Symud ymlaen o'r llywio

BOMIO EDAFEDD GWRILA – GORYMDAITH ANNIBYNIAETH ABERTAWE’N ARWAIN AT DON O GREADIGRWYDD

Mae aelodau o YesCymru Abertawe wedi bod wrthi fel lladd nadroedd i hysbysebu Gorymdaith Annibyniaeth y ddinas ar 20 Mai. Bu’r aeldau talentog yn creu  GIFs, Graffeg a Bomio Edafedd Gwrila i’w hysbysebu.

Eglurodd Rose Davies, Cadair cangn Abertawe, “Mae Abertawe’n ddinas hynod o greadigol a diwylliedig, ac mae ganddi synnwyr digrifwch a chyfiawnder-cymdeithasol gwych. Roedden ni eisiau i’r orymdaith hon ganolbwyntio ar dlodi ond hefyd i gymysgu’r difrifol gyda’r gwirion, a dweud y gwir, plaen i gyfleu’r neges.”

Bomio Edafedd Gwrila

Tyfodd y Grwp Bomio Edafedd (yarnbombing group) o syniad a gafwyd yn gynharach yn y flwyddyn pan oedd rhai gweuwyr a chrosietwyr yn llunio hetiau a sgarffiau ar gyfer dau fanc bwyd lleol sy’n cael eu cefnogi gan YesCymru Abertawe. Buon nhw’n meddwl beth i’w wneud pan fo’r tywydd yn gwella.  Cytunwyd ar Fomio edafedd, ac aeth aelodau’r grwp, Rhiannon Barrar, Lindsay Thomas, Kat Watkins, Kathryn Murphy ynghyd â’r ymwelydd o Ganada May Stewart, ati i gynhyrchu baneri, gorchuddion blychau post, hetiau bolard a baneri coed.

Maen nhw wedi bod yn eu gosod nhw drwy’r ddinas, gan dynnu lluniau ohonyn nhw ar gyfer cyfryngau cymdeithasol.

“Mae’n ymgyrch gwrila”, chwarddodd Rhiannon, “dydan ni ddim yn eu gadael nhw yno rhag ofn iddyn nhw gael eu dwyn neu eu fandaleiddio. Ein nod yw eu cael ar draws y cyfryngau cymdeithasol ac maen nhw’n boblogaidd iawn.” Maen nhw’n gobeithio’u harddangos dros Stryd y Gwynt ar ddiwrnod yr Orymdaith.

Diolch Abertawe

Mae’r dylunydd graffeg Nigel Cousins ​​wedi dylunio cyfres o GIFs ar gyfer cyfryngau cymdeithasol o’r enw “Diolch Abertawe” sy’n gyfeiriad coeglyd at y diffyg parch a roddir i’r ddinas ac i Gymru gan y llywodraeth yn San Steffan.

“Roeddwn eisiau dangos yn glir sut rydyn ni’n Abertawe yn cael ein hesgeuluso a hyd yn oed yn cael ein twyllo gan Lywodraeth San Steffan”.

Seddi Rhes Flaen a Sgwteri Dan Faneri

Dyluniodd Nigel gefyd logos ar gyfer aelodau ag anableddau a fydd yn arwain yr orymdaith ar sgwteri trydan a chadeiriau olwyn.

Eglura Rose, “Nid mater o arian yn unig yw tlodi, mae hefyd yn ymwneud â diffyg cyfleoedd, diffyg cyfleusterau a hyd yn oed y cyfle i gymryd rhan mewn cymdeithas. Mae ffocws YesCymru Abertawe ar dlodi yn cynnwys ein haelodau anabl.”

Roedd Nigel eisiau gwneud rhywbeth hwyliog a thrawiadol,

“Mae gorymdeithiau blaenorol wedi cael band yn y blaen, felly dyluniais ddau logo i ddenu pobl gyda sgwteri a chadeiriau i ddod i arwain yr orymdaith.”

Dylan, Gwylan Wen YesCymru

Mae gan bawb yn Abertawe eu stori gwylanod eu hunain i'w hadrodd! Dewisiodd yr awdur a’r gwneuthurwr ffilmiau Melvyn Williams yr wylan eiconig i gerdded llwybr yr Orymdaith ar y cyfryngau cymdeithasol, o wythnos i wythnos, gan arwain at 20 Mai.

Meddai Melvyn, “Cefais y syniad o wylan wen yn ymlwybro o amgylch y ddinas mewn cadwyn aur a medal enfawr YesCymru. Mae’n olwg eiconig ac mae’n ymddangos bod pobl wrth eu boddau.”

Ac mae Gwylan Abertawe hefyd wedi bod yn pryfocio pobol leol heb fawr o gyda chwestiynau am ei leoliad.

Y Faner Leol

Mae gan YesCymru Abertawe ei baner ei hun.

“Mae’n fraint i ni gael dyluniad gan yr artist graffiti enwog SOK (Mab Ken) ac rydyn ni’n ei ddefnyddio’n aml” eglura Rose. Nid dim ond ar faneri, a fydd yn chwifio yn y Gorymdaith Annibyniaeth, ond hefyd ar gyfer cyhoeddusrwydd y gangen, fel yr hysbyseb ddigidol hon ar gyfer un o ddigwyddiadau Ymylol YC Abertawe.

“Mae allbwn creadigol ein haelodau mewn cyfnod mor fyr wedi bod yn arbennig,” meddai Rose, “ac rydym yn gobeithio mynd i mewn i’r haf yn Abertawe gyda llawer mwy”.

Parhau i Ddarllen

Darllen Mwy

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Gwiriwch eich e-bost am ddolen i actifadu eich cyfrif.