Ymgeisydd ar gyfer y Canolbarth a'r Gorllewin
Apêl YesCymru i mi yw ei fod yn amhleidiol, yn gyfle i ddod â phobl at ei gilydd i gydweithio at un nod: Cymru annibynnol a fydd yn Gymru well. Mae gwerthoedd megis cynhwysedd, atebolrwydd, tryloywder a gwrth-hiliaeth yn holl bwysig i’r dull ydym ni’n gweithredu, ac yn adeiladu’r Gymru honno.
Cefais fy ngeni yng Nghaerdydd, fy magu yn Sir y Fflint, a rydw i bellach yn byw yn Aberystwyth. Astudiais Saesneg yng Ngholeg Emmanuel, Prifysgol Caergrawnt a gwneud ymchwil ar waith Saunders Lewis ym Mhrifysgol Aberystwyth. Rwy’n Archifydd Digidol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cyn ymuno â’r Llyfrgell bûm yn dysgu yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe ac yn gweithio ar www.dafyddapgwilym.net.
Rwy’n aelod gweithgar o YesCymru ers sawl blwyddyn, ac yn Gadeirydd cangen Aberystwyth. Roeddwn yn aelod o Bwyllgor Canolog YesCymru yn 2018-2019 a bu i mi efallai gwrdd gyda nifer ohonoch ar ein stondinau yn y gorymdeithiau ledled Cymru neu yn ein pabell yn Eisteddfod Llanrwst.
Yn y gweithle, mae gen i brofiad helaeth fel Cynrychiolydd Undeb Llafur, a rydwi wedi gweithredu fel Swyddog Negodi mewn trafodaethau cyflog, cynrychioli aelodau mewn achosion personol, a chyfrannais at ymgyrchoedd llwyddiannus i sicrhau Cyflog Byw a chyllid i’r Llyfrgell. Tu allan i’r gwaith bum yn aelod o Banel Grantiau Cymraeg, Cyngor Llyfrau Cymru sy’n gyfrifol am rannu arian cyhoeddus i gefnogi’r sector gyhoeddi ac awduron Cymru. Rydwi hefyd wedi gwasanaethu ar fwrdd neu gyfrannu at weithgareddau sefydliadau neu gymdeithasau megis, Tŷ Tawe, Gwyl Lyfrau’r Morlan, a Chynulliad y Werin. Rydw i wedi ysgrifennu erthyglau i Barn, Taliesin, y Western Mail ac eraill.
Credaf y byddai fy mhrofiad blaenorol o waith YesCymru, a’r profiadau eraill uchod, yn cyfrannu’n dda at y cymysgedd o brofiadau ac arbenigedd sydd eu hangen i lywio’r mudiad ar y cam nesaf hwn. Carwn y cyfle i ddod â’r profiadau hyn i’r Bwrdd, i gyfrannu at lwyddiant YesCymru, ac ennill annibyniaeth i Gymru.
Cysylltedd Gwleidyddol: Dim