Symud ymlaen o'r llywio

Diolch Gaynor

Pob peth da yn dod i ben medden nhw, ac felly yw hanes Gaynor Jones fel Cyfarwyddwr YesCymru.

Mae Gaynor wedi bod yn gonglfaen i’r mudiad ers tro byd. Yn ddiweddar, penderfynodd Gaynor ymddeol o fod yn gyfarwyddwr, er y bydd hi’n parhau i weithio gydag a chynghori Cyfarwyddwyr YesCymru, gan gynwys cyfrannu at waith RadioYesCymru.

Rhestr hir iawn oedd y rhai fu am dalu teyrnged i Gaynor am ei chyfraniad anhygoel dros y blynyddoedd diwethaf. Yn eu plith yw Cadeirydd YesCymru, Phyl Griffiths. “Mae Gaynor wedi bod yn ysbrydoliaeth ac yn ysgogiad i ni i gyd trwy’r cyfnodau da ond, yn bwysicach, mae hi wedi gwneud  hyn trwy gyfnodau anodd yn natblygiad YesCymru, ac mae ei ‘ hymrwymiad i’r achos wedi sicrhau i long ein mudiad lywio cwrs i ddyfroedd llonydd unwaith eto. Ond paid neb feddwl bod Gaynor wedi ymddeol o ymgyrchu a gweithredu dros annibyniaeth - yn ogystal â pharhau i gynhyrchu podlediad eiconig Radio YesCymru, bydd Gaynor yr un mor weithgar yn ei chymuned a’i rhanbarth. Dwi yn bersonol wedi elwa yn fawr o gyngor a chymorth Gaynor a dw i’n diolch iddi o waelog fy nghalon nid yn unig am fod yn gyfarwyddwraig a chenedlaetholwraig a hanner ond hefyd am fod yn ffrind.”. Ychwanegodd cyn-cadeirydd Elfed Williams: “Mae Gaynor wedi gweithio yn ddi-flino yn y cefndir, yn ein gwthio pan fu angen ond yn wastad yn barod i weithio’n galed ei hun, dw i'n gwybod y bydd YesCymru yn cydnabod ei chyfraniad.”

Y nesaf i dalu teyrnged oedd Is-Gadeirydd YesCymru, Naomi Hughes, a ddywedodd “Bydd colled enfawr ar ôl i Gaynor adael. Hoffwn gymryd y cyfle i ddiolch iddi am ei gwaith, cymorth a chyfeillgarwch. Mae YesCymru wedi colli Cyfarwyddwr, dw i wedi colli cyfaill ar y Bwrdd, ond yn fwy na hynny dyn ni wedi colli menyw sy wedi bod yn fodel rôl i bob merch yng Nghymru dros ei hamser ar y NGB.” Barry Parkin, Cyfarwyddwr dros aelodau tu-allan i Gymru wedi dweud yn syml: “Dych chi wedi bod yn seren Gaynor, a dych chi’n haeddu hoi. Mwynha!”

Ond mae diolchiadau i Gaynor am ei gwaith wedi dod mewn o’r mudiad cyfan gan gynnwys cyfraniadau gan Teresa Parry, Cadeirydd y Cyngor Dirprwyon, Jac Jolly o YesBangor, Martin Palmer o YesPen-y-Bont a Bleddyn Williams o YesBethesda. 

Yn glir, mae cyfraniad Gaynor Jones i YesCymru wedi bod yn un hynod ac mae bodlonrwydd ei Chyd-Cyfarwyddwyr ac aelodau i lleisio’u diolchiadau yn adrodd cyfrolau am y parch y mae hi’n ei derbyn gan bawb sy wedi bod yn ddigon ffodus i ddod i’w nabod.

Diolch yn fawr, Gaynor.

Parhau i Ddarllen

Darllen Mwy

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Gwiriwch eich e-bost am ddolen i actifadu eich cyfrif.