Bydd cynnig gerbron y Cyfarfod Cyffredinol Arbennig i ymgorffori YesCymru yn Gwmni Cyfyngedig trwy Warant
Beth yw Cwmni Cyfyngedig trwy Warant?
Mae Cwmni Cyfyngedig trwy Warant yn hollol wahanol i gwmni masnachol (cyfyngedig drwy gyfranddaliadau gyda chyfranddalwyr a difidendau ac ati). Fel arfer, fe'u sefydlir dan gyfraith cwmnïau i redeg mentrau elusennol, clybiau chwaraeon, cwmnïau cydweithredol a sefydliadau 'nid er elw' a chymunedol. Yn gynyddol, mae nifer o sefydliadau ymgyrchu ar lawr gwlad wedi dewis mabwysiadu'r math hwn o lywodraethu, ac am resymau da iawn.
- Wrth gael eu cyfyngu trwy warant mae gan gwmnïau eu personoliaeth gyfreithiol eu hunain, ar wahân i'r aelodau. Mae hyn yn amddiffyn aelodau rhag 'atebolrwydd cyfyngedig' yn ôl y gyfraith, felly dim ond am swm eu gwarant y mae ganddynt atebolrwydd – £1 fel arfer.
- Maent yn buddsoddi unrhyw elw y maent yn ei gynhyrchu yn ôl yn cwmni – yn hytrach na'i ddosbarthu fel taliadau difidend i gyfranddalwyr.
Er mwyn ymgorffori'n Gwmni Cyfyngedig trwy Warant bydd angen creu Erthyglau Cymdeithasiad (Articles of Association)
Mae mwy o wybodaeth am Erthyglau Cymdeithasiad yma.