Prin iawn os o gwbl, yw’r rhai sydd â chysylltiad agosach â thir ein tadau, na’n ffermwyr.
Nhw sy’n ei fraenaru a’i drin, yn meithrin y cnydau ac yn magu da byw.
Maen nhw’n cynhyrchu bwyd blasus o safon uchel i roi ar ein byrddau – rhywbeth maen nhw’n sicr yn ei wneud yn dda. Ond mae yna elfen amgenach - y fferm deuluol yw curiad calon ein cymunedau (nifer ohonynt yn gymunedau Cymraeg eu hiaith) ar hyd a lled Cymru. Yr ymdrech ddygn feunyddiol i feithrin y tir yw’r ymdrech sydd hefyd yn meithrin y cymunedau hyn.
Pe byddai’r fferm deuluol yn peidio â bod, byddai’r cymunedau hyn yn gwywo – efallai hyd yn oed yn marw.
Mae amaethyddiaeth yng Nghymru yn bwysicach i'w heconomi hi na’r rhannau eraill o Ynysoedd Prydain, gyda’r tir amaethyddol a ddefnyddir yng Nghymru yn 88% o'i gymharu â 69% yn Lloegr, 68% yn yr Alban a 73% yng Ngogledd Iwerddon.
Mae hyn i’w weld yn glir iawn yn agwedd ddi-hid San Steffan tuag at gefn gwlad Cymru, sy’n fater o bryder mawr.
Mae’r agwedd ddi-hid hon eisoes wedi cael effaith andwyol iawn ar yr economi wledig.
Yn ystod y ddadl Brexit ac wedi hynny, cafodd ein ffermwyr addewidion dro ar ôl tro ynglŷn a sut y bydden nhw’n cael eu hariannu gan San Steffan yn y dyfodol. Dywedwyd wrthyn nhw na fydden nhw’n derbyn ‘dim ceiniog llai’ na’r hyn a gawson nhw gan yr Undeb Ewropeaidd - ond torrwyd yr addewid hon yn y flwyddyn gyntaf gan Lywodraeth Geidwadol San Steffan ar y pryd, ac arweiniodd hyn at gannoedd o filoedd llai o bunnoedd yn cael eu derbyn gan ffermwyr Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn y rhan fwyaf o’i harian o dan y fformiwla Barnett – fformiwla sydd wedi’i seilio ar anghenion poblogaeth Lloegr – ac mae cryn sôn bod y Llywodraeth Geidwadol, bellach y Llywodraeth Lafur yn Llundain, wedi methu â chyfrannu hyd at £4 biliwn o gyllid ôl-ddilynol y prosiect HS2 o dan y fformiwla Barnett i Gymru, gan ei fod wedi’i ddynodi’n brosiect Lloegr a Chymru.
Mae’n ymddangos ar hyn o bryd bod y Llywodraeth Lafur yn Llundain yn mynd i osod Cymru dan anfantais unwaith eto. O dan yr Undeb Ewropeaid, dosbarthwyd yr arian ar gyfer amaethyddiaeth ar draws gwledydd y DU o dan fformiwla y Polisi Amaethyddol Cyffredin, a oedd yn seiliedig ar feini prawf amaethyddol a bywyd cefn gwlad, sef maint, nifer a natur y ffermydd. Arweiniodd hyn at 9.4% o gyfanswm cyllideb amaethyddiaeth y DU yn dod i Gymru.
Serch hyn, mae Undeb Amaethwyr Cymru eisoes wedi rhybuddio y gallai defnyddio’r fformiwla Barnett i ddosbarthu’r grant bloc i bob gwlad ddatganoledig, fformiwla a seilir ar anghenion y boblogaeth yn hytrach nag ar nodweddion gwledig, weld cyfran Cymru o gyfanswm cyllid amaethyddol y DU yn gostwng yn sylweddol. Yn y sefyllfa waethaf bosibl, gall defnyddio’r fformiwla Barnett i ddosbarthu cyllid amaethyddol y DU weld canran Cymru o’r cyfanswm yn disgyn o 9.4% i oddeutu 5% - a byddai hyn yn gyfystyr â thoriad mewn cyllid o 40%. Byddai hyn yn ddifäol mewn cyfnod llewyrchus – ond gwyddom ni oll nad ydym yn byw mewn cyfnod o’r fath. Mae twf yn yr economi yn cloffi rhwng di-ffrwt a pheidio â bod – ac mae chwyddiant wedi cael effaith andwyol ar y diwydiant amaeth.
Yn union fel y mae’r ar gyfwng costau byw yn parhau i ddifrodi’r gweithiwr a’r teulu cyffredin, mae’n difrodi hefyd y ffermydd teuluol. Maen nhw wedi cael eu heffeithio’n ddybryd gan brisiau cynyddol ar gyfer gwrtaith, bwyd anifeiliaid ac ynni – ac yn ystod yr adegau anoddaf, gwelwyd cynnydd hyd at 200% ym mhris gwrtaith a chynnydd o 60% ym mhris bwyd anifeiliaid.
Byddai cael eu hamddifadu’r o’r arian hwn wedi bod yn ergyd drom i’n ffermwyr ar y gorau, ond mae ffigyrau diweddar wedi dangos bod incwm busnes fferm gyffredin wedi disgyn yn sylweddol rhwng 2022 – 23 a 2023 -24, gyda’r diwydiant llaeth wedi dioddef fwyaf gyda gostyngiad mewn incwm o 62%, a ffermydd defaid a chig eidion mewn ardaloedd difreintiedig yn gweld lleihad o £18,600 i £14,800, sef gostyngiad o 20%. At ei gilydd, bu gostyngiad o 39% mewn incwm ar gyfer pob math o fferm yng Nghymru rhwng 2022–23 a 2023-24. Yn ogystal â hyn, mae cyfres o gytundebau masnach ôl-Brexit wedi cael eu harwyddo sydd, i bob pwrpas, wedi taflu ein ffermwyr i’r bleiddiaid.
Mae potensial i’r byd amaeth yng Nghymru ddioddef ymhellach oherwydd cytundebau masnach gyda Seland Newydd ac Awstralia; gallai’r cytundebau hyn danseilio’r sector a gadel ffermwyr yn agored i fwy o gystadleuaeth annheg. Mae’r cytundebu masnach ‘da i ddim’ yma yn golygu y byddai potensial i ffermwyr gael eu tandorri yn y tymor hir gan fwyd rhatach sy’n cael ei fewnforio o wledydd sydd â safonau lles is na’r DU, gyda’r goblygiadau amgylcheddol ychwanegol sy’n deillio o gludo bwyd hanner ffordd ar draws y byd.
Yn ôl llefarydd ar ran Undeb Amaethwyr Cymru yn ddiweddar, “Mae galw ar ffermwyr Prydain i fynd benben â rhai o’r cynhyrchwyr bwyd mwyaf effeithiol o ran cost yn y byd. Ond prin iawn yw’r dystiolaeth bod gan y Llywodraeth y weledigaeth i greu’r amodau a fyddai’n caniatáu i’n ffermwyr gystadlu.”
Yn anffodus, mae parhau o dan lywodraeth San Steffan yn golygu y bydd pethau’n debygol o fynd yn waeth byth. Y rheswm dros hyn yw bod taflwybr y polisi masnach a bennir gan sefydliad San Steffan yn gosod gwasanaethau fel y sector cyfreithiol, bancio ac yswiriant o flaen buddiannau amaethyddol, oherwydd y diffyg dylanwad sydd gan y diwydiant amaeth ar y gwleidyddion yn Llundain.
Mae hyn wrth gwrs yn diystyru rôl hollbwysig amaeth yn ein heconomi ni, yn ogystal ag yn ein cymunedau. Mae allgynnyrch amaethyddol (allgynnyrch gros) Cymru gwerth £1.7 biliwn i’r economi, canran uwch o’r economi yng Nghymru o’i gymharu â’r DU gyfan. Nid yw’n syndod nad oes ymgynghori ystyrlon wedi bod gyda’r undebau ffermio a’r pleidiau gwleidyddol yng Nghymru ar y cytundebau masnach – ac mae hyn yn tanlinellu eto ddihidrwydd San Steffan am ofidiau’r sector. Ni holwyd barn y ffermwyr ganddyn nhw gan nad oedden nhw’n hidio dim. Does dim syndod bod ffermwyr yng Nghymru yn teimlo bod y bobl yn San Steffan wedi eu bradychu.
Ergyd arall i ffermwyr gan San Steffan yw’r newidiadau a gyhoeddwyd yn ddiweddar i’r Rhyddhad Eiddo Amaethyddol, sy’n golygu y bydd teuluoedd sy’n ffermio yn gorfod dechrau talu treth etifeddiant dros drothwy o £1 miliwn. Yn ôl Undeb Amaethwyr Cymru, bydd y newidiadau diweddar i’r trothwy Rhyddhad Eiddo Amaethyddol yn tanseilio hyfywedd ffermydd teuluol, yn arwain at dwf mewn perchnogaeth gorfforaethol ac yn cynyddu pwysau ariannol ar ffermydd sydd eisoes mewn trafferthion.
Ar yr olwg gyntaf, nid yw’r diwydiant amaeth i’w weld wedi llwyddo llawer gwell o dan y Senedd yng Nghaerdydd, gyda sefydlu’r parthau perygl nitradau a’r difaterwch canfyddedig ar ran Llywodraeth Cymru wrth ddelio gyda’r broblem TB. Ond, mae tro pedol i’w weld wedi ei wneud yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru gyda’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Bellach, yn hytrach na’u gorfodi, bydd gan Ffermwyr yr hawl i ddewis os ydyn nhw am fod yn rhan ai peidio o’r cynllun i gael coed ar 10% o’u tir, er y bydd rhaid craffu wrth gwrs ar y manylion. Ond mae llwyddiant y protestio a’r pwysau gan yr undebau ffermio a’r gwrthbleidiau yn dangos bod gan ffermwyr fwy o ddylanwad ar wleidyddion y Senedd nag ar wleidyddion San Steffan – ac mae o fewn eu gallu i orfodi newid.
Bydd y camau diweddar i sefydlu system gynrychiolaeth gyfrannol ar gyfer etholiadau’r Senedd yn fwy na thebyg yn creu Senedd gyda chynrychiolaeth gryfach gan bleidiau sy'n cefnogi’r byd amaeth. Ond dim ond Cymru annibynnol fydd wir yn diogelu ffermio yn yr hir dymor.
Ni fyddai’r Senedd yng Nghaerdydd mewn Cymru Annibynnol, yn wahanol i San Steffan, yn gosod Dinas Llundain o flaen ein cymunedau cefn gwlad. Byddai annibyniaeth yn ein galluogi i drafod ein cysylltiadau masnach ein hunain. Byddai’n ein galluogi i roi ein cymunedau cefn gwlad wrth wraidd ein penderfyniadau. Mae ffermio yn rhan greiddiol o etifeddiaeth ac economi Cymru – ac oherwydd hyn mae’n haeddu cael ei gwarchod a’i pharchu. Gall Annibyniaeth roi i ni’r gallu i sicrhau y bydd ffermio yn rhan greiddiol o’n dyfodol am flynyddoedd lawer i ddod.