Symud ymlaen o'r llywio

Gorymdaith dros Annibyniaeth Caerdydd - Gwybodaeth hanfodol

Mae ein dychweliad i Gaerdydd ar gyfer 2il orymdaith annibyniaeth 2022  yn prysur agosáu - dyma’r wybodaeth y bydd ei hangen arnoch!

Gorymdaith dros annibyniaeth

Bydd yr orymdaith ei hun yn cychwyn yn brydlon am 12pm ar 1af o Hydref o Windsor Place

Mae YesCymru ac AUOBCymru yn annog pawb sy'n mynychu i gyfarfod o 10.30am ac i ddod â baneri, drymiau ac offerynnau.

Dyma lwybr yr orymdaith - mae tua milltir a hanner - yn ddigon hir i ni weld rhai o olygfeydd Caerdydd, ac yn bwysicach fyth, i bobl ein gweld a'n clywed.

Rali annibyniaeth yn dilyn yr orymdaith

Yn dilyn yr orymdaith bydd rali gyda siaradwyr a cherddoriaeth, bydd modd gweld popeth sy’n digwydd ar y llwyfan ar sgriniau mawr

Dyma pwy fydd yn siarad yn y rali....

  • Dafydd Wigley

  • Ffion Dafis

  • Julian Lewis Jones

  • Eädyth Crawford

  • Tadhg Hickey

  • Gwern Gwynfil

  • Agit Chevis

  • Harriet Protheroe-Soltani

Mae Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Rheilffyrdd, Morwrol a Thrafnidiaeth (RMT) wedi cyhoeddi y bydd dau ddiwrnod o streic yn digwydd ar ddydd Sadwrn 1 a dydd Sadwrn 8 Hydref, ar draws Network Rail a 15 o weithredwyr trenau.
Mae ASLEF hefyd wedi cyhoeddi streic ar ddydd Sadwrn 1 ar draws 12 o weithredwyr trenau, tra bod TSSA wedi cyhoeddi streic ar 1 Hydref yn Network Rail ac 11 o weithredwyr trenau.

Nid yw Trafnidiaeth Cymru yn ymwneud â’r gweithredu diwydiannol. Fodd bynnag, mae’r gweithredu diwydiannol sy’n deillio o’r anghydfod rhwng yr undebau a Network Rail yn golygu nad ydynt yn gallu gweithredu gwasanaethau rheilffordd ar seilwaith Network Rail.

https://tfw.wales/dustrial-action

Nwyddau o siop YesCymru

Cofiwch y bydd siop YesCymru ar-lein yn gwerthu yr holl nwyddau sydd eu hangen ar gyfer gorymdaith lwyddiannus. 
Archebwch erbyn 12pm ddydd Mercher 28/09 er mwyn cael eich nwyddau mewn pryd.

Bydd stondin nwyddau gan YesCymru yn Wrecsam ar gyfer yr orymdaith hefyd - gallwch chi stocio’r cwpwrdd dillad yn llawn o nwyddau ar gyfer gweddill y flwyddyn!

Rhannu Lluniau a Fideos

Cofiwch dynnu lluniau o’ch taith draw i Wrecsam a'r orymdaith ei hun, a’i rhannu â ni ar y cyfryngau cymdeithasol, neu â ffoto@yes.cymru

Parhau i Ddarllen

Darllen Mwy

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Gwiriwch eich e-bost am ddolen i actifadu eich cyfrif.