Cafodd ymgyrch Baneri ar Draethau Yes Cymru dderbyniad anhygoel ar draethau gorau Cymru dros y penwythnos.
O goleudy enwog Talacre yn y gogledd ddwyrain, I goleudy Porth Tywyn yn y de orllewin; o Benarth I Ddinas DInlle, cododd yr aelodau eu baneri I brotestio yn erbyn perchnogaeth Ystâd y Goron ar ein traethau, blaendraethau a phorthladdoedd.
Daeth aelodau a grwpiau ynghyd I dynnu sylw at yr anghyfiawnder sydd yn caniatau I Ystâd y Goron elwa yn ariannol ar ei berchnogaeth o arfordir, porthladdoedd a gwely’r môr o amgylch Cymru.
Mae refeniw ac elw o Ystâd y Goron yn llifo yn uniongyrchol i goffrau Llywodraeth y DU yn San Steffan gan taw nhw sy’n rheoli yr holl refeniw a ddaw o’r ystâd, ac mae 25% yn cael ei glustnodi yn uniongyrchol ar gyfer y Grant Sofran sydd yn ariannu y Goron.
Yn 2020-21 roedd cynnydd o 522% yng ngwerth asedau Ystâd y Goron yng Nghymru o ganlyniad I brydlesu cynlluniau ynni adnewddiadwy ar y môr.
Dywedodd Vaughan Williams, aelod o Gorff Llywodraethol Yes Cymru:
“Mae’n hollol anghyfiawn bod milynau o bunnoedd yn mynd allan o Gymru, unwaith eto dyma ein hadnoddau naturiol a’n tirwedd yn cael ei ecsploitio ar gyfer llês rhywun arall. Dros y blynyddoedd nesaf bydd cynydd aruthrol yn y sector adnewyddadwy morwrol, gallai’r elw yma cael ei fuddsoddi yn ein cymunedau arfordirol sydd yn rhai o’n hardaloedd mwyaf di-freintiedig.
“Yn 2016 trosglwyddwyd Ystâd y Goron yn yr Alban i Lywodraeth yr Alban ac mae’r refeniw a godir yn cael ei wario yn yr Alban. Mae’n hen bryd inni leisio ein barn yn erbyn San Steffan, mai Cymru ddylai elwa yn uniongyrchol o’r adnodd yma a’I reoli, nid Trysorlys y DU.”
Dros y penwythnos bu’r grwpiau ar draethau Talacre, Dinas Dinlle, Aberystwyth, Hwlffordd, Llansteffan, Porth Tywyn, Abertawe, Porthcawl, Phenarth a Gwyl Merthyr Rising. Ymgysylltodd yr aelodau â thrigolion lleol a thwristiaid ar y mater, ac roedd cefnogaeth aruthrol i'r ymgyrch.