Ymgeisydd y Canolbarth a'r Gorllewin
Rwy’n dod o Ystradgynlais ym mhen uchaf Cwm Tawe, ac yma yr ydw i’n byw gyda fy nghymhares a fy merch. Derbyniais fy addysg yn Ysgol Maesydderwen, Coleg Castell Nedd, a Phrifysgolion Aberystwyth, Llambed a Chaerdydd. Graddiais mewn Hanes, ac mae gen i gymwysterau Ôl-radd mewn Archaeoleg ac Addysg.
Rwy’n gweithio fel tiwtor Cymraeg, ac rwyf wedi gweithio fel athro ysgol, Swyddog Addysg gyda Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ac fel Prif Swyddog Menter Iaith Brycheiniog. Ar wahanol adegau rwyf wedi gwneud tipyn o labro, canu a dysgu cerddoriaeth draddodiadol, arwain gweithgareddau awyr agored, a chwedleua hefyd.
Bues i a chyfeillion yn falch o gael canu’r pibau o flaen yr Orymdaith yng Nghaerdydd ym 2019, ac yn wir buom yn pibydda mewn sawl gorymdaith a seremoni. Mae cerddoriaeth yn ffordd dda o dynnu sgwrs gyda phobl, ac rwy’ wedi canu ambell i gân ac alaw ar y strydoedd, mewn caffis a thafarnau ar ran YesCymru. Gobeithio daw cyfle i wneud rhai o’r pethau hyn eto cyn bo hir, wrth i’r Gofid Covid gilio.
Pam rydw i am fod yn aelod o’n Corff Llywodraethol, felly?
Cefais i fy nghodi mewn traddodiad o weithredu dros fy nghymuned, fy nghenedl ac yn wir y byd. Mae gen i dipyn o brofiad o wirfoddoli ac o weithio yn broffesiynol gyda mudiadau gwirfoddol. Roeddwn yn Gynghorydd ar Gyngor Tref Ystradgynlais yn fy ugeiniau, tra ‘mod i’n chwaraewr ac yn aelod o bwyllgor y Clwb Rygbi lleol ar yr un pryd (anarferol, rwy’n gwybod).
Bûm hefyd yn aelod o bwyllgorau a byrddau mudiadau megis Glasu (Corff Cyllido Ewropeaidd Leader+ Powys), PAVO (Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys), Ffocws ar Iechyd Ardal Ystradgynlais, Cymunedau’n Gyntaf, Cymuned, ac eraill.
Rwy’n Ymddiriedolwr ar Neuadd Les Ystradgynlais, yn aelod o bwyllgor CLERA (Mudiad Cerddoriaeth Draddodiadol Cymru), yn Gadeirydd YesCymru Cwm Tawe, ac rydw i newydd orffen fel cynrychiolydd ar Weithgor YesCymru.
Beth ddysgais i o hyn oll?
• Mae’n amhosibl cynnal unrhyw fudiad torfol heb rywfaint o anghytuno rhwng aelodau, mewn rhai ffyrdd ac ar rai pynciau. Rhaid bod yn barod i gyd-weithio ac weithiau i gyfaddawdu felly, ond heb golli golwg ar hanfodion mudiad ac egwyddorion sylfaenol.
• Felly, rhaid cael tir cyffredin. Craidd YesCymru ydy annibyniaeth i Gymru. Dyma ganolbwynt y mudiad. Rhaid, rhaid bod yn barod i gydweithredu gyda phobl o bob asgell wleidyddol sydd yn gallu cytuno ar y nod yma, ac â’n nod o gael Cymru deg a chynhwysol
• Mewn undeb mae nerth. Fel y dywedais yn fy araith i’r CCA y llynedd, edrychwch ar hanes ein cenedl ac mae’n amlwg beth ddaw pan mae’r Cymry yn rhanedig. Rydyn ni’n rhwygo, yn rhannu, ac yn colli. Bob tro.
Dywedaf yn agored ac yn falch fy mod i’n sosialydd, yn genedlaetholwr, ac yn rhyng-genedlaetholwr. Rwyf am i Gymru fod y Gymru orau y gall fod, er mwyn ein pobl ni ein hunain ond hefyd oherwydd dyma’r ffordd i ni wella’r byd. Rwyf am weld Cymru Rydd Sosialaidd. Ond...
Eto i gyd, rhaid i YC fod yn fudiad amhleidiol er mwyn llwyddo. Wedi i ni ennill Cymru annibynnol, gwaith pobl Cymru ydy penderfynu sut genedl y mae i fod. Gwell genedl, rwy’n siŵr!
Gwaith YesCymru yw dangos bod Cymru Rydd yn bosibl – yn fwy na phosibl, yn angenrheidiol.
Sut y gall YesCymru wneud hyn? Yn anad dim, credaf fod yn rhaid i ni, yr aelodau, allu siarad am annibyniaeth yn wybodus, yn hyderus ac yn gadarnhaol.
• Rhaid i ni ddeall yn union sut le ydy Cymru a sut le allai fod. Byddwn am weld YesCymru yn darparu deunydd i ni sydd am bledio achos Cymru annibynnol. Rhaid i ni gael gwybodaeth a ffeithiau dibynadwy – o’r manwl iawn i’r cyffredinol.
• Pan mae ymchwil ar gael eisoes, dylai YC ddod â hynny at ei gilydd a’i hesbonio’n glir ac yn synhwyrol. Os nad oes digon o ymchwil rhaid i ni gomisiynu hynny gan bobl sydd yn deall eu maes yn drylwyr, fel bod modd i ni ddadlau gyda hyder a hygrededd.
• Beth am wledydd eraill? Pa wersi y gallwn ddysgu ganddyn nhw, er da neu ddrwg?
Er enghraifft, rhaid i ni ddeall, a phan yn briodol gynnig rhai opsiynau (nid polisïau) ar ffyrdd ymlaen, parthed:
• ein heconomi nawr;
• sut y gallwn ddatblygu ein heconomi a sut y gall Cymru annibynnol dalu am yr hyn fydd ei hangen;
• ein defnydd o Ynni, a sut y gallwn ddatblygu trefn sydd yn gweithio i’r amgylchedd ac i’n cenedl;
• Dŵr;
• y Farchnad Dai – nid tai haf yn unig, yn fy marn i, ond yr holl drefn;
• y Gwasanaeth Iechyd;
• y Drefn Addysg (gan gynnwys addysg bellach ac uwch);
• ein Hanes a’n Hetifeddiaeth - sut mae ein stori ni fel cenedl yn cael ei hadrodd, gan bwy ac i ba bwrpasau;
• gwaddol corfforol ein Hanes – afiechyd yn ein cymunedau ôl-ddiwydiannol, tipiau gwastraff, diweithdra ond hefyd gwytnwch cymunedol;
... ac ati, ac ati.
Dyliwn hefyd wneud i bobl allu teimlo’n dda am y Gymru annibynnol a ddaw, er enghraifft drwy:
• Greu cynnwys cyfoes, deniadol (a chall) ar y cyfryngau cymdeithasol
• Drefnu digwyddiadau corfforol a rhithiol er mwyn dathlu ein hunaniaeth a’n hachos
• Roi cyfleoedd i’n pobl fwynhau’r daith i annibyniaeth
Peidied neb â chamgymryd – cymerwyd camau rhyfeddol dros y blynyddoedd diweddar. Ers dyddiau ysgol bûm yn destun sbort yn aml wrth bledio achos y Gymru Rydd. Nawr, mae pobl na fyddwn i byth wedi gallu dychmygu yn fodlon ystyried.
Gwpwl o flynyddoedd yn ôl roeddwn i’n eistedd mewn caffi yma yn y pentref. Rhywun yn sôn am annibyniaeth – nid fi! Cyfaill yn edrych arnaf ac yn dweud ‘You’d be all for independence, eh?’ ‘Of course!’. A’r perchennog yn edrych yn feddylgar ac yn cyfaddef ‘...There might be something in that’. Nid yw’n swnio’n beth mawr, efallai, ond i fi mae’n dangos sut y datblygodd Cymru.
Am y tro cyntaf ers canrifoedd, mae annibyniaeth o fewn ein gafael. Rwy’n gofyn i chi am eich cefnogaeth, ac am y cyfle i helpu llywio YC dros y blynyddoedd nesaf.
Gyda’n gilydd, gall YesCymru arwain y ffordd i ryddid.
Cysllted Gwleyddol: Dim