Symud ymlaen o'r llywio

Barry Parkin



Ymgeisydd o'r tu Allan i Gymru

CRYNODEB:
Mae gennyf brofiad busnes a rheoli ar lefel Cyfarwyddwr Cwmni a fydd, yn fy marn i, yn helpu YesCymru i gymryd y cam arwyddocaol a phwysig o drawsnewid o fod yn Gymdeithas Anghorfforedig i Gwmni Cyfyngedig. Bydd fy mhrofiad rheoli o fewn amgylchedd sy’n tyfu’n gyflym hefyd yn helpu YesCymru i reoli’r twf uchel iddo brofi, ac i adeiladu ar y twf hwnnw.

SEFYLLFA YESCYMRU:
Mae pob sefydliad sy’n tyfu, yn enwedig y rhai sy’n tyfu’n gyflym, yn wynebu problemau. Mae hynny’n amlwg yn wir am YesCymru dros y misoedd diwethaf a bydd heriau gweithredol pellach i YesCymru o ran cynnal y twf hwnnw wrth drosglwyddo’n esmwyth o Gymdeithas Anghorfforedig (sy’n gweithredu’n bennaf y tu allan i’r Gyfraith Cwmnïau) i Gwmnïau Cyfyngedig (gan weithredu yn unol â Chyfraith Cwmnïau). Mae hwn yn gam hollbwysig yn nhwf YesCymru.

Yn ogystal ag arweinwyr cryf sy’n canolbwyntio ar gynllunio, rheoli a hyrwyddo’r ymgyrch dros annibyniaeth i Gymru, mae angen pobl â phrofiad cadarn ar lefel Bwrdd Cyfarwyddwyr Cwmnïau Cyfyngedig i sicrhau bod YesCymru yn cael ei lywodraethu yn unol â Chyfraith Cwmnïau, yr Erthyglau Cymdeithasu a’r Is-ddeddfau. Yn ddelfrydol, dylai'r cefndir fod ar y cyd â phrofiad rheolaeth ymarferol mewn amgylchedd newidiol, twf uchel.

CEFNDIR PROFFESIYNOL:
Rwyf wedi dal swyddi ar lefel bwrdd cyfarwyddwyr gydag Anritsu Ltd (is-gwmni Ewropeaidd Anritsu Corporation, Japan), Anritsu AB (is-gwmni Sweden i Anritsu Ltd, sy’n gweithredu ar draws Sweden, Norwy, Denmarc a’r Ffindir), a Byre Projects Ltd (fy nghwmni ymgynghori busnes fy hun).

Gydad Anritsu, roeddwn yn bennaeth busnes gwerth €250,000,000 ym maes offer telathrebu, ac yn arwain tîm gwerthu, marchnata a datblygu gwasanaeth a meddalwedd o bell, tîm o tua 200 o bobl mewn 11 gwlad ledled Ewrop. Roedd hyn yn ystod cyfnod o dwf eithriadol o uchel a datblygais systemau rheoli newydd i ymdopi â’r twf hwnnw. Gan weithio o fewn sefydliad Japaneaidd a gyda chwsmeriaid o Sgandinafia, dysgais y cysyniad o welliant parhaus; hynny yw, er gwaetha llwyddiant sefydliad, gell, a dylai, wella yn ei weithrediad bob amser. Roedd yn ofynnol yn fy rôl i mi ymwneud wyneb yn wyneb â gweinidogion y llywodraeth (Prydeinig a thramor) hefyd.

Trwy redeg fy nghwmni fy hun, cefais brofiad ymarferol o bob agwedd ar fanylion cydymffurfio â Chyfraith Cwmnïau.

Ymunais â'r fyddin yn 16 oed a hyfforddi i ddechrau fel technegydd, ac yn ddiweddarach fel peiriannydd telathrebu, gan wasanaethu'r Signalau Brenhinol am 11 mlynedd, gan gynnwys 4 blynedd yn addysgu electroneg mewn coleg milwrol. Yn dilyn 3 blynedd fel peiriannydd darlledu teledu yn stiwdios ATV Networks yn Birmingham treuliais 30 mlynedd ym maes gwerthu byd-eang, marchnata a rheolaeth gyffredinol gyda chwmnïau Prydeinig, Americanaidd, Ffrainc, yr Almaen a Japan.

Yn fy swydd gwerthu technoleg gyntaf, cefais hyfforddiant ffurfiol ar Gyfraith Contractau, a oedd yn hynod ddefnyddiol i mi wrth negodi cytundebau gwerth miliynau o bunnoedd, ac a allai fod yn ddefnyddiol i YesCymru wrth gaffael yn y dyfodol.

Yn fy rolau yn rheoli, rwyf bob amser wedi credu mewn tegwch a chyfiawnder wrth ddelio â phobl, ac mewn gwerthfawrogi mewnbwn holl aelodau'r tîm. Credaf fod timau’n gweithio orau mewn strwythur sefydliadol o’r gwaelod i fyny, lle mae cyfraniad pob aelod o’r tîm yn cael ei werthfawrogi.

FY YMRWYMIAD:
O gael fy ethol, byddaf yn ymdrechu i:

• Sicrhau bod YesCymru yn parhau i ganolbwyntio ar ei un amcan diamod: Annibyniaeth i Gymru
• Sicrhau bod cyfarwyddwyr ac aelodau â safbwyntiau gwahanol yn cydweithio'n gytûn
• Sicrhau cyfathrebu dwy ffordd da rhwng y Corff Rheoli Cenedlaethol a’r grwpiau ac aelodau lleol, fel bod lleisiau aelodau a grwpiau lleol yn cael eu clywed a bod gwrando arnyn nhw.
• Sicrhau tryloywder ariannol trwy adrodd yn rheolaidd i'r aelodaeth
• Sicrhau llywodraethu da a chydymffurfio â Chyfraith Cwmnïau, yr Erthyglau Cymdeithasu a'r Is-ddeddfau.
• Trosglwyddo fy mhrofiad o lywodraethu Cwmni Cyfyngedig i gyfarwyddwyr eraill, sydd â'u prif gryfderau mewn meysydd allweddol eraill o bosibl.

Mae gennyf hefyd wybodaeth a phrofiad y gallai'r Corff Rheoli Cenedlaethol ei ddefnyddio ym meysydd strwythur corfforaethol; cyllidebu a monitro perfformiad yn erbyn cyllidebau; caffael; lobïo ac eiriolaeth; a hyfforddiant, yn ogystal â llywodraethu.

Bydd y flwyddyn a ddaw yn dod â newid i YesCymru wrth iddo dod i oed. Credaf y gallaf wneud cyfraniad sylweddol i'r newid hwnnw.

CEFNDIR PERSONOL:
Rydwi i wedi ymddeol, cefais fy ngeni yn Lloegr, ond mae teulu ochr fy mam yn hanu o Sir Benfro (Tyddewi a Threfdraeth); mae teulu ei thad yn hanu o'r Cymoedd (Aberdâr/Mountain Ash). Ganed fy mam ym Merthyr Tudful, lle mae gen i deulu o hyd. Symudodd fy nhad-cu, glöwr, y teulu i Loegr i ddod o hyd i waith yn ystod y dirwasgiad ond treuliasom sawl wyliau teuluol yn ôl ym Merthyr.

Bu gen i ddiddordeb mewn ieithoedd bob amser a gallaf wneud busnes mewn Ffrangeg, Almaeneg a Sbaeneg; tra yn Gadeirydd a Chyfarwyddwr Anritsu AB, dysgais ddigon o Swedeg i allu darllen cytundebau. Gallaf gynnal sgyrsiau syml mewn Iseldireg a Japaneaidd. Wedi ymddeol, a gyda gwybodaeth gyfyngedig iawn o’r Gymraeg i mi ei ddysgu i mi fy hun (dim ond “ychafi” oedd fy mam yn gallu ei dweud, oedd i'w glywed yn aml!), sefydlais grŵp hunangymorth Cymraeg U3A lleol, gan ddefnyddio recordiadau fideo. Yn ddiweddarach mynychais ddau gwrs Cymraeg preswyl wythnos o hyd ym Mhrifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan a hefyd dosbarthiadau nos yng Nghanolfan Cymry Llundain. Mae'n debyg mai fy lefel i yw “Sylfaen”, ond y agos at “Canolradd”.

AELODAETH YESCYMRU:
Rwy’n gredwr brwd yn achos Annibyniaeth Cymru, ond yn byw y tu allan i Gymru, roeddwn i’n meddwl tybed a allwn i gyfrannu’n ystyrlon. Fodd bynnag, ers ymuno â YesCymru ym mis Ionawr 2020, rwyf wedi gallu helpu drwy weithio’n agos gyda nifer o arweinwyr grwpiau lleol YesCymru, gan gynnwys delio’n uniongyrchol ag Azets (cyfrifwyr YesCymru) a chael cyngor cyfreithiol arbenigol ar lywodraethu YesCymru. Mae’r 10 cefnogwr sy’n fy enwebu yn dod o bob rhan o Gymru: o Wynedd, trwy Ganolbarth a Gorllewin Cymru, i’r Cymoedd.

Cysylltedd Gwleidyddol: Aelod o'r Blaid Lafur