Symud ymlaen o'r llywio

Hafan nid Gormes

Yr wythnos hon rydym yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod - diwrnod i gydnabod a dathlu merched a'u cyfraniadau heddiw ac ar draws y canrifoedd. Wrth wneud hynny rydym yn mynd i'r afael â degawdau, canrifoedd o ddiffyg tegwch. Mae cydraddoldeb a hawliau menywod wedi cymryd camau breision, ac mae'r gwaith yn parhau, ond yn y byd Gorllewinol gallwn fod yn hyderus bydd merched ifanc heddiw yn tyfu i fyny mewn byd gyda chydraddoldeb o ran cyfle, gyda pharch a chydnabyddiaeth i'r menywod y byddant ymhen amser.

Mae hyn yn fendigedig a gallwn fod yn obeithiol bod y newid diwylliannol wedi'i wreiddio'n ddwfn, yn graidd ac yn barhaol. 

Yma yng Nghymru dylem gofio yn hanesyddol nad yw ein treftadaeth ddiwylliannol cynhenid yn cyd-fynd â diwylliannau amlycaf y canrifoedd diwethaf. Pan luniodd Hywel Dda gyfreithiau a thraddodiadau llafar Cymru yn yr 11eg Ganrif, cafodd hawliau merched eu hymgorffori yn y deddfau hynny. Mae ein dealltwriaeth ddiwylliannol yma yng Nghymru wedi ei wreiddio'n hanesyddol mewn cred mewn cydraddoldeb. Dylem ymfalchïo yn hyn ac ymddwyn yn ôl ein gwerthoedd cynhenid wrth greu ein Cymru newydd. Cyfundrefn fydd yn addas ar gyfer cyfnod modern o oddefgarwch, amrywiaeth a chydraddoldeb. Ni ddylem fodloni ar adlewyrchu gwerthoedd eraill chwaeth, dylem arwain y newid drwy dynnu ar gryfder ein hanes.

Yn anffodus, tan ein bod wedi sicrhau ein annibyniaeth, ni fyddwn yn medru mynegi’r dreftadaeth ddiwylliannol hon yn y modd byddem yn dymuno fel cenedl. Mae'n anodd gwirdroi ein hanes a'n treftadaeth i fewn i hunaniaeth genedlaethol newydd pan nad oes gennym yr ysgogiadau a'r awdurdod i wneud hynny. Nid ydym yn rhydd i wneud hynny.

Gwelwn esiampl plaen iawn o hyn ar hyn o bryd yn y polisi a'r gyfraith 'Atal y Cychod' atgas ac annynol a gynigir gan lywodraeth bresennol San Steffan, tra bo'r Senedd wedi dynodi Cymru yn wlad lle cynhigir lloches. Posib bydd cynnig San Steffan yn torri cyfraith ryngwladol - mae'n debyg bod llywodraeth y DU yn hapus i fygwth cyfraith gwlad â chyfraith ryngwladol yn ei hymgais i ladd ar a diarddel ffoaduriaid ac ymgeiswyr lloches. Fel rhan o'r Undeb, mae Cymru'n anwirfoddol bleth i’r bwriad - rhywbeth y mae data'n awgrymu’n glir sydd yn erbyn tuedd naturiol y mwyafrif helaeth o Gymry. Heb os nac onibai, mae'n gwbl groes i'r safbwynt a gymerwyd gan ein cynrychiolwyr etholedig democrataidd.

Dyma weld delwedd gadarn yn dod i'r amlwg o Gymru yn edrych i fynegi gwerthoedd ei hun, yn ddemocrataidd ac yn gymdeithasol, ond yn cael ei rwystro gan aelodaeth o Undeb lle nad yw'r chwaraewr amlycaf yn adlewyrchu'r un gwerthoedd. 

Cymaint yw goruchafiaeth Lloegr o fewn yr Undeb na fydd hyn byth yn newid. Bydd San Steffan bob amser yn sathru ar Gymru ac ar yr Alban pan fyddwn yn ymwahanu o'u llwybr dewisol. Naill ai drwy ein hanwybyddu neu ein gorfodi i newid penderfyniadau gan fod yn llawdrwm arnom. Gormes yw hyn.

Ystyrir hyn yn gryfder gan San Steffan a gan Unoliaethwyr. Etifeddiaeth o'r angen am undod pwrpas mewn byd gwahanol, cyfnod hanesyddol lle’n bod, fel teyrnas unedig, yn arwain y byd drwy'r chwyldro diwydiannol, ac yna, wrth sefyll yn unfrydol yn erbyn ideolegau gwenwynig yr 20fed ganrif, ffasgiaeth a chomiwnyddiaeth Sofietaidd.

Mae hyn i gyd yn y gorffennol. Ni fydd yn dychwelyd. Mae'r chwyldro diwydiannol ar ben a dyma ganrif y chwyldro digidol. Mae'r broses honno ei hun wedi newid deinamig perthnasau rhyngwladol, yn wleidyddol ac yn economaidd.

Mae angen i Gymru dorri’n rhydd a chreu ei llwybr ei hun a dim ond Annibyniaeth fydd yn ein galluogi i wneud hynny. 

Mewn gwirionedd mae’r gwahaniaeth yn y modd rydym yn gweld y Byd yn blaen i bawb yn yr enwau sydd gennym, y naill yn enw arnom gan newydd ddyfodiaid Prydain a’r llall yn enw arnom ni’n hunain fel y Prydeinwyr gwreiddiol. Wales - tir y tramorwyr. Cymru - tir fy nghyd-ddinasyddion. 

Dylem oll fod yn falch o alw pawb sy'n byw yng Nghymru, beth bynnag eu cefndir, eu tarddiad a'u cred presennol, yn gyd-ddinasyddion. Gyda'n gilydd gallwn adeiladu Cymru newydd, Cymru newydd, yn magu diwylliant cynhenid o gyfrifoldeb dinesig, o gyfraniad, o gydweithio a chefnogaeth gymunedol. Mae’r pethau bychain yma yn ddwfn yn ein cymeriad yng Nghymru a gellir eu hadfer i flaen y gad yn ein bywydau. Ond gyntaf rhaid i ni adennill ein hyder a'n cred ynom ni ein hunain, yn ein nerth fel unigolion a, gyda'n gilydd, fel cenedl.

Rydyn ni'n gryf, medrwn ffynnu yn Annibynnol, dylen ni  fod yn Annibynnol - gadewch i ni sefyll ynghyd a gwneud i hyn ddigwydd cyn gynted a phosib!


Blog Bendigeidfran

Parhau i Ddarllen

Darllen Mwy

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Gwiriwch eich e-bost am ddolen i actifadu eich cyfrif.