Symud ymlaen o'r llywio

Louise Aikman

Ymgeisydd o'r tu Allan i Gymru

Louise ydw i, cyfreithiwr gyda 13 mlynedd o brofiad gweithio gyda cwmnïau mawr genedlaethol ac sefydliadau elusennol. Mae gen i arbenigedd mewn creu fframwaith i sicrhau bod pob un o’r gofynion cyfraith yn cael eu bodloni.
Mae’n gyfnod cyffrous i Gymru, ac i’n hymgyrch genedlaethol dros annibyniaeth. Er mwyn symud ymlaen mae ein Haelodau yn disgwyl inni adlewyrchu eu hangerdd, ond hefyd mae angen inni weithredu gydag effeithlonrwydd, yn chwim ac yn fedrus iawn. Mae gen i'r sgiliau, y profiad a'r ymroddiad i gefnogi esblygiad Yes Cymru yn sefydliad a fydd yn gwasanaethau’r 18,000 o Aelodau a’r degau o filoedd o gefnogwyr ledled Cymru.
Dyma rai enghreifftiau i ddangos pam rydw i’n ddewis da i’r swydd Ysgrifennydd.

Gweinyddu cyfarfodydd
Mae gen i flynyddoedd o brofiad o drefnu cyfarfodydd bwrdd effeithlon i gydymffurfio â dogfennau llywodraethu a chyfraith weinyddol cwmni. Rwy’n Ysgrifennydd Cwmni i fusnes cyllid newydd, rwy’n trefnu cyfarfodydd â chworwm, yn paratoi cynigion angenrheidiol, yn cymryd cofnodion ac yn eu cymeradwyo/llofnodi’n brydlon. Fel hyfforddwr busnes rwy'n annog cynnydd, yn unol â chamau gweithredu ac fel cyfreithiwr rwy'n sicrhau bod cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn gywir.

Byddwn yn gweithio gyda’r Pwyllgor ar amserlen ar gyfer cwblhau tasgau cyn, yn ystod ac ar ôl cyfarfodydd Pwyllgor ac yn mesur DPA yn fy erbyn i a pherfformiad y Pwyllgor o ran cadw at yr amserlen.

Cofnodion a gweinyddiaeth
Fel Cyfreithiwr, mae gennyf ddyletswydd gyfreithiol nid yn unig i sicrhau bod cofnodion cywir yn cael eu cadw ond eu bod yn cael eu cadw yn unol â chyfreithiau diogelu data. Mae gennyf brofiad helaeth ym maes diogelu data, yn bennaf yn ddiweddar:
* fel gwirfoddolwr diogelu data gydag elusen sy'n ceisio grymuso pobl ifanc agored i niwed a difreintiedig gyda chymysgedd o hyfforddiant MMA a datblygiad personol; a
*fel Swyddog Diogelu Data ar gyfer cwmni ffilm lle byddaf yn cynnal asesiadau risg cyfreithiol ac yn creu prosesau syml y gall y tîm eu dilyn i gynnal cydymffurfiaeth gyfreithiol.
Yn Yes Cymru, byddwn yn adolygu’r fframwaith diogelu data presennol ac, os oes angen, yn awgrymu sut y gellid ei gryfhau.

Mae gen i lawer o brofiad o ysgrifennu pob math o ddogfen a gwybodaeth am arferion proffesiynol gorau. Dwi wedi ysgrifennu adroddiadau blynyddol i gwmnïau mawr gyda llawer o gyfranwyr eraill. Ar hyn o bryd, mae’n eithaf pwysig i drefnu llythyrau, adroddiadau a chofnodion gyda sylw i’r fanylion, un o fy nghryfderau

Mae YesCymru wedi gwneud cymaint eisoes i godi ymwybyddiaeth a chefnogaeth i annibyniaeth Cymru, er mwyn cymryd y cam nesaf yn nes at y nod hwnnw mae angen fframwaith gweinyddol cryf a thryloyw fel bod yr Aelodau a’r Pwyllgor yn gwybod bod y tasgau hyn mewn dwylo diogel; gallant wedyn ganolbwyntio ar ymgyrchu: rhowch gyfle i mi wneud hyn ar gyfer Yes Cymru.

Cysylltedd Gwleidyddol: Dim