Tristwch oedd clywed am farwolaeth y Frenhines Elizabeth II heddiw. Mae ein cydymdeimlad gyda'i theulu ar hyn o bryd.
Nid oes gan YesCymru safbwynt ar fater y frenhiniaeth gan mai dyna benderfyniad pobl Cymru yn y dyfodol.
Rydym yn cydnabod fod y frenhines wedi chwarae rhan sylweddol yn hanes ein pedair cenedl dros y degawdau diwethaf ond ei bod hefyd yn fam, nain ac hen nain ac rydym yn dymuno'n dda i'w theulu yn y cyfnod anodd hwn.