Mae YesCymru yn falch o gael cyhoeddi fod cyfle i ymgeisio i fod yn Brif Weithredwr cyntaf y
mudiad.
Mae hon yn swydd newydd gyffrous, ac mae'r rôl hon yn gyfrifol am ddarparu
arweinyddiaeth o’r ansawdd uchaf i YesCymru a bydd yn rheoli gweithrediadau'r mudiad o ddydd i
ddydd.
Bydd y rôl yn datblygu ac yn gweithredu systemau a prosesau sy'n mynd i ddatblygu y
mudiad ymhellach. Disgwylir iddo fo neu hi ddylanwadu'n sylweddol ar y ddadl ar annibyniaeth yng
Nghymru a dyfodol cyfansoddiadol Cymru.
Dywedodd Andrew Murphy, un o Gyfarwyddwyr YesCymru-
“Dyma’r cam naturiol nesaf i’r mudiad wrth iddo ddatblygu ei aelodaeth a’i allu i ymgyrchu mewn
sawl maes yn effeithiol. Trwy ychwannegu Prif Weithredwr at y tîm o swyddogion cyflogedig o
fewn y mudiad bydd gan YesCymru y gallu i roi arweiniad llawn amser i’n aelodau, grwpiau a’n
hymgyrchwyr llawr gwlad.”
“Mae’r ymgyrch dros annibyniaeth i Gymru, a mudiad YesCymru yn wynebu cyfnod cyffroes a
phrysur dros y blynyddoedd nesaf wrth i ddyfodol cyfansoddiadol Cymru ddaod dan y chwydd
wydr. Bydd cael swyddog cyflogedig profiadol wrth y llyw yn gymorth wrth ddatblygu ein
hymgyrchoedd, ac wrth ddatblygu ystod ein dulliau o ymgyrchu.”