Ymgeisydd y Canolbarth a'r Gorllewin
Rwy’n sefyll etholiad fel Cyfarwyddwr YesCymru am nifer o resymau.
Yn gyntaf oherwydd fy mod wedi dod i gredu’n llwyr mai annibyniaeth yw’r unig ffordd y gall Cymru fel cenedl oroesi. Mae hyn wedi dod yn amlycach fyth ers i lywodraeth Geidwadol bresennol y DU fynd ati i ymosod ar ein sefydliadau democrataidd a’n hawliau yma yng Nghymru. Mae wedi datgymalu datganoli ac wedi tanseilio pwerau ein cynrychiolwyr etholedig yn y Senedd, ac mae ei lygredd a’i gamreolaeth yn rysáit trychinebus nid yn unig i ni ond i boblogaeth ehangach y DU. Mae’n bryd i ni fel cenedl ac i’n gwleidyddion a’n harweinwyr dyfu i fyny, cymryd cyfrifoldeb a dechrau gwneud cynlluniau i adael undeb sy'n camweithredu.
Yn ail, oherwydd credaf mai’r ffordd orau o ennill cefnogaeth ar lawr gwlad yw drwy ymgyrchu amhleidiol, oherwydd nid yw pobl yn arddel yr un berthynas â phleidiau gwleidyddol neu ideoleg ag y buont unwaith. Yr hyn sydd wedi gwneud YesCymru yn llwyddiannus yw ei bod yn niwtraliaeth yn wleidyddol ac yn amhleidiol, gan ei fod yn dangos bod y sefydliad yn croesawu trawstoriad o bobl sy’n hapus i gydweithio i sicrhau Cymru annibynnol. Nid wyf fi fy hun yn gysylltiedig ag unrhyw blaid wleidyddol.
Yn drydydd, i gadw sioe slic ar y ffordd, mae angen Cyfarwyddiaeth weithgar a dyfeisgar ar YesCymru gydag ystod o sgiliau trefnu, archwilio, creadigol, rhwydweithio a chyfathrebu da i gadw’r sioe honno ar y ffordd am y tymor hir. Credaf fod fy ymrwymiadau yn y gorffennol a’m etheg gwaith yn dangos y byddwn yn ased gwerthfawr i dîm o’r fath.
Rwy’n fenyw 59 oed, sy’n gweithio ar hyn o bryd yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin. Symudais yn ôl i ddyffryn Tywi, lle cefais fy magu, pan ddaeth yn amlwg bod pandemig, er mwyn cynnal fy rhieni. O fewn wythnos des i o hyd i le i fyw a swydd isafswm cyflog fell staff domestig mewn ysbyty a pharhau i weithio trwy gydol y pandemig. Yn ddiweddar rwyf wedi dod yn swyddog cyswllt teulu, yn cefnogi cleifion ar wardiau, sy'n llai corfforol gan fy mod yn dioddef o salwch cronig.
Mae hynny mor wahanol i fy ngradd mewn hanes Ewropeaidd a'm diploma ysgrifenyddol, nid wyf yn meddwl bod fy nghymwysterau'n golygu dim nawr. Mae bywyd ynghyd â fy chwilfrydedd naturiol a’m parodrwydd i fod yn agored i brofiadau newydd ac amrywiaeth o bobl wedi rhoi repertoire llawer ehangach o sgiliau a phrofiadau i mi.
Cyn 2020, treuliais y rhan fwyaf o fy ngyrfa waith ym maes cynhyrchu teledu a radio, ar raglenni ffeithiol yn bennaf, yn gweithio’n hunangyflogedig neu ar gontract ac yn fwy diweddar yn gweithio yn y sector cysylltiadau cyhoeddus a digwyddiadau. Fodd bynnag wedi dweud hynny, rydw i wedi gweithio yn San Steffan ac yn y Cynulliad; mewn ysgol ym maes lletygarwch; mewn cartref hen bobl a gyda throseddwyr ifanc yn Dudley; wedi rhedeg siop; wedi dysgu TEFL yng Ngwlad Groeg, tempio yn CAMHS ac mewn canolfan alwadau; yn hyrwyddo rhwydweithiau bwyd cynaliadwy ac wedi llwyddo i grafu byw ar y dôl pan oedd yn rhaid, a oedd yn dipyn o her.
Un o fy nghytundebau cysylltiadau cyhoeddus llawrydd mwyaf llwyddiannus oedd cysyniad llawr gwlad a ddyfeisiwyd i hybu’r Gymraeg. Mewn 15 diwrnod ac ar gyllideb fach, cafodd Diwrnod Shwmae Sumae ei lunio ar fwrdd fy nghegin cyn dal dychymyg ar draws Cymru, trwy waith caled a rhwydweithio. Ers hynny mae wedi tyfu ac yn cael ei ddathlu ledled y wlad a thu hwnt, gan unigolion, ysgolion a cholegau, y sector cyhoeddus a phreifat. Mae'n ysbrydoli pobl i roi cynnig ar eu Cymraeg mewn ffordd hwyliog, ei defnyddio a’i dysgu.
Yn wirfoddol: roeddwn yn gyfarwyddwr Gŵyl y Cenhedloedd Bychain/Small Nations Music Festival Cyf yng Nghilycwm ac yn helpu i drefnu, hyrwyddo a rhaglennu penwythnos tridiau o artistiaid Cymreig a rhyngwladol. Am 3 blynedd bûm yn un o brif drefnwyr ac yn ymddiriedolwr yr ŵyl lenyddiaeth arobryn, Hwyl Llên Llandeilo, yn cydlynu’r rhaglen, lleoliadau, artistiaid a dyletswyddau trefniadol a hyrwyddo cyffredinol. Rwy’n meddwl bod gweithio ym maes cydgysylltu cynyrchiadau teledu yn dysgu llawer ichi am aml-dasgio, gweithio i gyfyngiadau cyllidebau, staffio, cyrraedd terfynau amser, logisteg, amserlennu ac ymateb i’r annisgwyl.
Yr haf diwethaf fe ges i, o'r diwedd, blac wedi’i godi yn Llandeilo i goffau swffragét blaenaf Cymru, a’r ymgyrchydd dros gyflog cyfartal a hawliau hoyw, Rachel Barrett; ymgyrch a gymerodd 3 blynedd. Ers Covid rwyf wedi bod yn brysur gyda YesCymru Bro Dinefwr, yn trefnu cyfarfod, yn trefnu digwyddiadau; hyrwyddo neges YesCymru ar y stryd ac mewn digwyddiadau lleol, gan ddechrau'r sgwrs gyda’r anhyddysg.
Fe wnes i hefyd roi hwb i grŵp Bro Rhydaman, wedi rhyngweithio â grwpiau eraill i annog cydweithrediad a helpu i sefydlu YesCymru Llanbed yn ystod y mis diwethaf. Yn 2021 penderfynais ail-ddechrau recordio Radio Yes Cymru fel podlediad, i lenwi’r gwagle a grëwyd gan Covid. Gyda chymorth Sion Lewis a Sion Jobbins llwyddwyd i gynhyrchu cyfres o sgyrsiau addysgiadol, diddorol ac ysgogol am annibyniaeth a fersiwn amgen o Gymru, na welwch chi ar MSM. Rydyn ni'n gwneud hyn pa fydd amser yn caniatáu. Cymerwch olwg ar Radio YesCymru. Mae'n bodlediad ar Anchor ac os hoffech chi gyfrannu neu gynnig syniad, cysylltwch.
Cysylltedd Gwleidyddol: Dim