Rwy’n byw yng Ngwynedd ac wedi gweithio yn y diwydiant ariannol ers graddio o Brifysgol Caerdydd yn 2010. Mae fy swydd yn cynnwys teithio o gwmpas Cymru i drafod cyllid pobl, gan gynnwys eu amcanion a’u pryderon dyfnaf.
Yr hyn y mae fy swydd a’m profiad bywyd wedi’i ddangos i mi yw, hyd yn oed os nad ydym yn hoffi ei gyfaddef, mae llawer o’r hyn a wnawn yn cael ei effeithio gan ein cyllid a’n hofnau ariannol. Boed yn bryderon ynghylch methu â rhoi bwyd ar y bwrdd, prynu ty, neu sicrhau bod eich plant a’ch wyrion yn gyfforddus, mae pobl yn gweithredu ac yn pleidleisio ar yr hyn y maent yn ei gredu sydd orau ar eu cyfer nhw, eu teuluoedd, a’r wlad yn gyffredinol. Fel y gwelsom o ymgyrch refferendwm yr Alban, mae cyllid ac economeg o bwys mawr. Fel y dywedodd gynghorwr i Bill Clinton, “it’s the economy, stupid”.
Mae Cymru wedi dioddef yn fawr o reolaeth economaidd wael ers canrifoedd a does dim arwydd o unrhyw newid o San Steffan. Mae angen inni ar fyrder ddisodli eu difaterwch a’u hamarch gyda model economaidd sy’n gweithio i Gymru a’i phobl. Y brif her i YesCymru yw darbwyllo pleidleiswyr bod y model economaidd a gwleidyddol presennol wedi torri a bod Annibyniaeth yn rhan fawr o’r ateb.
Er gwaethaf pryderon ystyrlon pobl, dywedodd y Comisiwn ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru fod Annibyniaeth yn hyfyw, ond dywedasant hefyd y byddai risgiau ac anawsterau tymor byr. Er mwyn cael cefnogaeth y mwyafrif, mae angen i ni ddefnyddio’r momentwm a grëwyd gan waith rhagorol Cyfarwyddwyr YesCymru a gwirfoddolwyr di-ri i wthio tu hwnt i 40% drwy barhau i fynd i’r afael ag ofnau ariannol pobl gyda gonestrwydd a pharch.
Mae’r mudiad mewn sefyllfa ardderchog gyda’r rhan fwyaf o oedolion ifanc yn cefnogi ein hachos ac, ar ôl blwyddyn anodd, rydym hefyd ar sylfaen ariannol sefydlog. Mae hyn yn golygu y gallwn symud ymlaen drwy gefnogi mwy o weithgareddau grŵpiau lleol o amgylch Cymru a buddsoddi i dargedu grwpiau ‘Indy-curious’ penodol.
Byddaf yn gweithio’n galed ac yn defnyddio fy arbenigedd ariannol i sicrhau bod cyllid YesCymru yn cael ei reoli’n effeithlon ac i gyfathrebu’n effeithiol gyda’r ‘Indy-curious’ am sefyllfa ariannol Cymru i droi eu pryderon yn frwdfrydedd.