Symud ymlaen o'r llywio

Dyffryn Teifi yn Erbyn Peilonau

Ydych chi wedi teithio drwy Ddyffrynoedd Tywi a Teifi dros y flwyddyn ddiwethaf? Os ydych chi, rhaid eich bod wedi sylwi ar arwyddion 'Dim Peilonau' ar gatiau, tai ac ar hyd ein prif ffyrdd. Efallai eich bod wedi meddwl, beth ar y Ddaear sydd yn mynd ymlaen ac wedi gwglo “Dim Peilonau” i geisio canfod yr ateb?

Dechreuodd y cyfan yn 2016 pan ddiwygiwyd Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 i gynnwys Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (DNS) (Cymru). Canlyniad hyn yw mai y Senedd, yn hytrach nag adrannau cynllunio’r awdurdodau lleol, sy’n gyfrifol am wneud a rhoi caniatad i brosiectau ynni adnewyddadwy enfawr (dros 50MW). 

I roi'r rhif hwn yn ei gyd-destun, mae Fferm Wynt Gorllewin Coedwig Brechfa, sydd â 28 tyrbein 145m o uchder, yn cynhyrchu 57.4MW o drydan. Ac heddiw mae 97 o brosiectau wedi'u rhestru ar gofrestr y DNS gan wahanol gwmnïau cyfyngedig preifat. Mae rhai ohonynt wedi'u cwblhau, eraill yn cael eu hymchwilio, a sawl un yn y broses o cael eu hadeiladu.

Ar hyn o bryd mae’r DNS yn cael ei ddisodli gan Fesur Seilwaith (Cymru), bydd yn cyflwyno 'siop un stop' yn y Senedd. Bwriad y mesur yw symleiddio y broses caniatad cynllunio drwy ymgorffori'r holl gydsyniadau angenrheidiol. Byddai hyn yn golygu hwyluso ceisiadau ar gyfer prosiectau ffermydd gwynt a solar ar y tir a’r holl seilwaith cysylltiedig, megis peilonau trosglwyddo a’r is-orsafoedd trydan newydd.

Felly dyna’r cefndir, ond pam faswn ni'n gwrthwynebu’r peilonau? Siawns nad yw hyn yn rhan o ymrwymiad y DU i fynd i'r afael â newid hinsawdd trwy 'drosglwyddo o danwydd ffosil', fel addawyd gan COP 28, Cynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig yn 2023? Ac mae dros 27% o’r trydan a gynhyrchir yng Nghymru yn dod o ffynhonellau adnewyddol.

Er ein bod o blaid manteision ynni adnewyddadwy, mae'r prosiectau seilwaith sylweddol hyn yn cael eu hariannu a'u datblygu gan gwmnïau cyfyngedig preifat. Eu nôd, fel y mwyafrif o fusnesau, yw creu’r elw mwyaf i'w cyfranddalwyr. A dyma’r broblem, gan bod mwyafrif o fuddsoddwyr y cwmnïau yn byw tu hwnt i Gymru - yn Lloegr, Norwy, Denmarc a'r Unol Daleithiau, a dyna lle bydd yr elw o'r datblygiadau Cymreig I gyd yn mynd. 

Tan I’r Llywodraeth newid yn Sansteffan yn sgil yr Etholiad Cyffredinol bu gwaharddiad ar ddatblygiadau ffermydd gwynt newydd mewndirol yn Lloegr ers 2016. Golyga hyn bod Cymru a'r Alban yn ysgwyddo’r baich am ddatblygiadau adnewyddadwy mawr, newydd. Ond mewn gwirionedd, nid yw'r rhan fwyaf o'r ynni adnewyddadwy a gynhyrchir yng Nghymru yn cael ei ddefnyddio yng Nghymru. Ceiff ei drosglwyddo i, a’i werthu yn Lloegr a thu hwnt. 

Ystyrir peilonau yn hen dechnoleg gan lawer o wledydd bellach, ac maent yn claddu llinellau foltedd uchel o dan ddaear, fel y gwneir gyda’r rhwydwaith nwy a dŵr. Mae'r dechnoleg i gyflawni hyn wedi datblygu'n sylweddol dros y deng mlynedd diwethaf a dyfeisiwyd peiriant 'aredig ceblau' i hwyluso’r gwaith. Gellir claddu ceblau 400kV ac arbed fandaleiddio tirwedd Cymru gan is-adeiladwaith diwydiannol unwaith eto.

Fodd bynnag, pan gleddir ceblau o dan y ddaear, ystyrir hyn yn 'ddatblygiad a ganiateir' a does dim angen caniatâd cynllunio. Ac oherwydd hynny, ni ystyrir hwy yn ‘ased o werth’ a gellir ei ail-werthu am elw, yn wahanol i beilonau dur. Mae Green Gen wedi datgan bod yn well ganddynt peilonau yn hytrach na chladdu’r ceblau oherwydd 'mae cost aredig cebl yn uwch na’r chost y llinellau trosglwyddo’.

Ar hyn o bryd mae Green Gen Cymru Cyf. yn gofyn am ganiatâd cynllunio DNS ar gyfer dau lwybr peilon trwy:

  • Dyffryn Tywi, o Barc Ynni Nant Mithil, ger Llandrindod i is-orsaf drydan newydd Llandyfaelog, Sir Gaerfyrddin.

  • Dyffryn Teifi, o Barc Ynni Lan Fawr, Llanddewi-Brefi, I is-orsaf Llandyfaelog.

Bydd y peilonau 27m o uchder (sef, hyd y morfil glas) yn achosi llawer o broblemau i’r cymunedau fydd yn cael eu gorfodi i’w cartrefi; gan gynnwys gostyngiad mewn gwerth eiddo, effaith negyddol ar dwristiaeth, colli cynefin bywyd gwyllt, peryglu iechyd rhai sy'n byw gerllaw a dinistr tirweddau unigryw.

Ein safbwynt, fel trigolion lleol, yw bod hyn yn gwbl annerbyniol. Pam dylid haberthu ein cymunedau a’n cynefinoedd ni er mwyn elw cwmni Green Gen? Claddu’r ceblau yw'r unig ateb derbyniol os yw'r datblygiadau hyn am fynd yn eu blaen.

Ychydig fisoedd yn ôl rhoddodd Adam Price gynnig ger bron y Senedd yn galw am orfodi bod pob llinell grid newydd yn cael ei gladdu o dan ddaear. Fe wnaeth Plaid Cymru, y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol, gefnogi'r cynnig, tra bod meinciau cefn a gweinidogion Llafur wedi pleidleisio yn ei erbyn. Method y cynnig o un bleidlais, roedd yn siomedig iawn. Fodd bynnag, mae'r Senedd wedi dweud y byddant yn edrych ar eiriad y Ddeddf ac efallai yn cyflwyno eu gwelliant ei hunain. Ymunwch gyda ni i gadw'r pwysau arnynt fel bod gorfodaeth ar gwmniau ynni i gladdu llinellau grid newydd dros 33kV.

Mae ymgyrchoedd ar waith hefyd mewn sawl bro yng Nghymru yn erbyn gosod tyrbinau gwynt 230m o uchder, (yr un uchder ag adeilad talaf Canary Wharf) y neu talgylch. Mae’n fwriad gan gwmniau ynni godi anghenfilod o’r maint hyn ym mharc Ynni Nant Mithil, a Pharc Ynni Lan Fawr. Yn wir mae cynlluniau ar waith ar draws Gymru gyfan i godi cannoedd o dyrbinau i gynhrychu trydan i’r Grid Cenedlaethol.

Yn ogystal a gorfodi aredig ceblau, dylid hefyd archwilio a chynorthwyo prosiectau cymunedol llai eu maint, megis ffermydd solar, sustemau hydro, ffermydd gwynt môrol, a thechnoleg llanw. Byddai cynlluniau o’r math yn llawer llai dinistriol i’n tirwedd a’n hamgylchedd na’r llwybr presennol a ddilynir gan Bil DNS a Seilwaith (Cymru). Mae angen i’r Senedd weithredu ar frys i archwilio yr opsiynau amgen ymarferol sydd ar gael.

Nid ymgyrchoedd ‘gwrth-wyrdd' yw'n hymgyrchoedd, ond ymateb i'r perygl y caiff cymoedd a mynyddoedd hardd Cymru eu troi'n dirwedd diwydiannol i ddiwallu anghenion ynni gwledydd eraill a thrachwant datblygwyr. Digon yw digon!

Sarah Eyles a Craig Vaux

Ar ran ymgyrch Dyffryn Teifi yn Erbyn Peilonau

Parhau i Ddarllen

Darllen Mwy

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Gwiriwch eich e-bost am ddolen i actifadu eich cyfrif.