Ymgeisydd Gogledd Cymru
Ymunais gyda YesCymru ym Mis Mai 2020 a chychwynnais grŵp Llanfairfechan ym Mis Tachwedd 2020.
Mae gennyf brofiad o fod yn gyfarwyddwr i elusen genedlaethol ac fel ymddiriedolwr i gyngor gwirfoddol sirol ac rwy’n credu fod y profiadau yma, ynghyd a fy mhrofiad o weithio yn y trydydd sector yn addas iawn i gefnogi a datblygu YesCymru dros y blynyddoedd nesaf a sicrhau cefnogaeth a datblygiad i’r grwpiau a gwirfoddolwyr i barhau eu gwaith hynod werthfawr i hybu annibyniaeth.
Rwyf wedi gweithio a gwirfoddoli i lawer o wahanol elusennau, cwmnïau a gwasanaethau cyhoeddus, yn cynnwys rhai sydd yn cefnogi unigolion gydag anableddau, rhieni newydd a darpar rieni, sefydliadau treftadaeth a gwasanaeth chyfiawnder ieuenctid. Mae’r swyddi hyn yn bennaf wedi bod yn cefnogi gwirfoddolwyr a grwpiau lleol, ynghyd a phrofiad o ymgysylltu ac ymgyrchu.
Mae fy rôl bresennol yn cynnwys ymgysylltu gyda’r cyhoedd a defnyddwyr gwasanaeth ar lawer o faterion gan gynnwys iechyd a gofal cymdeithasol ac wedi cynnwys hwyluso cyd-gynhyrchu gyda llawer o wahanol grwpiau gydag amrywiaeth o brofiadau ac anghenion. Mae’r gwaith yma yn cynnwys gweithio yn agos gydag awdurdodau lleol, y bwrdd iechyd a’r trydydd sector.
Rwyf wedi bod yn gadeirydd ac is-gadeirydd i bwyllgorau o fewn nifer o sefydliadau, ac wedi cymryd rhan mewn is-grwpiau yn cynnwys rhai ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a dyfodol gwirfoddoli.
Credaf fod fy mhrofiad a sgiliau yn fudd i’r Pwyllgor Llywodraethu Cenedlaethol a hefyd i’r pwyllgorau datblygu aelodaeth a datblygu grwpiau.
Cysylltedd Gwleidyddol: Aelod Plaid Cymru ac Aelod o Gymdeithas yr Iaith