Symud ymlaen o'r llywio

Ethol Phyl Griffiths yn Gadeirydd Newydd YesCymru

Mae brodor “creadigol” o Ferthyr Tudful, sydd “yn llawn egni” wedi’i ethol yn Gadeirydd newydd YesCymru.

Mae Phyl Griffiths wedi cymryd yr awenau ar ôl cael ei ethol gan ei gyd-gyfarwyddwyr ar y mudiad ymgyrchu sydd o blaid annibyniaeth mewn cyfarfod o’i Gorff Llywodraethu Cenedlaethol yn Aberystwyth.

Phyl Griffiths - YesCymru Chair

Mae’r tiwtor Cymraeg i Oedolion yng Ngholeg Merthyr Tudful yn camu i’r rôl ar adeg pan ddangosodd arolwg barn diweddar gan Redfield & Wilton fod y gefnogaeth i annibyniaeth Cymru wedi cyrraedd 35%.

Mae wedi byw ym Merthyr Tudful ar hyd ei oes, ar wahân i gyfnodau yn astudio Celf a Dylunio yn Ysgol Gelf Caerfyrddin, yna yn Southampton.

Mae’n un o dri chyfarwyddwr sy’n cynrychioli rhanbarth De Ddwyrain Cymru ar fwrdd YesCymru, ac mae’n un o’r aelodau sefydlodd YesCymru Merthyr.

Bu’n allweddol wrth drefnu gorymdaith YesCymru ym Merthyr Tudful yn 2019, oedd wedi denu dros 5,000 o bobol, ac mae wedi chwarae rhan allweddol ym mhob gorymdaith ers hynny.

Mae Naomi Hughes, Cyfarwyddwr De Ddwyrain Cymru wedi cael ei hail-ethol yn Is-Gadeirydd YesCymru.

Dywedodd Phyl Griffiths, Caedirydd YesCymru:

“Roedd yn fraint ac yn anrhydedd derbyn y gwahoddiad gan fy nghyd-gyfarwyddwyr i fod yn Gadeirydd ar fudiad sydd wedi dod i olygu cymaint i gynifer ohonom yng Nghymru.

“Wedi dweud hynny, does dim amser i fyfyrio ar hynny’n ormodol gan fod digon o waith i’w wneud.

“Rydym yn datblygu cynlluniau cyffrous i adeiladu ac ehangu apêl YesCymru fel y gallwn estyn allan i bawb yng Nghymru.

“Mae hwn yn gyfnod tyngedfennol i’r mudiad sydd o blaid annibyniaeth, gyda pholau piniwn yn dangos yn gyson gefnogaeth i Gymru annibynnol ar dros 30%.

“Rydym ni yn YesCymru yn benderfynol o ledaenu’r neges i weddill y wlad mai’r ffordd orau i Gymru wireddu ei photensial yw i ni gymryd rheolaeth o’n tynged ein hunain a dod yn genedl annibynnol.

“Mae ein cred graidd yn un syml iawn a’r gred yw y dylai ein cynrychiolwyr etholedig sy’n gwneud penderfyniadau sy’n effeithio ar ein bywydau o ddydd i ddydd gael eu hethol gan bobl Cymru.

“Dim ond y rhai sy’n wirioneddol atebol i bobol Cymru y gellir ymddiried ynddyn nhw i lywodraethu er ein lles gorau.

“Mae pobol Cymru wedi cael eu siomi’n gyson gan wleidyddion San Steffan sy’n ein trin ni fel ôl-ystyriaeth.

“Bydd dod yn genedl annibynnol yn ein galluogi i gymryd ein lle haeddiannol ar lwyfan y byd a bydd yn ein galluogi i gymryd rheolaeth o’n harian, ein cyfreithiau a’n hadnoddau.

“Bydd hyn yn ei dro yn ein grymuso i fynd i’r afael â’r ffrewyll tlodi sydd wedi bod yn difetha ein cymunedau. Annibyniaeth yw’r ateb, be’ bynnag yw’r cwestiwn.”

Dywedodd Elfed Williams cyn-Gadeirydd YesCymru: “Mae Phyl wastad yn llawn syniadau creadigol sydd yn sail i ymgyrchoedd, digwyddiadau a phrosiectau cydweithredol gydag amryw o fudiadau eraill.

“Bydd dawn, gwaith caled a phositifrwydd Phyl yn gyrru’r mudiad yn ei flaen ac yn argyhoeddi’r a does gen i ddim amheuaeth y bydd yn ysbrydoli nifer o bobl i ymuno a’r achos.”

Parhau i Ddarllen

Darllen Mwy

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Gwiriwch eich e-bost am ddolen i actifadu eich cyfrif.