Symud ymlaen o'r llywio

George Hudson

Ymgeisydd Canol De Cymru

Rwy’n aelod o Yes Cymru ers mis Hydref 2020.

Astudiais athroniaeth wleidyddol ym Mhrifysgol Caerdydd rhwng 2013 a 2016, a darllenais Radd Meistr mewn Gweinyddu Busnes (ym mhrifysgol Caerdydd hefyd). Mae fy nghefndir gwaith yn cynnwys gweithgynhyrchu bwyd a rheoli warysau.

Ymunais â Yes Cymru oherwydd i mi weld mor enbyd oedd cyflwr democratiaeth yn y DU. Rwyf am drawsnewid Cymru i fod yn ddemocratiaeth annibynnol lewyrchus, sy’n gallu darparu gwell bywyd i’w holl ddinasyddion.

Fel cyfarwyddwr Yes Cymru rwyf am weithio ar ddatblygu corff academaidd o ymchwil yn ymwneud ag annibyniaeth. Mewn meysydd fel pensiynau, modelau economaidd/busnes newydd, gwleidyddiaeth ffiniau, arian cyfred, hawliau dynol, a pholisi iechyd.

Bydd hyn yn ein galluogi i greu platfform i addysgu dinasyddion Cymru am y cyfleoedd y gall annibyniaeth eu cynnig. Rhaid inni weithio i greu cenedl wybodus, cenedl ymgysylltiol; ac yn y pen draw cenedl a fydd yn dal ei chynrychiolwyr i gyfrif. Nid wyf yn disgwyl llai, gan gyfarwyddwr Yes Cymru, neu gan lywydd Cymru Annibynnol.

Dim ond eich cefnogaeth chi all ddod â'r weledigaeth hon i fod, rwyf am i'n haelodau gamu ymlaen yn hyderus a hyddysg. Gyda'n gilydd gallwn wneud hyn. Gyda'n gilydd, gallwn ennill Annibyniaeth yn wybodus.

Diolch yn fawr.

Cysylltedd Gwleidyddol: Dim