Symud ymlaen o'r llywio

Adroddiad o’r Gadair 2022

Mae hi wedi bod yn anrhydedd Cadeirio Bwrdd Llywodraethu Cenedlaethol Yes Cymru ers mis Mawrth a gweithio gyda grŵp ymroddedig o Gyfarwyddwyr, ein Prif Weithredwr newydd ar tîm. Mae’r gwaith wedi bod yn galed, ond un o orchestion mwyaf y llynedd oedd cysoni’r llong YesCymru a hwyliodd yn beryglus o agos at y creigiau ar ddiwedd 2021.

Nid yw'n waith cyffrous eistedd mewn cyfarfod ar ôl cyfarfod i sicrhau bod y cyllid, y llywodraethu a'r strwythurau mewnol yn addas i'r diben, ond mae'r canlyniad yn un boddhaol. Gallwn fod yn hyderus yn 2023 fod gan YesCymru seiliau cryf, dwfn a chadarn i dyfu ac ehangu ei aelodaeth, ei weithgareddau a’i effeithiolrwydd. Dyma’r hyn rydym wedi’i gyflawni yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a chredaf y gall ein Bwrdd gweithgar ac ymroddgar fod yn haeddiannol falch o’u holl ymdrechion. Mae YesCymru nawr mewn sefyllfa bwerus i gael hyd yn oed mwy o effaith ar y ddadl a’r symudiad dros Annibyniaeth dros y blynyddoedd i ddod.

Eleni rydym hefyd wedi gweithio gydag AUOB, gyda YesCymru yn darparu’r rhan fwyaf o’r cyllid yn ogystal â chefnogaeth trefnu a gweithredol sylweddol, gan ein Cyfarwyddwyr a gwirfoddolwyr, wrth drefnu dwy orymdaith lwyddiannus iawn – yn Wrecsam ac yng Nghaerdydd. Rhynt  y ddau ddigwyddiad amcangyfrifwyd bod bron i 18,000 wedi mynychu.

Bydd eleni yn flwyddyn gyffrous, gyda gorymdeithiau pellach eisoes ar y gweill ond hefyd cynhelir ein cynhadledd gyntaf erioed dros benwythnos yn Aberystwyth ganol Mehefin. Cyfle i gryfhau cysylltiadau personol o fewn y sefydliad ar draws Cymru, i ddysgu oddi wrth ein gilydd ac i wella ein sgiliau sylfaenol fel mudiad ymgyrchu ar lawr gwlad. Ein her fwyaf o hyd yw symud cefnogaeth ar gyfer annibyniaeth i fyny o’i lefel bresennol, sef tua 30%, i’r cam nesaf o dros 50% - y ffordd orau o gyflawni hyn fydd trwy drosi’r gefnogaeth sydd gennym eisoes, yng Nghymru ac ar wasgar o Gymry alltud, i aelodaeth gweithredol. Bydd hyn, nid yn unig yn helpu i ariannu’r ymgyrchu, yr ymchwil a’r marchnata gweladwy sydd ei angen arnom i sicrhau amlygrwydd i’r ddadl  ond gall pwysau’r aelodaeth ei hun fod yn arf i greu mwy o bwysau gwleidyddol o blaid Annibyniaeth.

 

Elfed Williams

 

Delwedd yr erthygl yw Elfed Williams, Cadeirydd presennol y Corff Llywodraethol Cenedlaethol ar y chwith, gyda Sion Jobbins, cyn-gadeirydd YesCymru ar y dde.

Parhau i Ddarllen

Darllen Mwy

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Gwiriwch eich e-bost am ddolen i actifadu eich cyfrif.