Symud ymlaen o'r llywio

Twf enfawr yn y gefnogaeth i YesCymru ac annibyniaeth

Yn siarad yn ystod Cyfarfod Cyffredinol YesCymru ym Merthyr Tudful heddiw, dywedodd Cadeirydd YesCymru Siôn Jobbins:

 

"Yn 2019 daeth miloedd allan ir strydoedd i ddatgan eu dymuniad i weld Cymru annibynnol yng ngorymdeithiau AUOB Cymru - rhywbeth sydd erioed wedi digwydd o’r blaen - ac mae trafod annibyniaeth i Gymru yn awr yn dod yn rhan naturiol o fywyd a sgwrs pobl Cymru o ddydd i ddydd.

 

“Fe wnaeth cyn-brifweinidog Cymru, Carwyn Jones, siarad yn un o gyfarfodydd cyhoeddus YesCymru yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac fe ddangosodd arolwg barn YouGov ym mis Medi 2019 y byddai rhwng 32%* a 41%* yn pleidleisio dros annibyniaeth mewn refferendwm yn ddibynnol ar y cwestiwn.

 

“Mae nifer aelodau YesCymru wedi treblu ers y cyfarfod cyffredinol diwethaf i oddeutu 2,500, a gyda hynny mae grwpiau newydd wedi’u sefydlu ym mhob rhan o Gymru ac yn brysur lledu’r neges am fanteision annibyniaeth. Bu twf anferthol hefyd ar y cyfryngau cymdeithasol, a nifer ein dilynwyr ar Twitter yn dyblu, o 10 mil i 20 mil, mewn blwyddyn."

 


Yn dilyn y Cyfarfod Cyffredinol siaradodd David Buttress (Cyfleoedd a ddaw i fusnes gydag annibyniaeth), Angharad Mair (Cyfryngau), Carolyn Hitt (Rygbi ac Annibyniaeth), Mark Evans (Pêl-droed ac annibyniaeth) a Mark Hooper (Banc Cambria) mewn sesiynau 'Sgwrs Annibyniaeth'.

Ychwanegodd Siôn Jobbins:

 

“Mae'r ffaith ein bod ni mot ffodus â denu siaradwyr huawdl ac o sylwedd fel David Buttress, Carolyn Hitt, Angharad Mair, Mark Hooper a Mark Evans i Gyfarfod Cyffredinol YesCymru ym Merthyr ar 25 Ionawr yn dyst i'r newid ymysg pobl Cymru. 

 

“Mae tair gorymdaith arall eisoes wedi’u trefnu ar gyfer 2020, ar y cyd ag AUOB Cymru, yn Wrecsam, Tredegar ac Abertawe, ac rydym yn hyderus iawn y bydd yr ymgyrch yn parhau i fynd o nerth i nerth yn 2020.”

Parhau i Ddarllen

Darllen Mwy

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Gwiriwch eich e-bost am ddolen i actifadu eich cyfrif.