Diolch enfawr i’r holl aelodau a chefnogwyr a lenwodd strydoedd Caerdydd ar y 1af o’r mis i alw am annibyniaeth i Gymru.
Diolch enfawr hefyd i YesCymru Caerdydd, AUOBCymru, ein holl wirfoddolwyr, Heddlu De Cymru, Cyngor Dinas Caerdydd a phawb gefnogodd yr orymdaith.
Dyma’r orymdaith fwyaf eto, ac roedd y neges fod Cymru o ddifri ynghylch annibyniaeth yn sicr i'w chlywed. Roedd llawer mwy o sylw gan y wasg a’r cyfryngau na’r arfer, sydd yn arwydd fod ein hymgyrch yn ôl ar flaen yr agenda wleidyddol.
Bydd dyddiadau a lleoliadau gorymdeithiau 2023 yn cael eu cadarnhau yn fuan.
Cofiwch, os oedd cefnogwyr annibyniaeth gyda chi yn yr orymdaith ac nad ydynt yn aelod o YesCymru - gwnewch yn siŵr eu bod yn ymaelodi - mae pob aelod yn cyfri.
Gall unrhywun ymaelodi ar ein gwefan o cyn lleied a £5 y flwyddyn.