Braf oedd gweld aelodau YesCymru Caernarfon yn cynnal stondin yng Ngŵyl Fwyd Caernarfon pythfenos yn ôl.
Daeth aelodau o grwpiau eraill fel YesCymru Fflint a YesCymru Bangor draw i roi help llaw a chafwyd llawer o hwyl a sbri gyda thair llwyfan o gerddoriaeth a thros 180 o stondinau bwyd, a Yes Cymru yn ei chanol.
Yn ôl Dr. Nia Hughes Cadeirydd YesCymru Caernarfon:
“Bu’r stondin yn llwyddiant mawr. Dan ni wedi rhoi dros dwy fil o daflenni allan yn ystod y dydd ac wedi cael ambell i sgwrs diddorol. Cawsom aelodau newydd ac roedd cynnyrch YesCymru yn gwerthu fel slecs, yn enwedig yr hetiau bwced a werthwyd yn llwyr. Roedd y stondin yn lliwgar a llawn bwrlwm a bu’r Accordions Dros Annibyniaeth yn ein diddanu dwywaith yn ystod y dydd, gan ymarfer at yr orymdaith yng Nghaerfyrddin ar yr 22ain o Fehefin. Roedd ‘na faneri o amgylch y stondin ac un faner fawr hir dros ‘Raber i’w gweld gan y miloedd ar filoedd a fynychodd yr Ŵyl, gan ei bod yn amlwg ac yn drawiadol.”
Ychwanegodd Aled Jones, Cyfarwyddwr dros Ogledd Cymru:
“Mae’n bwysig iawn i Yes Cymru fynd â neges annibyniaeth allan i’r gymuned. Roedd llwyddiant Yes Caernarfon yn yr Ŵyl Fwyd yn enghraifft da o’r hyn yr allen ni gyflawni wrth wneud hyn. Llongyfarchiadau mawr i’r Ŵyl ei hun a diolchiadau i’n gwirfoddolwyr sy wedi cymryd rhan heddiw.”