Symud ymlaen o'r llywio

Baneri ar Draethau

Mae gan Ystad y Goron hawliau i wely'r môr hyd at 12 milltir forol ac mae'n rheoli 65% o draethau Cymru. I gael ongl ar Jiwbilî'r Frenhines ac annibyniaeth hoffem gynnig amrywiad i'r ymgyrch Baneri lwyddiannus ar bontydd- y tro hwn bydd yn fflagiau ar Draethau!

Bwriad yr ymgyrch yw tynnu sylw at yr angen i adennill ein tir oddi wrth Ystad y Goron, wrth gwrs, ond hefyd i danlinellu ein diffyg pwerau i reoli marchnadoedd tai, a’r effaith a gaiff hynny ar ein cymunedau arfordirol.

Ar benwythnos 11 a 12 Mehefin, bydd aelodau a grwpiau YesCymru yn cynnal ymgyrch benodol i dynnu sylw at anghyfiawnder perchnogaeth bresennol Ystâd y Goron ar dir Cymru.

Dim traeth yn eich ardal chi? Ymunwch â grŵp arall mewn ardal arfordirol neu defnyddiwch symbolau o dywod, tywel traeth neu faner Yes Cymru a gallwch greu eich traeth symbolaidd eich hun!

Ymunwch â’ch grŵp lleol ar eich traeth agosaf, a chofiwch rannu eich lluniau ar gyfryngau cymdeithasol a gyda [email protected].

 

Diolch yn fawr i YesCymruRhyngwladol @cymru_yes am ddefnydd llun Baneri ar Draethau.

Parhau i Ddarllen

Darllen Mwy

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Gwiriwch eich e-bost am ddolen i actifadu eich cyfrif.