Symud ymlaen o'r llywio

Andrew Murphy

Ymgeisydd Canol De Cymru

Rwy’n byw ym Mro Morgannwg a hoffwn ofyn am eich cefnogaeth yn fy nghais i gael fy newis i Gorff Llywodraethu Cenedlaethol YesCymru.

Cefndir Personol

Cefais fy ngeni a fy magu yng Nghaerdydd yn y 1960au i rieni Cymreig-Prydeinig. Roedd fy nheulu yn canmol pob gorchest Gymreig gyda balchder, yn ystod twrnamaint y Pum Gwlad yn enwedig, gan wasgu i mewn i dŷ fy Ewythr Gordon yn y Tyllgoed, prin 'roedd lle i symud, yn enwedig pan oedd Cymru yn chwarae Lloegr.

Roedd pawb yn Gymry angerddol ond yn credu bod Cymru yn rhan o rywbeth mwy (yn well eu byd yn yr undeb!) ac na fyddem yn goroesi ar ein pen ein hunain (rhy fach, rhy dlawd!) er na fu trafodaeth erioed am ble’r oedd elw o lo, dur ac a diwydiant Cymreig yn mynd, na sut yn union yr oedd Cymru ar ei hennill.

Yn fy arddegau cynnar, gyda Dad yn methu dod o hyd i waith, symudon ni i ogledd-ddwyrain Lloegr sydd â thipyn yn gyffredin â de Cymru. Chwaraeais rygbi gyda thîm y pwll lleol, Hordon, lle’r oedd llawer o’m ffrindiau’n gweithio ar ôl gadael yr ysgol ond yn fuan roeddynt yn ddi-waith wrth i byllau gau a’r diwydiannau ddod i ben dros nos.

Atgyfnerthodd byw yn y Gogledd-ddwyrain hunaniaeth Gymreig-Brydeinig fy rhieni a’u cred bod y problemau a wynebai Cymru yr un peth mewn rhannu eraill o'r DU.

Mae’r realiti wrth gwrs yn wahanol, tra bod modd cymharu materion yng nghalon ddiwydiannol Lloegr yn debyg i’r rhai yng Nghymru nid yw ymateb San Steffan byth yr un fath, a’r sylweddoliad hwn a ddaeth â mi i’r casgliad mai dim ond trwy annibyniaeth y gallwn greu Cymru well, tecach a mwy cyfartal i bawb.

Yn ddiweddarach bûm yn ddigon ffodus i gyfarfod a phriodi fy ngwraig Jackie, merch o Swydd Efrog sy'n falch o'i gwreiddiau, ond wedi ymgartrefu yng Nghymru ac ymuno â YesCymru. Afraid dweud bod y 6 Gwlad llawn tyndra ar yr aelwyd.

Ganed fy nwy ferch, Megan a Sian yn Lloegr, mae Megan yn ystyried ei hun yn Brydeinwyr, a Sian yn Gymraes, ond ill dwy yn ymroddedig i annibyniaeth i Gymru.

Cefndir Proffesiynol

Gadewais yr ysgol yn 16 oed ac chefais yrfaoedd llwyddiannus yn y sectorau cyhoeddus a phreifat. Ymunais â chadetiaid heddlu Durham cyn mynd i dreulio dros 30 mlynedd yn plismona, yn Llundain yn bennaf, yn ymchwilio i droseddau difrifol. Yn ystod fy 5 mlynedd diwethaf roeddwn i’n Dditectif Brif Uwcharolygydd â gofal am Ddynladdiad a Throseddau Difrifol yn Llundain ac á chhyfrifoldeb personol am 1400 o staff a chyllideb flynyddol o £75 miliwn, trwy gyd-ddigwyddiad roedd hyn yng nghyfnod Boris Johnson yn fawr, oedd yn ddiddorol i ddweud y lleiaf.

Yn 2009 symudon ni i Drefynwy ac ail-agor tafarn Village, a oedd ar fin cau, fel Tafarndy Penallt. Dros y chwe blynedd nesaf daeth Tafarndy Penallt yn rhan allweddol o'r gymuned leol a thrawsnewid i fod yn dafarn wledig a bwyty. Cawsom ein henwi’n Dafarn AA y Flwyddyn yng Nghymru yn 2012, fe'n rhestrwyd yn y Michelin Guide a dyfarnwyd “Mons” i ni gan gylchgrawn Monmouthshire County Life am gyfraniadau eithriadol i Sir Fynwy.

Yn 2015 ailhyfforddais a chymhwyso yn weinydd sifil (Dathliadau Cariad) er mwyn gweinyddu mewn dathliadau angladd, priodas a phartneriaeth sifil anghrefyddol a lled-grefyddol ar draws De Cymru.


Gwleidyddol

Rwy’n aelod o Blaid Cymru ond fel nifer o aelodau eraill YesCymru ymunais oherwydd ei fod yn fudiad annibynnol yn hytrach na “phlaid wleidyddol” a chredaf yn gryf fod yr egwyddor honno yn o ragfarn ddi-blaid yn gonglfaen hollbwysig os ydym am barhau i dyfu cefnogaeth. dros Gymru annibynnol.

Rwyf yn ymgyrchu’n frwd gyda fy nghangen leol, YesCymru Pen-Y-Bont, ac yn aelod o’r Gweithgor, yn ysgrifennydd am y 3 mis diwethaf. Roedd proses y Gweithgor yn un anodd; roedd pawb wnaeth gymryd rhan yn credu’n angerddol mewn annibyniaeth, doedden ni ddim bob amser yn cytuno ond roedden ni bob amser yn cytuno i geisio dod o hyd i ffordd ymlaen. Bydd y parodrwydd hwnnw i gydweithio, i ddeall safbwyntiau gwahanol a rhoi “llinellau coch” personol i'r naill ochr er budd YesCymru yn hollbwysig yn y misoedd a’r blynyddoedd nesaf.


Diddordebau Personol

Mae'n ystrydeb, ond mae fy nheulu yn bwysig iawn i mi. Rwy’n ddysgwr Cymraeg ac mae rwyf wrth fy modd â hanes.

Dechreuais weithio yn 16, heb dderbyn addysg bellach ond yn ddiweddarach mewn bywyd cefais y cyfle i dreulio tri mis ym Mhrifysgol Caergrawnt yn ymchwilio i draethawd hir “Owain Glyndwr - Sylfaenydd Cenedlaetholdeb Cymreig Fodern”

Wrth dyfu i fyny yn Gabalfa a byw yn Lloegr ches i ddim dysgu am ein hetifeddiaeth a’n diwylliant cyfoethog ac ni chlywais i erioed y Gymraeg yn cael ei siarad, ond ers tair blynedd rydw i wedi bod yn ddysgwr Cymraeg ac yn cael pleser wrth ddysgu siarad fy iaith fy hun.

Edrych ymlaen

Does fawr o amheuaeth bod Cymru yn wynebu trobwynt gwleidyddol a chymdeithasol, mae cefnogaeth i annibyniaeth yn yr Alban yn 55%, Mae’r SNP wedi ymrwymo i ail refferendwm ar Annibyniaeth, matr o 'pryd' nis 'os' yw ailuno Iwerddon … all Cymru ddim cael ei gadael ar ôl.

Bu’r flwyddyn ddiwethaf yn hynod anodd ac mae nifer o resymau dros hynny ond mae un peth yn sicr, ni allwn ganiatáu i’r mudiad sydd mor bwysig i ni i gyd a’r achos dros annibyniaeth y credwn mor angerddol ynddo gael ei roi mewn perygl.

Heriau i'r Corff Llywodraethu Cenedlaethol

Bydd pwy bynnag sy'n ddigon ffodus i gael ei ddewis ar gyfer y Corff Llywodraethu Cenedlaethol yn wynebu heriau pellach;

• Rhaid i YesCymru broffesiynoli tra'n sicrhau ein bod yn parhau yn sefydliad sy'n cael ei yrru gan aelodau ar lawr gwlad.

• Mae angen i'n dadleuon symud i'r lefel nesaf, trwy gyfrannu at y Comisiwn Cyfansoddiadol, archwilio GERW a chynnig opsiynau ar gyfer Cymru Annibynnol.

• Mae angen inni fynd i'r afael â phryderon pobl; cynnig dewisiadau eraill ar gyfer arian cyfred, benthyca, yr economi a darparu atebion i nerfusrwydd gwirioneddol ynghylch iechyd, pensiynau a ffiniau.

• Ac yn bwysicaf oll mae angen i ni fynd yn ôl i ymgyrchu, dod oddi wrth ein bysellfwrdd a mynd yn ôl ar y strydoedd.

Os bydda i’n cael y fraint o gael fy newis gennych chi i fod ar y Corff Llywodraethu Cenedlaethol, byddaf yn dod ag angerdd ac ymrwymiad i gyflawni ein nod ar y cyd, Annibyniaeth, ynghyd â hanes o adeiladu tîm sy’n canolbwyntio ar bobl, ymgysylltu â’r gymuned a chyflawni canlyniadau yn y sectorau cyhoeddus a phreifat.

Diolch am eich amser. Ymlaen at Annibyniaeth!

Cysylltedd Gwleidyddol: Aelod Plaid Cymru