Dyddiadau Allweddol a Rhagor o Wybodaeth
- Pleidleisio mewn person: Rhwng 7am a 10pm ar 7 Mai 2026
- Dod o hyd i’ch gorsaf bleidleisio.
- Fideo - Sut fydd trefn bleidleisio newydd ar gyfer etholiad y Senedd eleni yn gweithio?
- Mae gwefan bwrwpleidlais.cymru yn esbonio popeth am etholiadau’r Senedd ar 7 Mai.
- Who Can I Vote For? (Saesneg) - Senedd Elections
- State of Wales (Saesneg) - Senedd Elections
Cefnogi Annibyniaeth? Pleidleisia dros Annibyniaeth!

Rydyn ni wedi cael golwg ar faniffesto y prif bleidiau fydd yn sefyll yn etholiad y Senedd ar 7 Mai 2026 ac wedi crynhoi’r hyn maen nhw’n ei ddweud am annibyniaeth i Gymru a datganoli grymoedd pellach.
Mae dolenni at bob maniffesto er mwyn i bobl allu eu darllen drostyn nhw eu hunain.
Ein bwriad yw rhoi gwybodaeth glir, hygyrch i bleidleiswyr allu gwneud penderfyniad drostyn nhw eu hunain.
Dydyn ni ddim yn cymeradwyo na chefnogi unrhyw blaid nac ymgeisydd, a dydyn ni ddim yn dweud wrth unrhyw un dros bwy i bleidleisio.
Er hynny, rydyn ni’n annog aelodau a chefnogwyr i bleidleisio dros ymgeiswyr a phleidiau sydd yn cefnogi annibyniaeth i Gymru.
Mae’r pleidiau wedi eu rhestru yn ôl eu cynrychiolaeth yn y Senedd flaenorol, ac wedi eu rhannu yn ddau - y rhai sydd yn sefyll ym mhob un o’r 16 etholaeth newydd a’r pleidiau sydd yn sefyll mewn rhai etholaethau yn unig.
Pleidiau sy’n Sefyll ym mhob un o’r 16 Etholaeth
Llafur Cymru
96+ o ymgeiswyr yn sefyll yn yr 16 etholaeth

Mae Llafur Cymru yn gwrthwynebu annibyniaeth i Gymru ond o blaid datganoli rhai grymoedd ychwanegol mewn meysydd penodol.
Dywed y maniffesto ei fod yn “adeiladu ar bopeth y mae Cymru wedi’i gyflawni trwy ddatganoli ac yn edrych ymlaen at y bennod nesaf.” Mae’n cynnig “Ddeddf Diwygio Cyfansoddiadol i ddiogelu datganoli a chryfhau statws Cymru yn y DU" ac yn dweud y bydd yn “Parhau i alw am ddiddymu Deddf Marchnad Fewnol y DU a gyflwynwyd gan y Llywodraeth Dorïaidd.” Mae’n dweud hefyd y bydd cynghorau “wrth wraidd y bennod nesaf ar gyfer datganoli” ac yn dweud y bydd yn cynnal “cynulliadau dinasyddion i drafod sut i ariannu costau gofal cymdeithasol yn y dyfodol a sut i greu cymunedau gwirioneddol gydlynol.”
Dywed y maniffesto y bydd Llafur Cymru yn “Parhau i geisio mwy o bwerau i Gymru, gan gynnwys datganoli Ystad y Goron a chyfiawnder ieuenctid a phrawf yn gam cyntaf tuag at ddatganoli cyfiawnder a’r heddlu.” Yn yr adran ar ynni, mae’n dweud eto y bydd yn “Gwthio’r achos o blaid datganoli pwerau dros Ystad y Goron.” Yn yr adran am yr economi mae hefyd yn ymrwymo i “sicrhau datganoli cymorth cyflogaeth nad yw’n rhan o’r Ganolfan Byd Gwaith i helpu mwy o bobl i mewn i waith, gan ganolbwyntio ar bobl anabl a phobl â chyflyrau iechyd.”
Y Ceidwadwyr Cymreig
96+ o ymgeiswyr yn sefyll yn yr 16 etholaeth

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn gwrthwynebu annibyniaeth yn gryf ac yn gwrthwynebu rhoi pwerau ychwanegol i Gymru.
Mae maniffesto’r Ceidwadwyr Cymreig ar gyfer etholiad Senedd 2026 yn cynnwys addewid i “Dileu ymestyn pwerau’r Senedd a refferenda pellach ar y setliad cyfansoddiadol, gan gynnwys gwahanu Cymru o weddill y Deyrnas Unedig.”
Dywed y maniffesto y byddai’n “Gwrthod ymdrechion Llafur a Phlaid Cymru i ddatganoli heddluoedd, cyfiawnder ac elfennau o’r system les.” Mae’n dweud hefyd y byddai’n dadwneud y cynnydd yn nifer yr Aelodau o’r Senedd a’i leihau o 96 i 60, “Rhoi stop ar wario ar faterion annatganoledig, fel cyfiawnder, materion rhyngwladol, cymorth tramor a mewnfudo,” ac y byddai’n “Gweithio gyda Llywodraeth y DU i hyrwyddo manteision y Deyrnas Unedig i bobl Cymru.”
Dywed y maniffesto bod y blaid yn arddel “Cymru gadarn yn rhan o Deyrnas Unedig gadarn” ac y byddai Llywodraeth dan arweiniad y Ceidwadwyr Cymreig yn “parchu’r setliad datganoli.”
Plaid Cymru
96+ o ymgeiswyr yn sefyll yn yr 16 etholaeth

Mae Plaid Cymru yn cefnogi annibyniaeth i Gymru ac yn cefnogi rhoi grymoedd pellach i Gymru yn y cyfamser.
Mae maniffesto Plaid Cymru ar gyfer 2026 yn ymrwymo i “Gosod y sylfeini ar gyfer Papur Gwyn…ar annibyniaeth i Gymru – gan fynd i’r afael â’r heriau a nodi’r cyfleoedd a’r newidiadau cadarnhaol y byddai annibyniaeth yn eu cynnig i Gymru.”
Mae’r maniffesto yn dweud hefyd mai “pobl Cymru ddylai benderfynu ar ddyfodol gwleidyddol a chyfansoddiadol eu gwlad” ac y bydd yn “gofyn yn ffurfiol am ddatganoli’r hawl i benderfynu ar yr amserlen, y cwestiwn a’r broses ar gyfer refferendwm annibyniaeth.” Mae’n cynnig sefydlu “Comisiwn Cenedlaethol newydd i Gymru” i oruchwylio’r prosesau ar gyfer datganoli grymoedd pellach ac i dynnu’r cyhoedd i mewn i drafodaeth am ddyfodol cyfansoddiadol Cymru.
O ran grymoedd pellach, mae’r maniffesto yn cynnwys ymrwymiadau penodol i ddatganoli Ystad y Goron a “datganoli cyfiawnder a phlismona fel blaenoriaeth.” Mae’n ymrwymo hefyd i “mwy o bwerau treth,” gan gynnwys “gallu gosod bandiau treth incwm”.
Mae Plaid Cymru yn cefnogi datganoli gweinyddiaeth llesiant, rheoleiddio porthladoedd a’r Doll Teithwyr Awyr. Mae’r blaid yn cefnogi datganoli darlledu i Gymru yn raddol hefyd, gan ddechrau â sefydlu Awdurdod Darlledu Cysgodol i ddal darlledwyr cyhoeddus i gyfrif yn well. Byddai Plaid Cymru yn ceisio newid y drefn pleidleisio ar gyfer etholiadau’r Senedd ac etholiadau lleol i Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy.
Mae’r maniffesto yn dweud hefyd y bydd yn “amddiffyn datganoli ac yn gwrthsefyll ymdrechion i’w danseilio neu ei wanhau, gan sicrhau mwy o’r dulliau sydd eu hangen arnom i adeiladu Cymru fwy teg a ffyniannus.”
Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
96 o ymgeiswyr yn sefyll yn yr 16 etholaeth

Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn gwrthwynebu annibyniaeth yn gryf ond yn cefnogi rhoi grymoedd pellach i Gymru a Deyrnas Unedig ffederal.
Dywed Maniffesto Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ar gyfer 2026 “Credwn fod Cymru yn gryfach ac ar ei hennill o fewn y Deyrnas Unedig, ac mae’r Deyrnas Unedig yn gryfach ac ar ei hennill gyda Chymru ynddi,” a “ni fyddwn yn gwario ceiniog o arian Llywodraeth Cymru ar annibyniaeth.” Mae hefyd yn nodi mai “Atal Annibyniaeth” yw un o’i flaenoriaethau.
Ar fater datganoli a threfniadau cyfansoddiadol, dywed y maniffesto y bydd y blaid yn “brwydro i gael bargen lawer tecach a llais cryfach i Gymru o fewn y DU” ac y dylai Cymru gael “llawer mwy o reolaeth dros ei materion ei hun mewn Deyrnas Unedig ffederal lle caiff grym ei rannu'n deg ar draws pob un o'r pedair gwlad.” Mae’n dweud hefyd y byddai’n “dileu gallu Senedd y DU i benderfynu ar eu pen eu hunain newid pwerau'r seneddau datganoledig neu basio deddfau mewn meysydd sydd wedi’u datganoli.”
Yn ychwanegol, dywed y maniffesto bod y blaid wedi “dadlau ers amser maith dros gael mwy o bwerau i'r Senedd” ac yn gosod allan cynigion penodol. Mae’r rhain yn cynnwys “Cwblhau cam nesaf datganoli yng Nghymru drwy roi’r cynigion sy’n weddill gan Gomisiwn Silk ar waith, lleihau’n sylweddol y pwerau a gedwir i San Steffan” ynghyd â “chynyddu pwerau benthyca a rhoi pwerau llawn i newid cyfraddau a throthwyon treth incwm fel yn yr Alban.” Mae’n cynnig datganoli “cyfrifoldeb am wasanaethau rheilffyrdd a seilwaith,” “creu awdurdodaeth gyfreithiol benodol i Gymru,” a datganoli “pwerau dros blismona, carchardai, cyfiawnder ieuenctid a gwasanaethau prawf” yn ogystal â grymoedd pellach dros ddarlledu a datganoli Ystad y Goron a Threth Teithwyr Awyr.
Plaid Werdd Cymru
96 o ymgeiswyr yn sefyll yn yr 16 etholaeth

Mae Plaid Werdd Cymru yn cefnogi annibyniaeth i Gymru ac yn cefnogi rhoi grymoedd pellach i Gymru yn y cyfamser.
Nid yw maniffesto Plaid Werdd Cymru ar gyfer etholiad y Senedd yn 2026 yn cyfeirio’n benodol at annibyniaeth ond mae’n dweud: “Rhaid i Gymru… gael y pwerau i lywio ei dyfodol ei hun.”
Mae’n dweud y bydd y blaid yn “galw am yr un pwerau datganoledig â’r Alban,” ac yn nodi “datganoli cyfiawnder, plismona, y rheilffyrdd, dŵr, ymchwil ac Ystad y Goron,” fel blaenoriaethau, ynghyd ag ymgyrchu “i ddiwygio fformiwla Barnett fel bod Cymru’n cael cyllid teg i fuddsoddi yn ei dyfodol.” Yn yr adran ar gyfiawnder a heddlu dywed hefyd y bydd yn "amlinellu gweledigaeth hirdymor ar gyfer plismona, gwasanaethau prawf a system cyfiawnder ieuenctid.”
Mewn mannau eraill yn y maniffesto, ceir cyfeiriadau at rymoedd pellach mewn meysydd polisi penodol. Ym maes egni dywed y bydd yn “parhau i alw am ddatganoli Ystad y Goron fel y gall Cymru reoli ei hadnoddau adnewyddadwy ei hun a chadw’r buddiannau economaidd o fewn cymunedau yng Nghymru.” Ar ddiwylliant a’r cyfryngau dywed: “Byddwn yn galw am i bwerau mewn perthynas â darlledu a’r cyfryngau gael eu datganoli’n llawn i Gymru, gan alluogi’r wlad i lywio’r ffordd y caiff eu storïau eu hadrodd a’u cyllido.” Dywed y maniffesto hefyd y bydd yn “ceisio pwerau gan Lywodraeth y DU i roi Dŵr Cymru o dan fesurau arbennig, tuag at gael gwir berchnogaeth gyhoeddus.”
Mae’r Gwyrddion yn addo adolygiad o’r system bleidleisio rhestr gyfrannol gaeedig newydd fydd yn cael ei chyflwyno ar gyfer etholiad y Senedd.
Reform UK
96 o ymgeiswyr yn sefyll yn yr 16 etholaeth

Mae Reform UK yn gwrthwynebu annibyniaeth yn gryf ac yn gwrthwynebu rhoi grymoedd pellach i Gymru.
Mae maniffesto Reform UK ar gyfer etholiad Senedd 2026 yn ymwneud â defnyddio grymoedd sydd eisoes wedi eu datganoli. Dywed: “byddwn yn defnyddio’r pwerau sydd gan Gymru eisoes.”
Dywed y maniffesto y bydd Reform yn “datgymalu haenau gwastraffus o gyrff cyhoeddus cymhleth ac anghyfrifol, gan arbed arian a sicrhau bod gweinidogion yn gyfrifol ac yn atebol am gyflawni.” Mae’n dweud hefyd “y bydd gweinidogion yn gwneud penderfyniadau, nid biwrocratiaid di-enw,” ac yn cynnig mesurau fel dod i ben â “dod â swyddi di-waith i ben,” ac “adfer uniondeb etholiadau” drwy gael gwared ar yr “hawl bresennol i ddinasyddion tramor cymwys bleidleisio mewn etholiadau’r Senedd.”
Pleidiau sy’n Sefyll mewn Llai o Etholaethau
Gwlad
6 Ymgeisydd yn sefyll yn: Brycheiniog Tawe Nedd, Ceredigion Penfro, Gwynedd Maldwyn, Pontypridd Cynon Merthyr, Sir Fynwy Torfaen a Sir Gaerfyrddin

Mae Gwlad yn cefnogi annibyniaeth i Gymru.
Dywed maniffesto Gwlad ar gyfer 2026: “Mae Gwlad yn bodoli i sicrhau annibyniaeth i Gymru drwy gael gwared ar y rhwystrau sy’n sefyll yn ei ffordd ar hyn o bryd.” Dywed hefyd “er mai annibyniaeth yw ein nod, economi Cymru yw ein blaenoriaeth.” Ymhellach, dywed y maniffesto: “rydym eisiau annibyniaeth, yn syml iawn, oherwydd ein bod yn credu mai cenedl yw Cymru.”
Mae’r maniffesto yn feirniadol o’r setliad presennol, gan ddweud: “Mae’r setliad datganoli presennol, a gafodd ei ganmol mor optimistaidd ar ei ddechrau ym 1999, wedi bod yn siom chwerw.” Ychwanega bod “y gwir bŵer yn dal i fod yn San Steffan.” Ond dywed hefyd y “gall y Senedd wneud gwahaniaeth cadarnhaol o hyd.”
Dywed y maniffesto bod y cynigion yn gosod allan "beth allwn ni ei wneud heddiw, gan ddefnyddio strwythurau cyfansoddiadol presennol Llywodraeth Cymru a’r Senedd o fewn y Deyrnas Unedig” a hefyd y “gwahaniaeth y gall annibyniaeth ei wneud — y gorwelion newydd a fydd yn agor i Gymru rydd sy’n rheoli ei thynged ei hun yn llwyr.”
Propel
4 Ymgeisydd yn sefyll yn: Caerdydd Ffynnon Taf a Caerdydd Penarth

Mae Propel yn cefnogi "sofraniaeth" i Gymru a democratiaeth uniongyrchol.
Mae maniffesto Propel ar gyfer 2026 yn cefnogi "sofraniaeth" i Gymru, dywed “Wales must be a sovereign state” a bod “Welsh decisions are made in Wales”. Dywed, mewn Cymru sofran, y byddai Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am faterion mewnol ac allanol y genedl, ac eithrio mewn achosion lle mae grymoedd wedi eu datganoli i’r hyn y geilw yn “sovereign counties”.
Ar fater diwygio cyfansoddiadol, mae’r maniffesto yn cynnig newid strwythurol sylweddol. Mae’n cefnogi ethol Prif Weinidog yn uniongyrchol, gan ddefnyddio democratiaeth uniongyrchol trwy refferenda, adalw gwleidyddion ac “Upper House” posibl ar gyfer Senedd Cymru. Dywed hefyd y bydd Propel yn comisiynu arbenigwyr annibynnol i ddrafftio “modern Welsh Constitution” a “Welsh Bill of Rights”, cyn i’r cyfansoddiad terfynol gael ei gymeradwyo gan bobl Cymru mewn refferendwm cenedlaethol.
Maniffesto Llawn (Saesneg yn unig)
Welsh Trade Unionist and Socialist Coalition (TUSC)
5 Ymgeisydd yn sefyll yn: Caerdydd Ffynnon Taf, Gŵyr Abertawe

Mae TUSC yn cefnogi ffederasiwn sosialaidd wirfoddol rhwng gwledydd y DU ac Iwerddon
Nid yw’r maniffesto yn gwneud achos dros annibyniaeth i Gymru fel gwladwriaeth ar wahân. Yn hytrach, mae’n galw am “socialist Wales as part of a voluntary socialist federation with England, Scotland and Ireland”. Mae hefyd yn cefnogi ehangu datganoli pwerau eang i Gymru ac yn dadlau y dylai fod gan y Senedd “full legislative and financial powers”.
Dywed y maniffesto, er bod grymoedd cyfyngedig gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd, mae nifer o bolisïau y gellid eu rhoi mewn lle a brwydro drostynt. Mae’n gofyn yn benodol am ddatganoli llesiant i Gymru ac yn dweud y dylai fod gan y Senedd rymoedd “to take over firms threatening redundancy”.
Maniffesto Llawn (Saesneg yn unig)
Plaid Gomiwnyddol Prydain
2 Ymgeisydd yn Sefyll Yn: Bangor Conwy Môn, Caerdydd Penarth
Mae Plaid Gomiwnyddol Prydain yn cefnogi Prydain ffederal.
Mae maniffesto 2026 y Blaid Gomiwnyddol Prydain yn cefnogi hunanlywodraeth cryfach i Gymru ond nid annibyniaeth i Gymru fel gwladwriaeth ar wahân. Dywed ei bod eisiau “amddiffyn ac ymestyn hunanlywodraeth i Gymru o fewn Prydain ffederalaidd sy’n seiliedig ar gydraddoldeb a solidariaeth.” Mae’r maniffesto yn dadlau bod datganoli wedi galluogi Cymru i fynd ei ffordd ei hun mewn rhai meysydd ond yn dweud bod San Steffan wedi cyfyngu ar rymoedd Cymru, trwy wrthod datganoli Ystad y Goron a thynnu grymoedd yn ôl yn dilyn Brexit.
Dywed y maniffesto ei fod eisiau “gwarchod ac ymestyn pwerau ac adnoddau ein sefydliadau cenedlaethol yng Nghymru” er mwyn i Gymru wneud penderfyniadau dros ei hun.
Heritage Party
17 Ymgeisydd
Mae’r Heritage Party yn gwrthwynebu annibyniaeth yn gryf ac yn cefnogi diddymu’r Senedd
Mae maniffesto’r Heritage Party ar gyfer Senedd 2026 yn gwrthwynebu annibyniaeth i Gymru a datganoli. Dywed y byddai’n “affirm Wales as an integral part of the United Kingdom” ac yn “abolish the Senedd”.
Ar y cyfan, ei safbwynt yw y dylai Cymru barhau yn rhan o’r DU, a bod angen newid cyfansoddiadol sylweddol fyddai’n tynnu grymoedd oddi wrth y Senedd.
Maniffesto Llawn (Saesneg yn unig)
Open Party
5 Ymgeisydd yn sefyll yn: Blaenau Gwent Caerffili Rhymni, Casnewydd Islwyn, Sir Fynwy Torfaen
Mae Y Blaid Agored yn gweithredu mewn ffordd wahanol. Gall unrhyw un ymgeisio i sefyll dros y blaid. Mae ymgeiswyr arfaethedig yn cyflwyno eu maniffesto eu hunain, ac mae aelodau yn rhoi ymgeiswyr yn eu trefn lle mae hynny’n berthnasol. O ganlyniad, nid oes maniffesto cyffredin gan ymgeiswyr Y Blaid Agored.
Ymgeiswyr Annibynnol
30 Ymgeisydd
Mae pob ymgeisydd annibynnol yn sefyll ar eu platfform eu hunain, felly nid oes maniffesto unigol i’w grynhoi. Mae nifer o ymgeiswyr annibynnol yn sefyll mewn etholaethau amrywiol. Mae rhestr gyflawn ar wefan bwrwpleidlais.cymru.
Pleidiau Eraill
Mae'r Welsh Christian Party (2 ymgeisydd) yn gwrthwynebu annibyniaeth i Gymru ond yn cefnogi’r egwyddor bod gan y Senedd yr un grymoedd â Senedd yr Alban; mae'r Social Democratic Party (1 ymgeisydd), yn gwrthwynebu annibyniaeth i Gymru ac yn "committed to preserving and strengthening the Union". Maent eisiau adolygu nifer yr Aelodau i’r Senedd a lleihau yr hyn mae’n ei alw yn "Senedd bloat"; mae'r Socialist Labour Party (1 ymgeisydd), yn cefnogi’r egwyddor bod gan Gymru y grym i gynnal refferendwm annibyniaeth ond nid oes ganddo farn swyddogol ar annibyniaeth; ac mae'r Monster Raving Loony Party yn sefyll gyda 1 ymgeisydd.