38%. 

Dywedodd Geraint Thomas, aelod o fwrdd YesCymru:

“Dim ond hanner y stori yw'r arolwg barn cyffredinol o blaid y bleidlais Ie. Mae'r darlun gwirioneddol yn gorwedd yn ein demograffeg iau. Mae dros 50% o bob un o'r grwpiau pleidleisio iau (dan 35 oed) o blaid annibyniaeth, a 55% o ieuenctid 18-24 oed yn cefnogol I’r syniad o Gymru rydd.

Mae egni a hyder o’r newydd o fewn y genhedlaeth iau  yng Nghymru, ac maent yn gweld mai’r unig ffordd o sicrhau eu dyfodol yw drwy Gymru annibynnol, hyderus yn torri ei chwys ei hun yn y byd.”

Parhau i Ddarllen

Darllen Mwy

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Gwiriwch eich e-bost am ddolen i actifadu eich cyfrif.