Symud ymlaen o'r llywio

Elfed Williams

Ymgeisydd Gogledd Cymru

Corff Llywodraethol Cenedlaethol Yes Cymru
Rwy’n rhoi fy enw ymlaen i fod yn Gyfarwyddwr Yes Cymru oherwydd credaf y bydd fy nghefndir a’m profiad yn cynorthwyo’r mudiad i gymryd y camau nesaf i adeiladu strwythur cadarn cryf a fydd yn ein helpu i gyrraedd ein nod o Annibyniaeth i Gymru.

Rwyf ar hyn o bryd yn Gyfarwyddwr Gwasanaethau sefydliad sydd wedi tyfu dros y blynyddoedd diwethaf o 6 aelod o staff i 20 ac sydd ag incwm o dros £1/2 miliwn o bunnoedd. Gyda fy mhrofiad o ddatblygu polisi, rheolaeth ariannol, strwythurau staff, mecanweithiau cyfathrebu, credaf y bydd hyn o fudd i Gorff Llywodraethol Cenedlaethol newydd YES Cymru.
Y sgiliau y gallaf eu cyfrannu i Gorff Llywodraethol Cenedlaethol YES Cymru

Fel Cyfarwyddwr Gwasanaethau hefo elusen Gwasanaeth Eiriolaeth Iechyd Meddwl Conwy a Sir Ddinbych rwyf hefo profiad helaeth o weithio gyda sefydliadau cyhoeddus a thrydydd sector. Dwi’n person hynod drefnus ac effeithlon â hanes profedig o ddarparu arweinyddiaeth strategol, dyrannu adnoddau wrth ddarparu gwasanaethau, gweithredu llywodraethu da, a’r gallu i arwain sefydliad trwy gyfnod trosiannol, y gallu i ysbrydoli tîm i gyflawni gweledigaeth ei sefydliad, ac agwedd drylwyr a manwl gywir tuag at brosiectau sydd wedi esgor ar ganlyniadau rhagorol.

Fel y Cyfarwyddwr Gwasanaethau GEIMCaSDd rwyf yn gyfrifol am:
• Sicrhau recriwtio a chadw'r niferoedd a'r mathau gofynnol o staff sydd wedi'u cymell, eu hyfforddi a'u datblygu'n dda i sicrhau bod y sefydliad yn cyflawni ei genhadaeth a'i amcanion
• Rheoli a sicrhau bod dangosyddion perfformiad allweddol ar gyfer saith contract eiriolaeth ar draws Conwy, Sir Ddinbych a Powys gyda chyfanswm gwerth o £502,000 y flwyddyn yn cael ei gyflawni.
• Paratoi cynllun busnes tair blynedd a monitro cynnydd yn erbyn y cynlluniau hyn i sicrhau bod y Cwmni'n cyflawni ei amcanion mor gost-effeithiol ac effeithlon â phosibl.
• Datblygu a chynnal rhaglenni ymchwil a datblygu i sicrhau bod GEIMCaSDd yn parhau i fod ar flaen y gad o ran gwasanaethau eirioli.
• Rhoi cyngor ac arweiniad strategol i Gadeirydd GEIMCaSDd ac aelodau'r Bwrdd
• Sefydlu a chynnal cysylltiadau ffurfiol ac anffurfiol effeithiol ag adrannau ac asiantaethau statudol perthnasol, awdurdodau lleol, y rhai sy'n gwneud penderfyniadau allweddol a rhanddeiliaid eraill yn gyffredinol
• Paratoi, sicrhau cytundeb y Bwrdd, a monitro gweithrediad y gyllideb flynyddol i sicrhau bod targedau'r gyllideb yn cael eu cyflawni. Trafod gyda chyrff cyllido, paratoi ceisiadau ariannol, tendro am gontractau, trafod cytundebau lefel gwasanaeth ac ati i'w hystyried gan y Bwrdd.
• Yn ychwanegol at yr uchod fel Cyfarwyddwr Gwasanaethau rwyf yn gweithredu fel Ysgrifennydd Cwmni a sicrhau bod holl ofynion GEIMCaSDd fel cwmni elusennol cyfyngedig trwy warant yn cael eu cyflawni

Cysylltedd Gwleidyddol: Aelod Plaid Cymru