Symud ymlaen o'r llywio

Celwydd ac Economi Cymru

Mae llawer wedi cael ei hysgrifenu am economi Cymru. Mae Cymru’n dlawd yw un barn, nid yw Cymru’n dlawd yw’r farn arall. Er gwaethaf tystiolaeth gynyddol sy’n dangos nad yw’r cyntaf yn wir, erys rhai sy’n mynnu bod Cymru’n dlawd, ac y bydd annibyniaeth yn gwneud pethau’n waeth.

Rwyf wedi bod yn genedlaetholwr ar hyd fy oes ac mae’n ymddangos bod y thema “cenedl dlawd” wedi codi’i ben dro ar ôl tro ers y cychwyn. Ddarparwyd darlun bositif o economi presennol Cymru mewn dwy erthygl yn ddiweddar yn Nation Cymru, ond fe’m trawodd: efallai fod hyn yn wir heddiw, ond beth am y gorffennol? A oeddem ni mewn gwirionedd yn genedl dlawd ar hyd holl flynyddoedd fy mywyd?

Wedyn mi gofiais am bamffled a ysgrifennwyd gan y diweddar Athro Phil Williams fel rhan o Gyfres y Cynulliad a gyhoeddwyd gan Y Lolfa i nodi sefydlu’r Cynulliad ym 1999. Wel, dyma ddiddorol!

Fe gyfunwyd ymchwil ar economi Cymru a oedd wedi digwydd ers diwedd yr Ail Ryfel Byd hyd at 1995. Mae’r ymchwil cyntaf gan y diweddar Athro Ted Nevin (nad oedd yn genedlaetholwr) a archwiliodd incwm a gwariant economi Cymru rhwng 1948 a 1956 a chanfyddodd warged (surplus) o £40 miliwn, dros £2biliwn heddiw.

Yn ddiweddarach, adolygodd ac ymestynnodd yr ymchwil ar gyfer y cyfnod 1948 i 1962 ac eto, fe ddaeth o hyd i warged, o £50miliwn. Ysgrifenna Williams “…mae hyn yn cadarnhau fod yn y 15 mlynedd ar ol y rhyfel, …oedd cyfrifon Cymru yn y du”. Beth sydd hyd yn oed yn fwy rhyfeddol yw bod gan bron pob gwlad, gan gynnwys y DU, ar yr amser honno ddiffygion ariannol sylweddol. Nid felly Cymru!

Roedd y gwaith pellach hwn yn arwyddocaol yn yr ystyr ei fod hefyd yn edrych ar yr economi ehangach ac yn rhagweld, heb ymateb polisi priodol, y byddai diweithdra uchel iawn rhwng 1964 a 1970. Yn anffodus, fe brofodd hyn i fod yn gywir; gwrthododd y llywodraeth Lafur ar y pryd y canfyddiadau gan nodi eu bod yn “gynnyrch y tŵr ifori”. Syndod wir!

Yn 1970 ynghyd a Dafydd Wigley, fe aeth Williams ati i gynhyrchu cyfrifon ar gyfer economi Cymru am y cyfnod 1967-68 ac unwaith eto cafwyd gwarged o £36miliwn. Mae’r gwaith yma’n ddiddorol oherwydd roedd o’n seiliedig ar gyfrifon fel y’u cymhwyswyd i wladwriaeth sofran annibynol. Yn ddiddorol, ar yr un pryd, comisiynodd y llywodraeth (drwy’r ‘Cyngor Cymreig’) Brifysgol Bangor i gynnal archwiliad annibynol o gyfrifon Cymru ar gyfer 1968. Adroddwyd fod gwarged o £33miliwn.

Nid oedd hyn wrth gwrs yn cyd-fynd a’r naratif. Gwnaeth George Thomas ddatganiad gwaradwyddus ar y teledu: “…peidiwch a gadael i’r Saeson wybod faint maen nhw’n ei dalu am ein gwasanaeth iechyd…a’n ffyrdd”. Hyn gan Ysgrifennydd gwladol Llafur, plaid yr oedd pobl Cymru wedi rhoi cefnogaeth ddiamheuol iddi.

Ychydig iawn o ymchwil pellach a wnaed tan ddiwedd y 1990au pan, gyda datganoli ar y gorwel a chwestiynau’n cael eu gofyn eto am yr economi, daeth y llywodraeth i weithredu. Ym 1997 (nid yw’r flwyddyn yn gyd-ddigwyddiad) cyhoeddodd y Swyddfa Gymreig, ar y pryd o dan arweiniad William Hague, ymchwil yn dangos bod gan Gymru ddiffyg o £5.7biliwn yn y cyfnod 1994-95. Fodd bynnag, fel y noda Williams, roedd y ddogfen “…so full of omissions, errors and absurdities that it could not be taken seriously” a thrwy ganiatáu cyhoeddi dogfen mor ddiffygiol roedd y gweision sifil dan sylw “…had seriously damaged their professional reputation.”

Yr ymateb oedd ymchwil pellach gan Williams, y tro hwn am y cyfnod 1994-95. Er bod yr ymchwil yn dangos yn glir bod ffigurau'r Swyddfa Gymreig ar gyfer y cyfnod hwn yn eang, roedd Cymru wedi symud i ddiffyg o £2.4biliwn. Fodd bynnag, ceir rhybuddion. Y cyntaf yw bod y DU wedi mynd i’w diffyg mwyaf erioed yn ystod y cyfnod hwn, roedd chwyddiant y 1970au, polisïau economaidd trychinebus Thatcher a dirwasgiad y 90au cynnar wedi arwain at economi’r DU i gael ei ddisgrifio fel ‘dyn sâl Ewrop’ – a chafodd Cymru ei lusgo yn ei sgil. Mae'r ail rybudd yn dangos y cyfyng-gyngor parhaus o ddyrannu a dehongli. Yn yr ymchwil hwn cynhwysodd Williams wariant tybiannol a ddyrannwyd i Gymru nad oedd yn gost uniongyrchol i Gymru ond i’r DU: amddiffyn, llog dyled a chyfraniad at y Ddyled Genedlaethol. Gyda'r rhain wedi'u lleihau neu eu dileu, mae'r diffyg yn symud i’r du, i warged.

Mae'r cyfyng-gyngor hwn yn sail i'r ddadl bresennol ar economi Cymru. Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cyhoeddi cyfrifon incwm a gwariant ar gyfer economi Cymru. Fodd bynnag, i ddatblygu darlun o economi gyfoes Cymru, mae cyfrifon y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn ddiffygiol mewn dwy ffordd bwysig. Mae refeniw yn aneglur, yn anad dim oherwydd y nifer o sefydliadau allanol sy'n gweithredu yng Nghymru sy'n datgan trethiant yng nghyfeiriad cofrestru eu cwmni yn Lloegr. Yn eu cyfrifon, gwariant yw’r mwyaf heriol a chamarweiniol, ychwanegir costau pellach at wariant gwirioneddol i adlewyrchu’r ffaith bod Cymru’n ‘elwa’ o weithgareddau’r DU: amddiffyn, llog dyled, gweithgareddau tramor ac yn y blaen. Mae'r rhain yn unig yn cyfateb i £9biliwn, 12% o CMC neu 30% chwerthinllyd o refeniw treth! Nid oedd y ddau adroddiad a gyhoeddwyd gan Brifysgol Caerdydd ar economi Cymru yn 2016 a 2019 a oedd yn datgan bod gan Gymru ddiffyg o dros £13biliwn, yn cymryd y costau tybiannol hyn i ystyriaeth o gwbl.

Fel gydag unrhyw ymchwil a data sydd wedi’i gyhoeddi, erys y cwestiwn o berthnasedd a dehongliad, yn enwedig wrth drafod economi Cymru. Serch hynny, er bod yr adroddiadau a gyhoeddwyd gan Brifysgol Caerdydd – ac a ddechreuodd y ddadl ddiweddar – yn gywir o ran cyflwyno’r data fel ag y maent, nid oedd unrhyw gwestiynau ystyrlon ynghylch y tybiaethau a oedd yn sail i’r ddata.

Cyfrifaf, ar ol gwneud addasiadau rhesymol i wariant tybiannol a ddyrannwyd, fod cyllideb Cymru mewn gwarged (surplus) o £350miliwn. A dweud y gwir, nid yw hyn yn lawer ac nid oes unrhyw bethau ychwanegol na lwfansau, ond erys y ffaith, fod yma warged.

Y canlyniad hyn i gyd? Mae’r ddata a’r ymchwil perthnasol sydd wedi bod ar gael yn dangos nad yw Cymru’n wlad dlawd ac yn sicr am y rhan fwyaf o’r ugeinfed ganrif a llawer o’r unfed ganrif a’r hugain, rydym wedi talu ein ffordd.

Mae Cymru’n dlawd. Mae Leon Trotsky yn ei grynhoi.

Erys y celwydd a ddywedir unwaith yn gelwydd, ond try’r celwydd a ddywedir fil o weithiau yn wirionedd.

Dr John Ball 


Cyf: Williams, Phil The Welsh Budget (1998). Talybont, Y Lolfa

Ymddangosodd yr erthygl hon yn gyntaf yn Nation Cymru.

Mae Dr John Ball yn gyn-ddarlithydd mewn economeg ym Mhrifysgol Abertawe ac ar hyn o bryd yn gweithio ar lyfr Free to Choose: New Economics for a New Wales

Parhau i Ddarllen

Darllen Mwy

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Gwiriwch eich e-bost am ddolen i actifadu eich cyfrif.