Symud ymlaen o'r llywio

Arolwg Cynghorwyr

Yn dilyn yr etholiadau cynghorau lleol ledled Cymru yn ddiweddar mae gan YesCymru ddiddordeb mewn gweld pa ganran o'r gynrhychiolaeth bresennol o gynghorwyr sydd o blaid annibyniaeth i
Gymru. Mae arolwg barn wedi'i anfon at bob un o'r cynghorwyr ar draws y 22 awdurdod lleol, ac mae'r canlyniadau eisoes yn dod i law.

Dylai'r bleidlais nid yn unig roi cipolwg i ni o faint y gefnogaeth ar draws y lefel hon o'n democratiaeth, ond hyrwyddo annibyniaeth ymhellach fel un o
gonglfeini'r ddadl wleidyddol yng Nghymru. A fyddech cystal â chanfasio eich cynghorydd lleol i gwblhau'r arolwg (fel nodyn, mae rhai cynghorau wedi nodi e-bost y bleidlais fel sbam - felly mae
angen iddynt wirio) - bydd y canlyniadau'n cael eu cyhoeddi'n fuan.

Parhau i Ddarllen

Darllen Mwy

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Gwiriwch eich e-bost am ddolen i actifadu eich cyfrif.