DARLITH DYDD GWYL DEWI SANT CYNTAF YESCYMRU YN DATHLU TRICHAN MLWYDDIANT GENI UN O ATHRONWYR GWLEIDYDDOL MWYAF CYMRU, DR RICHARD PRICE.
Ar ddydd Sadwrn, 4ydd Mawrth, bydd YesCymru yn cynnal darlith goffa i anrhydeddu yr arwr lleol a chenedlaethol, mathemategydd a chwyldroadwr gwleidyddol, Dr Richard Price.
Traddodir y ddarlith gan Dr Huw L Williams, Darllenydd mewn Athroniaeth Wleidyddol ym Mhrifysgol Caerdydd a bydd yn cael ei chynnal yn Academi STEAM Coleg Pen-y-bont ar Ogwr, Campws Pencoed, CF35 5LG ac yn dechrau am 6pm.
Ganed Richard Price yn 1723 yn Fferm Tynton, Llangeinor, Pen-y-bont ar Ogwr a symudodd i Lundain yn 18 oed. Serch iddo dderbyn galwad I’r weinidogaeth, roedd ei waith blaengar ym myd cyllid a mathemateg yn gyfrifol am chwyldroi y diwydiant insiwrans. Daeth yn un o feddylwyr gwleidyddol amlycaf y cyfnod yn esgor ar syniadau radical am gymdeithas a democratiaeth, syniadau oedd yn ddylanwad allweddol ar aweinwyr y Chwyldroadau yn America a Ffrainc.
Dywedodd Christine Murphy, Cyfarwyddwr Yes Cymru ac un o drefnwyr y ddarlith:
“Roedd Dr Richard Price, fel YesCymru, yn credu yn hawl pobol i lywodraethu eu hunain. Siaradodd Price yn erbyn y goron, caethwasiaeth a chenedlaetholdeb cibddall; hyrwyddodd cydraddoldeb, egwyddorion democrataidd a chenedlaetholdeb dinesig. Mae’n hen bryd inni atgyfodi ei gof a’i ysbryd a chydnabod un o feddylwyr mwyaf Cymru.”
Cefnogir y digwyddiad gan Gymdeithas Hanes Cwm Garw, a bydd ei Harddangosfa ar Dr Richard Price I’w weld ar y noson.
Bydd y noson yn cychwyn yng nghwmni’r ffidlwr lleol Marc Weinzweig a fydd yn chwarae detholiad o alawon traddodiadol Cymreig.
Mynediad £5/£3 – tocyn am ddim i ofalwyr.