Symud ymlaen o'r llywio

Adroddiad Comisiwn yn ‘gam mawr’ tuag at annibyniaeth

Mae YesCymru wedi croesawu adroddiad arloesol am ddyfodol cyfansoddiadol Cymru gan ei ddisgrifio yn “gam mawr yn y siwrne i fod yn wlad annibynnol”.

Mae’r grwp ymgyrchu wedi ymateb i gasgliadau Comisiwn Annibynnol Cymru ar Ddyfodol Cyfansoddiadol sydd dan gadeiryddiaeth cyn Archesgob Cymru Rowan Williams, a’r Athro Laura McAllister.

Yn ei adroddiad awdurdorol dywedodd y Comisiwn bod annibynniaeth opsiwn “hyfyw”, gan adio ei fod yn cynnig y “potensial ar gyfer newid cadarnhaol hirdymor” a’r gallu i ddyfeisio polisiau sy’n adlewyrchu “blaenoraiaethau” pobl Cymru.

Amlinellwyd y “risg” i ddemocratiaeth Cymru os wneir newidiadau “ar frys” a galwodd am drosglwyddo rhai pwerau ar unwaith o San Steffan i Gaerdydd, gan gynnwys seilwaith y rheilffyrdd, a phlismona a chyfiawnder.

Yn o gystal a hynny pwyntiodd at y “diffyg sylfaenol yn y system bresennol o ddatganoli” gan ddweud “rhan annatod o’r model” ydi eo fod yn “seiliedig ar bwerau a roddwyd gan Senedd San Steffan” ac “y gall Senedd San Steffan eu diddymu unrhyw bryd.”

Dywedodd lefarydd dros YesCymru: “Mae YesCymru yn croesawu adroddiad y Comisiwn Annibynnol Cymru ar Ddyfodol Cyfansoddiadol.

“Fel mudiad rydym yn credu ei fod yn gam mawr yn y siwrne i fod yn wlad annibynnol.

“Er nad yw’r adroddiad yn mynd mor bell a buasem yn hoffi ei weld mae o yn gwneud yn glir bod y sefyllfa presennol yn anddioddefol a bod lleihau pwerau datganoledig y Senedd ddim er fydd pobl Cymru.

“Cadarnhaodd bod Cymru bod yn gaeth economi a DU sydd ddim yn sicrhau ffyniant i gymunedau Cymru ac yn lle ei fod yn wedi’i siapio er budd De-ddwyrain Lloegr a Dinas Llundain.

“Yn bwysig, mae’r Comisiwn yn cydnabod bod annibyniaeth i Gymru yn ffordd gredadwy ac ymarferol ymlaen ar gyfer dyfodol cyfansoddiadol Cymru.

“Mae YesCymru yn cytuno gyda’r Comisiwn ei fod yn ffaith o dan y gyfundrefn cyfansoddiaol bresennol y Senedd yn San Steffan sydd oruchaf, a bod Senedd Cymru yn ddibynol ar Llywodraeth y DU i roi mwy o bwerau.

“Mae hyn hefyd yn galluogi gwleidyddion yn San Steffan i anwybyddu galwadau gan ein arweinyddion gwleidyddol yng Nghymru yn o gystal ac anwybyddu dymuniadau bobl Cymru, fel y mae nhw wedi gwneud am flynyddoedd.

“Mae o’n hollol amlwg nad yw’r DU yn bartneriaeth o wledydd cyfartal fel mae gwleidyddion o San Steffan yn hoff o honni.

“Yr unig ffordd o sicrhau y gall Gymru fanteisio yn llawn ar gyfleodd yn y dyfodol ydi i dorri’n rhydd o San Steffan.

“Gyda rheolaeth llawn dros ein harian, ein deddfau, a’n adnoddau naturiol byddem yn medru sicrhau dyfodol llewyrchus a llewyrchus i’n cymunedau.

“Mae genym yr holl dalent a gallu yr rydym ei angen, ond i wireddu ein potensial llawn mae angen i ni ddangos yr uchelgais, y hyder, a’r dewrder i symud ymlaen fel gwlad sofran.”

Parhau i Ddarllen

Darllen Mwy

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Gwiriwch eich e-bost am ddolen i actifadu eich cyfrif.