Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen wedi pleidleisio heddiw o blaid trosglwyddo rheolaeth Ystad y Goron i Gymru. Mae’r bleidlais yn nodi consensws hanesyddol ar draws pob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru – yn ogystal â'r Senedd – yn dilyn ymgyrch genedlaethol dan arweiniad YesCymru.
Mae YesCymru wedi bod ar flaen y gad yn galw am drosglwyddo pwerau dros Ystad y Goron – sydd ar hyn o bryd dan reolaeth Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol – i bobl Cymru. Mae canlyniad y bleidlais yn Nhorfaen yn anfon neges glir a diamwys i Lywodraeth San Steffan: mae Cymru am reoli ei hadnoddau naturiol ei hun.
Dywedodd Rob Hughes, Cyfarwyddwr YesCymru:
Gyda chefnogaeth unfrydol gan bob un o awdurdodau lleol Cymru – yn ogystal â chefnogaeth y Senedd – mae’r neges gan Gymru yn glir a phendant. Rydym yn galw unwaith eto ar Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol i wneud y peth iawn a throsglwyddo rheolaeth Ystad y Goron i Gymru.
Gan dynnu sylw at y galw cynyddol am newid gwleidyddol, ychwanegodd Hughes:
Mae’r polau piniwn diweddar yn dangos bod cefnogaeth i annibyniaeth i Gymru ar ei lefel uchaf erioed, dros 40%. Rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol gymryd barn pobl Cymru a’r mudiad annibyniaeth o ddifrif.
Cyflwynwyd y cynnig yn Nhorfaen gan y Cynghorydd Jayne Watkins, cynrychiolydd Llafur dros Ward Fairwater.
Mae YesCymru wedi talu teyrnged i’r cydweithio trawsbleidiol ac ar lawr gwlad sydd wedi bod wrth wraidd yr ymgyrch, gan ddod â lleisiau o bob rhan o’r sbectrwm gwleidyddol ynghyd.
Ychwanegodd Rob Hughes:
Pan mae Cymru yn gweithio fel un, mae Cymru’n gweithio’n dda. Mae’r ymgyrch hon yn profi bod newid cadarnhaol a radical yn bosibl pan fydd pobl o bob cefndir yn uno er budd pawb. Ein dyfodol ni yw dyfodol Cymru, a gyda’n gilydd, nid oes pen draw i’n potensial.
YesCymru yn ymgyrchu ar Moel Famau, Hydref 2024
YesCymru yn ymgyrchu yn Abertawe, Ebrill 2024
YesCymru yn ymgyrchu ar y Fenai, Awst 2024