Symud ymlaen o'r llywio

Aelodaeth Sydd Angen

Er ein bod yn grŵp ymgyrchu gwleidyddol nid ydym, ac ni fyddwn byth, yn blaid wleidyddol gyda chynrychiolwyr etholedig. Rhaid felly sicrhau ffyrdd eraill o godi ein llais yn y byd gwleidyddol.

Aelodaeth sydd yn rhoi pwysau a dylanwad i ni fel ymgyrch yn y cyd-destun hyn.

Trwy dyfu i fod y grŵp gwleidyddol mwyaf yng Nghymru medrwn newid y cydbwysedd gwleidyddol o blaid Annibyniaeth yn ddi-os ac yn barhaol.

Yn ymarferol mae hyn yn golygu bod yn fwy na Phlaid Lafur Cymru.

Bydd yn her. Mae angen i ni dreblu ein haelodaeth bresennol i gyrraedd y nod a bydd angen i ni gael tua deg mil yn fwy o aelodau nag oedd gennym ar ein uchafbwynt aelodaeth cynt.

OND bydd cyrraedd y nod yn taflu'r drws yn lled agored ar lu o gyfleoedd ac yn rhoi pwysau aruthrol ar bob blaid yng Nghymru i drafod a chofleidio Annibyniaeth.

Yn nhermau'r cyfryngau, yn sydyn ni fydd ar flaen y gȃd a bydd rhaid darparu lle i’n llais yn gyson. Dim mwy o ‘Question Time’ yng Nghymru heb Annibyniaeth yn amlwg ar yr agenda!

Bydd yn gorfodi'r mudiad Llafur yng Nghymru i fynd i'r afael â'r cwestiwn o Annibyniaeth yn uniongyrchol - dim mwy o bapuro dros yr hollt mewnol rhynt Unoliaethwyr Llafur a chefnogwyr Annibyniaeth gyda gorchudd ‘Devo Max’ neu ‘Home Rule’.

Bydd aelodaeth mwy eang hefyd yn rhoi mwy o adnoddau i ni ymgyrchu, i drefnu, ac i gyfrannu at realiti a phosibiliadau ein cenedl Annibynnol yn y dyfodol.

Bydd yn ddatganiad di-ildio o ddyfnder y gefnogaeth i Annibyniaeth yng Nghymru heddiw.

Bydd yr amlygrwydd trwy arwain y rȃs yn ein galluogi i gyfathrebu'n fwy effeithiol ac yn gliriach. Yn syml iawn bydd mwy yn gwrando oherwydd ein bod yn safle’r Fedal Aur!

Bydd mwy o aelodau yn golygu mwy o wirfoddolwyr gweithgar, mwy o frwdfrydedd, mwy o sgyrsiau cenedlaethol am Annibyniaeth.

Bydd y broses o ddosbarthu gwybodaeth yn ehangach ac yn gyflymach.

Mae'n anodd goramcan yr effaith o gyrraedd y lefelau hyn o aelodaeth. 

Y peth pwysicaf y gall unrhyw un sy’n cefnogi Annibyniaeth Cymru ei wneud yw ychwanegu eu llais at YesCymru drwy ymuno - gan wthio’r ticiwr un clic yn uwch a’r mudiad yn gam yn nes at y brig.

Dim ond gyda chytundeb y bobl y gall lywodraethwyr lywodraethu a rhaid i ni ddod ynghyd yn unfrydol i ddweud yn glir nad ydym bellach yn gytun â rheolaeth San Steffan.

Ni allwn aros i'r byd lunio ein dyfodol, rhaid i ni sbarduno newid. Mae gennym ni hanes hir a balch o wneud yng Nghymru – pan ddaw cymunedau ynghyd rydym yn cyflawni pethau gwych. O sefydlu ein Prifysgol cyntaf trwy danysgrifiadau o bob cwr o Gymru; i greu a meithrin y ‘Stiwts’ a’u rôl yn ysgogi dyhead; i enedigaeth y GIG; ac, yn wir, y Blaid Lafur ei hun. Gyda'n gilydd gallwn wneud hyn eto.

Aelodaeth sydd Angen. Annibyniaeth!


Blog Bendigeidfran

Parhau i Ddarllen

Darllen Mwy

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Gwiriwch eich e-bost am ddolen i actifadu eich cyfrif.