Symud ymlaen o'r llywio

Caerfyrddin fydd lleoliad yr Orymdaith Annibyniaeth nesaf

Mae YesCymru a Pawb Dan Un Faner Cymru (AUOBCymru) yn falch o gyhoeddi y bydd yr Orymdaith nesaf dros Annibyniaeth yn cael ei chynnal yn nhref hanesyddol Caerfyrddin ar ddydd Sadwrn, Mehefin 22.

Hon fydd yr orymdaith gyntaf i’w chynnal yn yr hen sir Dyfed, yn y de-orllewin a bydd yn adeiladu ar fomentwm gorymdeithiau blaenorol a gynhaliwyd ledled Cymru ers 2019, gan gynnwys Caernarfon, Merthyr, Wrecsam, Bangor, Abertawe a dwywaith yng Nghaerdydd, gyda miloedd ar filoedd yn gorymdeithio dros Gymru annibynnol.

Gwahoddir cefnogwyr i ymgynnull ym Mharc Caerfyrddin o 11 y bore, gyda'r orymdaith yn dechrau am 1 o’r gloch. Anogir gorymdeithwyr i ddod â baneri, chwibanau, drymiau, ac, yn anad dim, eu teuluoedd a'u ffrindiau.

Yn siarad ar ran YesCymru, dywedodd Gaynor Jones o Sir Gaerfyrddin:

Mae tref Caerfyrddin a’r sir wedi chwarae rhan flaenllaw yn hanes Cymru o gyfnod y Llyfr Du i ethol ASau radicalaidd oedd am herio a gwella’r broses ddemocrataidd. Tref annibynnol ei meddwl yw'r lleoliad delfrydol ar gyfer yr orymdaith Annibyniaeth nesaf. Dydy'r drefn gyfansoddiadol bresennol yn amlwg ddim yn gweithio. Byddwn ni’n croesawu pawb sydd eisiau Cymru annibynnol, a rheiny sydd eisiau gwybod mwy i gyd-gerdded gyda ni ar 22ain Mehefin.

Ychwanegodd Hedd Gwynfor, sy’n byw yng Nghaerfyrddin ac yn siarad ar ran AUOBCymru:

Mae’r Orymdaith dros Annibyniaeth sy’n dod i Gaerfyrddin yn argoeli i fod yn arddangosiad pwerus o benderfyniad pobl Cymru i ymuno â’r teulu byd-eang o genhedloedd annibynnol. Mae AUOBCymru eisiau Cymru well i bawb, a dyna pam rydyn ni'n ymladd dros annibyniaeth. Ymunwch â ni yng Nghaerfyrddin ar yr 22ain o Fehefin; pawb dan un faner.

Dywedodd Dylan Phillips, Cadeirydd YesCymru Caerfyrddin:

Mae ysbryd rhyddid yn gwau drwy hanes y de orllewin fel edefyn arian. Cofiwn am Gwenllïan, ac am Ferched Beca. Braint fydd gweld yr orymdaith nesa dros annibyniaeth Cymru yn cael ei chynnal yng Nghaerfyrddin a chroesawn bawb o bob cwr o’r wlad. Ymunwch gyda ni ar 22 Mehefin yn nhref chwedloniaeth Myrddin a buddugoliaeth Gwynfor, nid i edrych nôl, ond i edrych mlaen ac i alw am Gymru decach, Cymru gyfoethocach, Cymru rydd.

Sefydliadau llawr gwlad yw YesCymru ac AUOBCymru sy’n cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr ac yn ymroddedig i hyrwyddo achos Cymru annibynnol.

Bydd rhagor o wybodaeth am yr Orymdaith dros Annibyniaeth yng Nghaerfyrddin, gan gynnwys diweddariad a manylion eraill, ar gael yn fuan ar wefannau YesCymru (www.yes.cymru) ac AUOBCymru (www.auob.cymru). 

Gall pobl ddod o hyd i’r diweddaraf ar y cyfryngau cymdeithasol gan chwilio am hashnodau #yesCymru, #AUOBCaerfyrddin, #indyWales ac #Annibyniaeth.

Parhau i Ddarllen

Darllen Mwy