Symud ymlaen o'r llywio

Datganiad YesCymru ar adroddiad interim y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru

Mae YesCymru yn croesawu canfyddiadau'r adroddiad interim gan y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru. 

Wrth gyfaddef bod y status quo yn bosibilrwydd sy'n lleihau rydym yn croesawu'r gydnabyddiaeth fod annibyniaeth bellach yn wir ddewis fel ffordd o sicrhau dyfodol Cymru, ei chymunedau a'i ddinasyddion.

Rydym hefyd yn croesawu canfyddiad y comisiwn nad yw lleihau pwerau datganoledig y Senedd bellach yn opsiwn sydd werth ei ystyried.

Mewn ymateb i'r adroddiad mae YesCymru yn cytuno gyda'r adroddiad y comisiwn fod cyfyngiadau economaidd, fframweithiau cyfreithiol a strwythurau llywodraethiant yn niweidiol i fuddiannau Cymru a bod eu diwygio yn hanfodol er mwyn sicrhau ei gynnydd.

Mae YesCymru yn croesawu'r ffaith bod 55% o'r holl gyfranogwyr yn y cyfnod ymgynghori wedi datgan cefnogaeth i annibyniaeth i Gymru.

Dywedodd Elfed Williams, Cadeirydd YesCymru- "Mae YesCymru yn cytuno gyda chanfyddiadau'r Comisiwn fod goruchafiaeth Senedd San Steffan yn golygu bod yn rhaid i Lywodraeth y DU gychwyn unrhyw newid i'r trefniadau presennol ond bod Llywodraeth y DU hefyd yn gallu anwybyddu unrhyw alwad am newid pellach a wneir gan bobl Cymru.  Rydym wastad wedi sicrhau nad partneriaeth cenhedloedd yw hyn ond arglwyddiaeth o reolaeth gan San Steffan."

Dywedodd Gwern Gwynfil, Prif Weithredwr YesCymru- "Mae Cymru annibynnol nawr ar flaen y gad fel yr unig opsiwn go iawn i ddiogelu ein dinasyddion rhag cael ei llethu gan lywodraethiant San Steffan. Rhaid sicrhau'r dyfodol mwyaf disglair posibl i unrhyw un sy'n dymuno galw Cymru yn gartref iddynt a mae’n glir mai Annibyniaeth yw’r opsiwn orau i wneud hyn."

"Mae'r adroddiad yn gam enfawr ymlaen yn ein nod o sicrhau'r diwygiad cyfansoddiadol sydd ei angen i wireddu y weledigaeth o annibyniaeth i Gymru, rydym yn ei groesawu"

Parhau i Ddarllen

Darllen Mwy

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Gwiriwch eich e-bost am ddolen i actifadu eich cyfrif.