Symud ymlaen o'r llywio

Christine Moore

Ymgeisydd Gorllewin De Cymru

https://youtu.be/k7pS0OcK798

"Hen fenyw, ieuenctid wrth fy nghefn ond yn cario'r faner yn yr orymdaith tuag at Gymru annibynnol!”

Fy enw i yw Christine Moore, a hoffwn ofyn ichi eich cefnogaeth i gael fy ethol yn Gyfarwyddwr ar Gorff Llywodraethu Cenedlaethol YesCymru.

Rag 'n' Bones
Cefais fy ngeni a'm magu ym Mhen-y-bont ar Ogwr, i rieni o ardaloedd Pendre a Stryd Mackworth. Roedd fy nhaid yn ddyn rag ‘n’ bone ac yn yrrwr bws, ac roedd fy nain yn wniadwraig.
Rwyf wedi byw gyda fy mhartner yng Nghwm Ogwr ers dros 20 mlynedd ac yn rhiant i dri o blant sydd wedi tyfu i fyny. Magais y ddau hynaf, yn bennaf, fel rhiant sengl.

Rhywle yn y canol!
Ymunais â'r fyddin yn 17 oed a dod yn yrrwr. Yn ogystal â rhoi amrywiaeth o sgiliau bywyd i mi, mae'n debyg mai effaith fwyaf sylfaenol hyn oedd y egin syniad yna y dylai Cymru ddod yn genedl annibynnol; daeth y syniad y ‘gallai’ ddod yn ddiweddarach o lawer! Cael fy holi: “Two houses on the mountain, which one do you live in Taff? The middle one!” wnaeth i mi sylweddoli, hyd yn oed os nad oeddwn wedi meddwl fy hun yn wahanol o'r blaen, fy mod i. Roeddwn i'n perthyn i genedl arall â hanes, iaith, a hunaniaeth ddiwylliannol wahanol.
Es i ymlaen i fod yn yrrwr HGV nes i mi ddychwelyd i addysg, gan fynychu Coleg Amaethyddol Pencoed a threulio chwe blynedd gyda'r Brifysgol Agored yn astudio Gwyddor yr Amgylchedd. Rwyf wedi gweithio yn y sector gwirfoddol ers dros 20 mlynedd, ac ar hyn o bryd fi yw Rheolwr yr Ymddiriedolaeth ar gyfer elusen fach o’r enw Addoldai Cymru, sy’n cymryd perchnogaeth o gapeli o bwysigrwydd hanesyddol sy'n segur ledled Cymru ac yn eu gwarchod.

Ap Pwy?
Fe wnes i fentro ar Twitter am y tro cyntaf ddiwedd 2017 a dechrau ymddiddori’n fawr yn y ‘tweets’ cynyddol amlwg am rywbeth o’r enw “YesCymru” – dechreuais i ddilyn gyda diddordeb. Un diwrnod, fe anfonodd rhywun o’r enw Iestyn ap Rhobert neges ataf – a gallwch fentro, â nghefndir i, nad oedd llawer o ‘ap' unrhyw un yn cyfathrebu â chi – felly darllenais y neges gyda diddordeb. O’r sgwrs gynta un honno a gyda chefnogaeth YesCymru y sefydlais i gyfri trydar YesPenybont ar Ogwr | Bridgend, tyfodd y grŵp o hynny. Dros y 3-4 blynedd diwethaf, gyda chefnogaeth llawer o bobl wych yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr, mae’r grŵp wedi tyfu ac wedi cyflawni llawer ac wedi gwneud llawer i gynnydu'r gefnogaeth i annibyniaeth yn yr ardal. Rwyf wedi bod yn hynod o freintiedig i fod yn rhan o hyn fel Cadeirydd y grŵp.

Dysgu i Ymddiried Eto
Mae hyn wedi rhoi’r cyfle i mi weithio gyda phobl o bob rhan o rwydwaith YesCymru, gan gynnwys grwpiau YesCymru ledled Cymru, fel un o gynrychiolwyr Pen-y-bont ar Ogwr. Yn ddiweddar, mae hyn wedi ymestyn i fod yn rhan o'r Gweithgor. Mae’r ymwneud hwn dros nifer o flynyddoedd wedi rhoi cipolwg gwych i mi ar gymhlethdodau’r mudiad hwn ac wedi llywio fy mhrif farn ar sut y dylai YesCymru barhau i ddatblygu.
Prif egwyddor YesCymru, ac rydw i’n teimlo sy’n bwysig iawn ei chynnal, yw egwyddor “llawr gwlad” y mudiad, sef dod â phobl ynghyd i eirioli dros Gymru annibynnol – eiriolaeth o ddrws i ddrws! Fodd bynnag, wrth symud ymlaen, gwelaf fod heriau o ran sut i adfer ymddiriedaeth yn y mudiad, a sut i broffesiynoli YesCymru, tra yn parhau i gynnal yr arfer o weothredu o'r gwaelod i fyny, sy'n cael ei yrru yn y y dull cymunedol. Mae popeth a wnawn yn YesCymru yn deillio o'n hawydd i ennill Annibyniaeth i Gymru. Dyma sy'n ein clymu ni i gyd . Ond “It is mutual trust, even more than mutual interest that holds human associations together.” Mencken

Fel unigolyn, mae ymddiriedaeth yn werth eithriadol o bwysig! i mi! Mae angen i ni, Yes Cymru, adfer yr ymddiriedaeth honno.

Yn ogystal â’m gwybodaeth ymarferol am YesCymru, gallaf dod ag ystod o wahanol sgiliau a phrofiad i mi eu dysgu o gefndir o waith eang iawn. Rwy'n weithiwr proffesiynol egniol, uchel fy nghymhelliant, yn canolbwyntio ar ganlyniadau, ac â phrofiad sylweddol yn y sector gwirfoddol. Wedi fy nhynnu at bobl yn naturiol, mae gen i sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig rhagorol, rwy’n gallu uniaethu’n hawdd ag unigolion a grwpiau o amrywiaeth o gefndiroedd a gweithio gyda nhw. Mae gen i bersonoliaeth gadarnhaol ac allblyg sy'n addas iawn ar gyfer meithrin perthnasoedd a hyrwyddo syniadau newydd. Rwy’n focused iawn ac yn benderfynol o gefnogi datblygiad YesCymru, gan ddefnyddio cyfuniad o greadigrwydd, pragmatiaeth ac ewyllys da.
Ni fu’r frwydr dros annibyniaeth i Gymru erioed mor bwysig â'r cyfnod cythryblus hwn – ac mae Cymru wedi bod ac yn dal i gael ei hanwybyddu ac yn gwywo, yn un o genhedloedd tlotaf gogledd Ewrop.
Ymlaen!

Fel menyw, teimlaf hefyd na ddylem anghofio mai menywod yw o leiaf 51% o’r boblogaeth – felly mae’n hollbwysig bod lleisiau merched yn cael eu clywed a’i bod yn bwysig deall y gallwn ac y dylem fod yn ddylanwadwyr allweddol!
Mae perthyn yn emosiwn mor bwerus, mae'r ymdeimlad o gysylltedd a bod yn rhan o rywbeth mor bwysig i bob un ohonom. Fel dysgwr Cymraeg, trwy ddysgu’r iaith, dw i wedi dysgu cymaint am y wlad y cefais fy ngeni ynddi. Fodd bynnag, credaf fod hunaniaeth ddiwylliannol Cymru ‘yn perthyn’ nid yn unig i mi, ond yn perthyn i bob un ohonom ac y dylem ymdrechu i fod yn genedl falch, deg, annibynnol i bawb – nid ‘Yma o hyd’ yn unig mohoni – ond 'Ymlaen!'

Cysylltedd Gwleidyddol: Aelod Plaid Cymru