Symud ymlaen o'r llywio

Gohirio Gorymdaith AUOB Wrecsam

Mae Pawb Dan Un Faner Cymru (AUOB Cymru), grŵp llawr gwlad sydd yn ymgyrchu dros annibyniaeth, wedi cyhoeddi bod yr orymdaith yn Wrecsam ar ddydd Sadwrn 18 Ebrill 2020 wedi’i gohirio oherwydd pandemig y coronafeirws.

Er ei bod yn sefyllfa sy'n newid yn gyflym a bod sawl wythnos tan yr orymdaith a gynlluniwyd, mae AUOBCymru wedi dod at benderfyniad er mwyn rhoi cymaint o rybudd â phosibl i bawb oedd yn bwriadu mynychu.

Mae cadw pellter cymdeithasol, a ystyrir yn fesur allweddol i ohirio lledaenu'r feirws a lleihau pwysau ar ein gwasanaeth iechyd a gwasanaethau brys eraill, yn golygu mai'r penderfyniad synhwyrol yw gorhirio'r orymdaith a gynlluniwyd yn Wrecsam.

Dywedodd Llywelyn ap Gwilym ar ran AUOBCymru:

"Wedi i ni ystyried yn hir rydyn ni wedi penderfynu gohirio AUOBWrecsam, oherwydd pandemig y coronafeirws. Rydym yn cydymdeimlo â phawb sydd eisoes wedi gwneud cynlluniau, a gyda'r grŵp sy'n trefnu lleol fu'n gweithio mor galed dros y misoedd diwethaf. Ond mae iechyd a lles ein holl gefnogwyr, rhanddeiliaid eraill, ac yn ehangach, y cyhoedd yng Nghymru, yn brif bryder i ni"

"Rydym yn cymryd ein dyletswydd i bobl Cymry o ddifrif: gohirio yw'r ffordd orau i ni gefnogi'r Cymry, ein gwasanaeth iechyd, a'n gwasanaethau brys eraill. Byddwn yn monitro'r sefyllfa'n agos, ac yn ceisio aildrefnu'r orymdaith cyn gynted â phosibl. Dydy Wrecsam ddim yn mynd i unman, na chwaith y galw am annibyniaeth - byddwn i fyny yn y gogledd ddwyrain cyn gynted ag y gallwn!"

Dywedodd prif stiward yr orymdaith ac un o’r trefnwyr lleol, Adam Balchder:

"Mae o’n siom enfawr, roeddem yn disgwyl llawer o bobl i ddod, ond mae angen rhoi iechyd pawb cyn popeth. Mae’r pwyllgor wedi penderfynu gohirio’r orymdaith er lles pawb. Rydym yn edrych ymlaen i groesawu pawb i Wrecsam yn hwyrach yn y flwyddyn."

Mae AUOBCymru yn bwriadu ail-drefnu'r orymdaith a'r rali ar ddyddiad arall.

Os ydych wedi archebu tocyn bws ar gyfer yr orymdaith trwy www.yes.cymru byddwch yn derbyn e-bost dros y penwythnos gyda manylion llawn ynghylch ad-daliadau.

Parhau i Ddarllen

Darllen Mwy

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Gwiriwch eich e-bost am ddolen i actifadu eich cyfrif.