Symud ymlaen o'r llywio

Cwestiynau Cyffredin am Is-ddeddfau

Beth yw Is-ddeddfau?

Bydd ail ran y cyfansoddiad newydd ar ffurf cyfres gyflawn o is-ddeddfau. Dyma 'lyfr rheolau' ar gyfer cynnal cwmni yn ddidrafferth o ddydd i ddydd. Petai'r Erthyglau yn sgerbwd i'n cyfansoddiad, yr Is-ddeddfau yw'r cig ar yr esgyrn hynny.
Maen nhw ar ffurf gwahanol i'r Erthyglau - yn llai 'cyfreithlon' yn eu naws, ac yn ymwneud ag amrywiaeth o feysydd. Mae rhai yn 'Rheolau' tra bod eraill yn bolisïau, codau ymarfer, cylch gorchwyl a chanllawiau. Gall is-ddeddfau gynnwys amrywiaeth o ddogfennau yn ymwneud ag unrhyw beth o Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, Diogelu, Gweithdrefnau Disgyblu; Canllawiau Cyfryngau Cymdeithasol; Cod Ymddygiad y Cyfarwyddwyr, Polisi Iaith, Democratiaeth Ddigidol a llawer mwy.

Beth yw statws gyfreithiol Is-ddeddfau?

Mae is-ddeddfau yn wahanol i Erthyglau Cymdeithasiad. Mae angen i Erthyglau gydymffurfio'n gyfreithiol â chyfraith cwmnïau, tra bod is-ddeddfau'n cael eu hystyried yn rheolau mewnol ar gyfer cynnal gwaith cwmni o ddydd i ddydd ac yn ymwneud â phethau fel materion polisi.

Sut y cafodd yr Is-ddeddfau arfaethedig eu llunio?

Yn wahanol i Erthyglau Cymdeithasiad, nid oes angen i Is-ddeddfau ddilyn strwythur gydnabyddedig yn unol â chyfraith cwmnïau, ac nid oes angen yr un lefel o gydymffurfiaeth gyfreithiol ag Erthyglau.
Mae'r Is-ddeddfau a ddrafftiwyd gan y Gweithgor yn benodol iawn i anghenion YesCymru fel mudiad.

Sut fyddai'r Is-ddeddfau arfaethedig yn effeithio ar aelodau cyffredin YesCymru?

Byddai'r is-ddeddfau'n darparu polisïau, cylch gorchwyl a rheolau manwl sy'n cynnwys canllawiau llywodraethu a rheoleiddio ychwanegol ar sawl agwedd ar weithrediad YesCymru o ddydd i ddydd wedi'u hanelu at osod a chynnal y safonau moesegol uchaf ac arfer gorau o ran llywodraethu, cynnal ac ymgyrchu.

A ellir diwygio Is-ddeddfau yn y dyfodol?

Yn wahanol i Erthyglau Cymdeithasiad, mae angen i Is-ddeddfau, yn ôl eu natur, fod yn fwy hyblyg fel y gall YesCymru ymateb yn gyflym i amgylchiadau a safonau sy'n newid.
Gellir diwygio'r is-ddeddfau arfaethedig gan fwyafrif syml mewn cyfarfod o'r aelodau neu gan y Corff Llywodraethu Cenedlaethol arfaethedig. Ni fydd angen cyngor cyfreithiol arnom i ddiwygio'r is-ddeddfau o reidrwydd, nid oes angen i'r geiriad gydymffurfio'n llym â chyfraith cwmnïau a gellir ddefnyddio modelau o’r safon uchaf o sawl ffynhonnell.