Bydd cynnig gerbron y Cyfarfod Cyffredinol Arbennig i ymgorffori YesCymru yn Gwmni Cyfyngedig trwy Warant. Er mwyn ymgorffori'n Gwmni Cyfyngedig trwy Warant bydd angen creu Erthyglau Cymdeithasiad (Articles of Association).
Mae Erthyglau Cymdeithasiad arfaethedig YesCymru Cyf i'w gweld yma.
Beth yw’r Erthyglau Cymdeithasiad?
Mae Erthyglau Cymdeithasiad yn ddogfen sy'n nodi strwythur rheoli a gweinyddol sylfaenol y cwmni. Maent yn rheoleiddio materion mewnol y cwmni ac yn cynnwys, er enghraifft, y strwythurau llywodraethu, y strwythurau ariannol, strwythur bwrdd y cyfarwyddwyr a'r strwythurau a gweithdrefnau sydd eu hangen i fodloni cyfraith cwmnïau a Thŷ'r Cwmnïau. Dyma'r sylfaen gyfreithiol y bydd y mudiad wedi ei adeiladu arno.
Yr Erthyglau Cymdeithasiad yw rheoliadau sylfaenol y mudiad ac mae'n annhebygol y bydd angen eu newid yn aml. Mae angen mwyafrif o 75% o bleidleisiau mewn cyfarfod cyffredinol er mwyn eu diwygio. Efallai y bydd angen cyngor cyfreithiol hefyd i sicrhau bod unrhyw eiriad newydd yn yr Erthyglau yn dal i gydymffurfio â chyfraith cwmnïau.
Gall materion a sefyllfaoedd gweithredol bob dydd newid yn aml ac yn gyflym felly mae'r rhan fwyaf o reolau, polisïau a chanllawiau dydd i ddydd mewn Is-ddeddfau. (Gweler isod am ragor o wybodaeth am Is-ddeddfau)
Beth yw statws cyfreithiol yr Erthyglau Cymdeithasiad?
Mae Erthyglau Cymdeithasiad yn ddogfen gyfreithiol sy'n cael ei llunio yn unol â chyfraith cwmnïau. Maent yn pennu enw'r cwmni, yn diffinio diben y cwmni ac yn cynnwys rheoliadau ar gyfer gweithrediad y cwmni.
Sut gafodd yr Erthyglau Cymdeithasiad eu drafftio?
Mae Erthyglau Cymdeithasiad yn aml yn cael eu creu ar batrwm safonol. Gan fod YesCymru yn sefydliad llawr gwlad gydag aelodaeth eang fe wnaeth Gweithgor YesCymru lunio Erthyglau Cymdeithasiad gyda chyngor cyfreithiol gan un o brif gwmnïau cyfreithiol annibynnol Cymru.
Derbyniodd y Gweithgor dros 200 o gynigion ar gyfer diwygio YesCymru gan grwpiau ac unigolion. Lluniwyd yr Erthyglau ar sail y cynigion hynny.
Sut fyddai'r Erthyglau Cymdeithasiad arfaethedig yn effeithio ar aelodau cyffredin YesCymru?
Yn ymarferol, nid rhyw lawer. Byddai aelodau yn dal i fod yn rhan o grwpiau ac yn gallu parhau i ymgyrchu'n lleol yn yr un modd ag o’r blaen. Ond byddai cyrff a strwythur llywodraethu newydd mewn lle.