Yn ôl Cadeirydd y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol mae gwaith eisoes wedi dechrau i drosglwyddo dŵr o Gymru i ardaloedd yn Lloegr sydd wedi’u taro gan sychder.
Mae dŵr yn nwydd gwerthfawr a dyma enghraifft arall o Lundain yn seiffonu ein hadnodd mwyaf gwerthfawr heb unrhyw ymgynghori na budd i'n cymunedau. Mae Cymru’n gyfoethog mewn adnoddau naturiol ac ni allwn barhau i ganiatáu i’n dyfodol a’n cyfoeth gael eu cymryd oddi arnom. Rhaid i bob adnodd naturiol fod o fudd i ni’r bobl sy’n byw yng Nghymru.
Gallwch arwyddo ein deiseb yma.
Yn ôl un cyfrifiad gallai allforio dŵr presennol Cymru i Loegr, o Gwm Elan i Birmingham ac o Lyn Efyrnwy a Thryweryn i Lerpwl, fod werth cymaint â £4.5 biliwn y flwyddyn.
https://www.iwa.wales/agenda/2012/04/when-white-water-could-become-white-gold/?lang=cy
Mae Cymru yn allforiwr net o drydan, ar ôl defnyddio tua 14.7 TWh(1) o drydan yn 2019, tra’n cynhyrchu tua 27.9 TWh.
https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2021-01/cynhyrchu-ynni-yng-nghymru-2019.pdf
Mae prisiad portffolio morol Ystâd y Goron yng Nghymru wedi cynyddu’n sylweddol o £49.2 miliwn yn 2020 i £549.1 miliwn yn 2021.
https://ymchwil.senedd.cymru/erthyglau-ymchwil/pwy-sy-n-berchen-ar-wely-r-mor-a-pham-mae-n-bwysig/
Ein Hadnoddau, Ein Dyfodol, Ein Dewis