Symud ymlaen o'r llywio

Cyngor Dirprwyon

Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf Cyngor Dirprwyon YesCymru yn ddiweddar. Bydd y Cyngor yn graidd i wella strwytherau mewnol YesCymru ac yn hwyluso cyfathrebu mewnol ein sefydliad o’r top i’r gwaelod.

Apwyntiwyd aelodau sy’n cynrychioli pob ardal gan bob rhanbarth a rhein fydd yn lleisio barn yr aelodau a grwpiau am ddyfodol Yes Cymru yn ogystal â helpu creu strategaethau, polisiau a mewnbwnio syniad newydd i’r Bwrdd
Rheoli gan gryfhau gweithredrefnau Yes Cymru.
Cafodd Teresa Parry (Cwm Rhymni) ei hethol i fod yn Gadeirydd y Cyngor.
Dywedodd hi: “Mae gwaith y Cyngor yn hynod o bwysig yn fy marn i, i gynrychioli aelodau a grwpiau ac i roi cymorth i’r Bwrdd. Mudiad weddol newydd yw YesCymru ac mae sefydlu’r broses hon yn gam mawr wrth inni aeddfedu. Edrychwn ymlaen yn fawr iawn i gydweithio gydag aelodau, grwpiau a’r Bwrdd. Byddwn ni’n edrych ar faterion, cynhyrchu ymgyrchoedd a datblygu strategaethau. Bydd y C.o.D yn bwynt gyswllt rhwng aelodau, y cynghorau rhanbarthol a’r Bwrdd a
fydd yn hwyluso cyfathrebiad a rhoi dealltwriaeth well o’r hyn sy’n digwydd yn YesCymru. Byddwn yn manteisio ar y cyfle gwych hwn i edrych ar ddefnyddio sgiliau’n haelodau sy’n fodlon cyfrannu at waith Yes Cymru er mwyn gwneud
gwahaniaeth. ”


Ychwanegodd Phyl Griffiths, Cadeirydd Yes Cymru, “O’r cychwyn cyntaf, ‘dyn ni wedi brolio ein bod ni'n fudiad llawr gwlad. Mae hyn yn wir, wrth gwrs, ond mae'r datblygiad cyffrous yma yn golygu bydd cynrichiolwyr y grwpiau llawr
gwlad - am y tro cyntaf yn hanes YesCymru - yn gallu helpu llywio penderfyniadau’r mudiad yn genedlaethol.” 


Cynrychiolwyr C.o.D
Teresa Parry (De-Ddwyrain Cymru) (Cadeirydd)
Geoff Leyshon (De-Ddwyrain Cymru)
Mark Rees (Gorllewin a Chanolbarth Cymru)
Aeron Dafydd (Gorllewin a Chanolbarth Cymru)
Dilwen Walsh (Cymru De Canol)
Jac Jolly (Gogledd Cymru)
Richard Jenkins (De-Orllewin Cymru)
John Young (De-Orllewin Cymru)

Parhau i Ddarllen

Darllen Mwy

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Gwiriwch eich e-bost am ddolen i actifadu eich cyfrif.