Ymgeisydd y Canolbarth a'r Gorllewin
Fy enw i yw John Rhys Davies ac rwy'n byw ym Mynachlog-ddu gyda fy ngwraig Valmai. Rwy'n saith deg dwy oed ac rydym wedi byw ym Mynachlog-ddu ers dros ddeng mlynedd ar hugain.
Cefais fy ngeni ym Mhort Talbot a mynychais ysgolion lleol yno gan gynnwys Ysgol Gyfun Glanafan. Es i o Glanafan i'r coleg yn Abertawe i astudio bioleg. Ar ôl graddio es i i'r coleg yn Cheltenham i hyfforddi fel athro. Wnes i ddim ymuno â'r proffesiwn addysg ond ymunais â heddlu Swydd Gaerloyw. Roeddwn yn heddwas am saith mlynedd. Dysgodd fy amser yn yr heddlu i mi ddelio â phob math o bobl a hefyd rhoddodd ddealltwriaeth sylfaenol i mi o'r gyfraith a'r system cyfiawnder.
Gadewais yr heddlu i hyfforddi fel peiriannydd teledu yng Nghaerdydd. Gweithiais yng Nghaerdydd am saith mlynedd i gwmni electroneg domestig cenedlaethol, Currys a ddaeth yn Dixons. Cefais fy nghyflogi yn y gweithdy yng Nghaerdydd a dod yn stiward siop ar gyfer yr EEPTU. Yn ystod y cyfnod yma cyfarfûm â fy ngwraig ac fe briodon ni. Ymunais â Phlaid Cymru tra'n byw yng Nghaerdydd.
Cafodd fy ngwraig ei geni a'i magu ym Mhenrhiwllan ger Castell Newydd Emlyn ac yn y nawdegau cynnar symudon ni i Fynachlog-ddu. Trosglwyddais o weithdy Caerdydd i weithio fel peiriannydd gwasanaeth maes yn cwmpasu gorllewin a chanolbarth Cymru ar gyfer cangen gwasanaeth Dixons o'r enw Mastercare.
Ar y pryd Ron Davies oedd yn arwain y Blaid Lafur, roedd yn hyrwyddwr da i’r achos dros ddatganoli ac roeddwn yn gweld hyn fel cam tuag at annibyniaeth. Annibyniaeth i Gymru fu fy mhrif nod mewn gwleidyddiaeth erioed. Ymunais â'r Blaid Lafur a bûm yn weithgar gyda nhw am flynyddoedd lawer. Roeddwn yn Gadeirydd (Llywydd) pwyllgor etholaethol y Blaid Lafur yn y Preseli am ddwy flynedd. Pan ymddiswyddodd Ron Davies arhosais yn y Blaid Lafur nes iddi ddod yn amlwg nad oedd Tony Blair yn mynd i yrru’r agenda ddatganoli yn ei blaen. Bryd hynny roedd yn ymddangos bod Plaid Cymru yn gwneud cynnydd a chan ei bod yn ceisio annibyniaeth ymunais â Phlaid Cymru. Bûm yn weithgar gyda’r Blaid am dros bymtheg mlynedd, rwyf wedi bod yn asiant i ymgeiswyr y Blaid yn etholiadau’r Cynulliad yng Nghaerdydd a’r Senedd yn Llundain. Sefais fel ymgeisydd ar gyfer Cyngor Sir Penfro yn enw Plaid Cymru ar sawl achlysur.
Pan sefydlwyd YesCymru gyda’r prif bwrpas o ymgyrchu dros annibyniaeth i Gymru dyna’n union oeddwn i eisiau. Nid wyf yn ystyried fy mod ar ochr dde neu chwith gwleidyddiaeth ond credaf yn ddiffuant os na ddaw Cymru yn wlad annibynnol yna byddwn yn cael ein hamsugno i endid gwleidyddol lle byddwn yn y pen draw yn colli ein hunaniaeth fel cenedl. Credaf mai’r syniad hwn a ysbrydolodd cymaint o bobl i orymdeithio gyda YesCymru yng Nghaernarfon, Merthyr a Chaerdydd. Mae'r dadleuon dros annibyniaeth yn rhai economaidd ac emosiynol. Wrth i ni fynd o gwmpas ein bywydau bob dydd nid ydym fel arfer yn ystyried y syniad ein bod yn genedl ond mae yna adegau pan ddaw i'r amlwg. Yn ystod digwyddiadau chwaraeon er enghraifft. Es i i Barc yr Arfau i wylio Cymru a Lloegr yn chwarae rygbi gyda fy ffrind o Loegr ddwy flynedd yn ôl. Y diwrnod hwnnw enillodd Cymru ac wrth i ni adael dywedodd fy ffrind mewn llais anarferol difrifol “Rwy’n eiddigeddus ohonoch chi Gymry.” Dywedais “Dim ond gêm yw hi.” ac atebodd “Nid oherwydd canlyniad y gêm. Ond oherwydd eich bod chi Gymry yn gwybod pwy ydych chi.” Rwy'n credu bod yr hyn a ddywedodd yn wir, rydyn ni'n gwybod pwy ydyn ni.
Credaf fod yn rhaid i YesCymru ymgyrchu dros annibyniaeth yn unig ac mae gen i hyder ym mhobl Cymru i redeg eu gwlad fel y gwelant yn dda ar ôl annibyniaeth.Yr hyn sy’n ein huno ni i gyd fel mudiad yw’r awydd i ddod yn ddinasyddion Cymreig annibynnol. Er mwyn cyrraedd y nod mae angen cefnogaeth dros hanner cant y cant o'n cydwladwyr arnom, i bleidleisio dros annibyniaeth. Mae angen inni ddenu cefnogaeth o bob rhan o’r wlad a phobl o bob perswâd gwleidyddol.
Bydd y Bwrdd newydd yn wynebu sawl her. Mae'r naw mis diwethaf wedi dangos bod angen brys i ddatrys rhai problemau sylfaenol. Er enghraifft, rwyf wedi darganfod yn ddiweddar bod gan gofnod yr aelodau yn Nation Builder wallau sy'n effeithio ar fy ngallu fel ysgrifennydd grŵp YesPreseli i gyfathrebu â'n haelodau. Mae'r gwallau hyn yn rhwystro unrhyw ymgais i drefnu'n effeithiol ar gyfer cyfarfodydd neu ddigwyddiadau. Pe bawn i'n ddigon ffodus i gael fy ethol yn gyfarwyddwr, un o'm blaenoriaethau fyddai ailwampio'r rhestrau aelodaeth ar Nation Builder.
Mae angen i'r Bwrdd baratoi dadleuon i wrthbrofi'r rhai sy'n dweud ein bod yn rhy fach neu'n rhy dlawd i fod yn annibynnol. Mae canrifoedd o dra-arglwyddiaethu gan ein cymydog mawr wedi erydu hunanhyder rhai o’n cydwladwyr a gallwn bellach weld effaith caniatáu i ni ein hunain gael ein rheoli gan wlad arall. Ni yw’r partner gwannach ac mae ein hadnoddau naturiol a dynol wedi’u hecsbloetio er budd gwlad arall. Mae gwledydd bach eraill yn Ewrop fel Estonia, wedi rhyddhau eu hunain rhag rheolaeth cymdogion mwy ac wedi dangos y gallant gynnig dyfodol mwy disglair, mwy llewyrchus i’w pobl. Credaf y gallwn ni yng Nghymru wneud yr un peth.
Credaf y byddai fy mhrofiad fel heddwas, fel stiward siop ac o ymwneud â gwleidyddiaeth dros y blynyddoedd o werth mawr i mi pe bawn yn cael fy ethol i Fwrdd Cyfarwyddwyr YesCymru Cyf. Roeddwn yn aelod o’r Gweithgor a baratôdd yr Erthyglau Cymdeithasiad a’r Is-ddeddfau ar gyfer YesCymru Cyf a dysgais lawer o’r broses hon.
Nod YesCymru yw’r union beth i mi ei drysori ar hyd fy oes. Mae gennym gyfle i sicrhau dyfodol ein gwlad a’n cymunedau a sicrhau bod ein plant a phlant ein plant yn gallu byw mewn gwlad sy’n parchu eu hanes ac yn diogelu eu dyfodol.
Cysylltedd Gwleidyddol: Dim