Symud ymlaen o'r llywio

Geraint Thomas

Brodor o Ddyffryn Nantlle yn wreiddiol ydw i, ond yn byw ers dros ddegawd ger y Bala. Mi ‘dwi’n briod â Meleri ac yn dad i dri o blant. Graddiais mewn Cyfathrebu a’r Cyfryngau ganol y 90au, gan weithio yn y cyfryngau am dros ddegawd. Ffotograffydd ydw i o ran galwedigaeth erbyn hyn, ac yn sylfaenydd a pherchennog oriel Panorama yng nghanol tref Caernarfon ers dros 16 mlynedd. Mae fy ngwaith o ddydd i ddydd yn ymwneud â nifer o brosiectau ar hyd a lled Cymru a thu hwnt, ac mae nifer o gwmnïau rhyngwladol ymysg fy nghleientaeth cyson.

Sefydlais i YesBala yn Hydref 2019 yn fuan wedi i mi ymaelodi â’r mudiad. Roedd teimlad fod newid sylfaenol ar droed yng ngwleidyddiaeth Cymru, a bu’r gorymdeithiau AUOB y flwyddyn honno yn ysbrydoliaeth i mi, gan roi’r hyder i mi ddatblygu i fod yn aelod gweithredol o’r mudiad. Er gwaethaf blynyddoedd anodd y pandemic, mi ‘dwi’n hyderus y bydd y grŵp, a’r mudiad yn mynd o nerth i nerth yn 2022, ac y bydd YesCymru yn gonglfaen brwydr Cymru dros Annibyniaeth.

Trwy gael fy newis i gynrychioli YesBala ar Weithgor YesCymru mi ges i gyfle amhrisiadwy i chwarae rhan yn nyfodol y mudiad, ffrwyth llafur sydd yn sicrhau dyfodol y mudiad yn barod am y camau nesaf yn ei dwf a’i ddatblygiad.

Yn ystod proses y Gweithgor cefais i gyfle i weithio’n fanwl ar rannau o’r cyfansoddiad sydd yn canolbwyntio ar gyfathrebu. Fi oedd swyddog cyfathrebu y Gweithgor. Proffesiynoli cyfathrebu ydi conglfaen fy nghais i i gael fy ethol i fod yn aelod o’r Corff Llywodraethu Cenedlaethol newydd. Mi ‘dwi yn argyhoeddedig y gall YesCymru gymeryd camau breision ymlaen dros y blynyddoedd nesaf a datblygu ein cryfderau yn y ffordd yr ydym mi fel mudiad yn cyfathrebu yn fewnol ac yn allanol fydd yn gyrru’r twf hwn. Cryfder mawr y mudiad ydi’r neges glir ei ymgyrch, a bydd uno’r mudiad y tu ôl i’r neges hwn trwy gyfathrebu clir, positif yn sicrhau twf y mudiad a chryfhau ein hymgyrch.

Mae diddordeb gen i hefyd mewn datblygu sut y mae YesCymru yn targedu'r ymgyrch at rannau penodol o’r gymdeithas, neu sectorau o’r economi. Fel Cadeirydd YesBala, grŵp sydd ag amaeth wrth ei wreiddiau, edrychaf i arwain ymgyrchoedd i ledaenu neges YesCymru i sectorau fel hyn. Gall hyn gyd-fynd ac ymgyrchoedd eraill, er enghraifft i ymgysylltu â myfyrwyr, neu leiafrifoedd penodol yn y gymdeithas.

Bellach, mae teimlad fod amser yn prinhau, a bod rhaid i ni fel mudiad a chenedl newid gêr wrth sicrhau na fydd Cymru yn diflannu i ddifancoll pan ddaw’r Deyrnas Unedig i ben. Bydd Annibyniaeth i’r Alban ac uno Iwerddon yn rhoi cyfle i ni fel cenedl sicrhau dyfodol gwell i genedlaethau lawer i ddod, ond rhaid i bob un ohonom ni chwarae rhan wrth sicrhau dyfodol hwn.

Rydw i hefyd yn aelod gweithredol o ‘Gefnogwyr Pêl-droed Cymru dros Annibyniaeth’.

Cysylltedd Gwleidyddol: Aelod o Blaid Cymru