Rhif.1 DIWYGIO ETHOLIADOL
Cyhoeddwyd gyntaf yn y Pembrokeshire Herald gan Maria Pritchard 27 Mai 2022
YesCymru Milford Haven
Y mis hwn, cyhoeddodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, a’r Prif Weinidog, Mark Drakeford gynlluniau ar gyfer diwygiadau etholiadol sylweddol i etholiadau Cymru, fel rhan o Gytundeb Cydweithredu Plaid Cymru-Llafur.
Byddai’r newidiadau arfaethedig yn cynnwys paru’r 32 etholaeth yng Nghymru fydd yn debygol o godi o ganlyniad i Gomisiwn Ffiniau 2023, etholaethau aml-sedd chwe chynrychiolwyr etholedig, cwotâu rhyw a chyflwyno cynrychiolaeth gyfrannol. Mae’n debygol y bydd y newidiadau hyn ar waith erbyn etholiadau’r Senedd yn 2026.
Yn ôl y disgwyl, cafodd y cyhoeddiad siom gan y Ceidwadwyr Cymreig, gan nodi cost gweithredu’r newidiadau hyn ar £75 miliwn dros bum mlynedd, fel ffactor, yn ogystal â chynnydd 36 o gynrychiolwyr y Senedd, fodd bynnag o graffu’n agosach, a oes modd cyfiawnhau’r feirniadaeth?
System etholiadol yw cynrychiolaeth gyfrannol sy’n dyrannu seddi i bleidiau yn seiliedig ar gyfran y pleidleisiau a enillwyd, yn hytrach nag ar gyfanswm yr etholaethau a enillwyd, ac mae cipolwg cyflym yn dangos bod cynrychiolaeth gyfrannol yn cael ei defnyddio ar draws rhan helaeth o Ewrop, Canolbarth a De America, Dwyrain Asia, ac Affrica. Yn wir, defnyddir cynrychiolaeth gyfrannol gan rai o ddemocratiaethau mawr y byd megis yr Almaen a Seland Newydd, a defnyddiwyd PSD (pleidlais sengl drosglwyddadwy) am y tro cyntaf yn ystod etholiadau Gogledd Iwerddon y mis hwn.
Ar ben hynny, er nad yw Cynrichiolaeth Cyfrannol (yn debyg iawn i systemau etholiadol eraill) yn berffaith, nid yw diffygion y system ‘first-past-the-post’ presennol wedi mynd heb i neb sylwi.
Mae hyn oherwydd bod y system hon yn annog llawer o bobl i bleidleisio yn erbyn pleidiau, yn hytrach nag iddyn nhw.
Er enghraifft, cymerwch faes brwydr nodweddiadol Llafur-Geidwadol. Yn hytrach na phleidleisio dros y blaid o ddewis, bydd llawer o bobl yn troi at bleidleisio dros y blaid sydd fwyaf tebygol o gadw’r blaid fawr arall allan. Mae hyn yn golygu bod y system bresennol yn ffafrio pleidiau mawr.
O dan gynrychiolaeth gyfrannol, gall unigolyn fod yn fwy tueddol o bleidleisio dros eu pleidiau a’u hymgeiswyr ffafriol, gan wybod bod sawl sedd - yn hytrach nag un sedd yn unig – ar gael.
Mae ‘first past the post’ (FPTP) hefyd yn arwain at ganlyniadau anghymesur. Er enghraifft, yn ystod etholiadau Senedd y DU yn 2005, enillodd y blaid Lafur dros 56% o’r seddi, ond dim ond 36% o’r bleidlais boblogaidd. Yn wir, gellir dadlau nad yw system o’r fath yn wirioneddol “ddemocrataidd”.
Cyfeiriwyd at gost fel gwrthwynebiad i’r newidiadau hyn, ac heb os nac oni bai, mae angen mwy o feddygon, nyrsys ac athrawon, yn ogystal â mesurau i fynd i’r afael â chostau argyfwng byw, fodd bynnag gadewch i ni archwilio’r costau sy’n gysylltiedig ag adfer Palas San Steffan a allai ddringo i £14bn, neu HS2 a allai godi i swm syfrdanol o £72 - £98bn, gall cyfanswm cost o £75 miliwn i ddiwygio system etholiadol, a argymhellir gan arbenigwyr cyfansoddiadol, ymddangos yn fwy cost-effeithiol o’i gymharu.
Hefyd, wrth fynd i’r afael â’r honiadau y gallai 96 o gynrychiolwyr etholedig Cymru fod yn ormodol, nid yw hyn yn sefyll i graffu chwaith.
Cymerwch Gynulliad Gogledd Iwerddon sydd â 90 o gynrychiolwyr etholedig i wasanaethu poblogaeth o 1.9 miliwn, senedd yr Alban sydd â 129 sedd sy’n cynrychioli poblogaeth o 5.45 miliwn a gall y nifer presennol o 60 sedd yn Senedd Cymru ymddangos yn annigonol.
I gloi, er efallai na fydd cynrichiolaeth gyfrannol yn berffaith, mae gan ddiwygiad etholiadol y potensial i wella cynrychiolaeth a thrawsnewid democratiaeth yng Nghymru er gwell.